Hafaliad

Gosodiad mathemategol yw hafaliad (Saesneg: equation), sy'n cynnwys un neu ragor o newidynnau. Mae'n ddull o fynegi fod dau wrthrych mathemategol (rhifau, fel arfer) yn union yr un peth. Mynegir hyn yn symbolaidd â'r hafalnod, = , a ddefnyddiwyd yn gyntaf gan y mathemategwr o Gymro, Robert Recorde (tua 1510 – 1558). Dyma rai enghreifftiau o hafaliadau:
- 2 + 3 = 5
neu
- x − x = 0
neu
- x = y
neu
- x + 1 = 2.
Unfathiannau yw'r cyntaf a'r ail: maent yn wir, pa bynnag werth a gymer y newidynnau ynddynt. Lle nad yw hafaliad yn unfathiant, fe all y gosodiad fod yn wir neu'n anwir yn dibynnu ar werthoedd y newidynnau ynddo. Fe gelwir gwerthoedd o'r newidynnau sy'n peri i'r gosodiad fod yn wir yn wreiddiau (neu datrysiadau) yr hafaliad. Dywedir eu bod yn bodlonni yr hafaliad. Yn y drydedd enghraifft uchod, mae nifer anfeidrol o ddatrysiadau, x = 1 , y = 1 er enghraifft. Yn y bedwaredd enghraifft, dim ond un datrysiad, x = 1 sy'n bodoli. Dywedir ei fod yn wraidd unigryw.
Priodweddau elfennol[golygu | golygu cod y dudalen]
Mewn algebra elfenol, os yw hafaliad yn wir, fe ellir deillio hafaliad gwir arall ohono wrth wneud y canlynol:
- Adio rhif i ddwy ochr yr hafaliad.
- Tynnu rhif o ddwy ochr yr hafaliad.
- Lluosi dwy ochr yr hafaliad â'r un rhif.
- Rhannu dwy ochr yr hafaliad ag unrhyw rhif an-sero.
- Yn gyffredinol, gellir gymhwyso ffwythiant i'r ddwy ochr.
Mae hafaledd yn enghraifft o berthynas unfathiant.