Hana Lili
Hana Lili | |
---|---|
Ganwyd | 2000 Bro Morgannwg |
Man preswyl | Sili, Llundain |
Dinasyddiaeth | Cymru |
Galwedigaeth | canwr-gyfansoddwr, canwr |
Canwr-gyfansoddwr sy'n canu yn Gymraeg ac yn Saesneg yw Hana Lili (ganed 2000).[1]
Mae hi'n dod o Sili, Bro Morgannwg. Dysgodd ganu'r piano a'r ffliwt pan oedd hi'n blentyn a dechreuodd berfformio'n gyhoeddus pan oedd yn 12 oed.[1] Fel siaradwr Cymraeg iaith gyntaf, mae hi'n canu yn Gymraeg ac yn Saesneg.[2]
Dechreuodd ei gyrfa dan yr enw HANA2K.[1] Dan yr enw Hana Lili, yn 2021 defnyddiwyd un o’i senglau, Stay, fel trac cefndir yng nghyfres ITV “Love Island”.[3]
Yn gynnar yn 2023 ffurfiodd hi fand, a pherfformion nhw yng Ngwyl Fach y Fro, Ynys y Barri fis Mawrth 2023. Canodd hi hefyd gyda'r prif berfformiwr, Gwilym, ar ddiwedd yr Ŵyl.[4] Cydweithiodd hi ar sengl (a fideo) Gwilym, Cynbohir, yn 2022.[5]
Ar 6 a 7 Mehefin, cefnogodd Hana Lili y band Coldplay yn Stadiwm Principality Caerdydd, fel rhan o'u taith ryngwladol, Music of the Spheres. Canodd gwpwl o'i chaneuon Cymraeg.[2]
Yn 2021 roedd yn byw yn Llundain.[6]
Disgyddiaeth
[golygu | golygu cod]Cyfeiriadau
[golygu | golygu cod]- ↑ 1.0 1.1 1.2 "AAA Music Approved: HANA2K" (yn Saesneg). AAA Music. 2 Awst 2018. Cyrchwyd 18 Awst 2024.
- ↑ 2.0 2.1 "Meet the Welsh singer supporting Coldplay at the Principality Stadium". Nation.Cymru (yn Saesneg). 6 Mehefin 2023. Cyrchwyd 15 Awst 2024.
- ↑ Hall, Rachel (13 Awst 2021). "'It's a tastemaker': how Love Island can launch a musician's career" (yn Saesneg). theguardian.co.uk. Cyrchwyd 18 Awst 2024.
- ↑ Jamshidian, Harry (18 Mawrth 2023). "Free festival with live music coming to Barry after big 2022". Penarth Times. Cyrchwyd 19 Awst 2024.
- ↑ Gowan-Day, Ally-Joh (5 Awst 2022). "'Cynbohir' by Gwilym and Hana Lili - Video of the Week". Wales Arts Review. Cyrchwyd 19 Awst 2024.
- ↑ 6.0 6.1 Murray, Robin (18 Hydref 2021). "Hana Lili Announces Debut EP 'Flowers Die In The Summer'" (yn Saesneg). Clash Music. Cyrchwyd 18 Awst 2024.
- ↑ "New Noise: Hana Lili - "Solitude"" (yn Saesneg). Wonderland Magazine. 13 Rhagfyr 2022. Cyrchwyd 18 Awst 2024.