Neidio i'r cynnwys

HS2

Oddi ar Wicipedia
HS2
Enghraifft o:high-speed railway line, uwchbrosiect cludiant Edit this on Wikidata
GwladBaner Lloegr Lloegr
Rhan oNational Rail Edit this on Wikidata
Lled y cledrau1435 mm Edit this on Wikidata
Gwladwriaethy Deyrnas Unedig Edit this on Wikidata
Gwefanhttps://www.hs2.org.uk/, https://hs-2.org/ Edit this on Wikidata
Dynodwyr
Freebase/M/02rxw8d edit this on wikidata
Tudalen Comin Ffeiliau perthnasol ar Gomin Wicimedia

Mae High Speed 2 (HS2) yn rheilffordd gyflym sy'n cael ei hadeiladu yn Lloegr ers 2019. Y llwybr arfaethedig ar gyfer y llinell yw rhwng Handsacre, yn ne Swydd Stafford, a Llundain, gyda changen i Birmingham. HS2 fydd ail reilffordd gyflym bwrpasol Lloegr ar ôl High Speed 1, sy'n cysylltu Llundain â Thwnnel y Sianel. Bydd Llundain a Birmingham yn cael eu gwasanaethu'n uniongyrchol gan drac cyflym newydd, a bydd gwasanaethau i Glasgow, Lerpwl a Manceinion yn defnyddio cymysgedd o drac cyflym newydd a Phrif Linell Arfordir y Gorllewin bresennol. Nid oes unrhyw ran o'r llinellau newydd hyn yn dod yn agos i Gymru. Er hyn (yn Hydref 2025) mae'r gyllideb ar gyfer y gwaith yn dod o Gymru (tua £5 biliwn) a Lloegr. Gobeithia'r adeiladwyr y byddan nhw'n cwblhau'r rhan fwyaf o'r prosiect erbyn 2033, ond cafodd hyn ei ohirio yn 2025 heb i ddyddiad newydd gael ei roi.

Mae'r trac newydd yn cael ei datblygu rhwng Euston a Handsacre, ger Lichfield yn ne Swydd Stafford, lle bydd cyffordd yn cysylltu HS2 â Phrif Linell Arfordir y Gorllewin (West Coast Main Line). Mae gorsafoedd newydd wedi'u cynllunio yn Old Oak Common yng ngogledd-orllewin Llundain, Cyfnewidfa Birmingham ger Solihull, a chanol dinas Birmingham. Mae'r trenau'n cael eu cynllunio i gyrraedd cyflymder uchaf o 360 km/h (220 mya) wrth weithredu ar drac HS2, gan ostwng i 125 mya (201 km/h) ar drac confensiynol. Gellir cymharu hyn gyda threnau Japan, sy'n gyrru ar gyflymder o (603 km/h) 375 mya.[1]

Mae hyd y trac newydd wedi'i leihau'n sylweddol ers iddo gael ei gyhoeddi gyntaf yn 2013: gweler y graffig. Yn wreiddiol, roedd i fod i rannu'n ganghennau dwyreiniol a gorllewinol i'r gogledd o Gyfnewidfa Birmingham. Byddai'r gangen ddwyreiniol wedi cysylltu â Phrif Linell y Midland yn Clay Cross yn Swydd Derby a Phrif Linell yr Arfordir Dwyreiniol i'r de o Efrog, gyda changen i derfynfa yn Leeds. Byddai'r gangen orllewinol wedi cysylltu â Phrif Linell yr Arfordir Gorllewinol yn Crewe ac i'r de o Wigan, gyda changen i derfynfa ym Manceinion. Rhwng Tachwedd 2021 a Hydref 2023, torrwyd y prosiect yn raddol nes mai dim ond y rhan o Lundain i Handsacre a Birmingham, bellach, sydd ar ôl. Canslwyd y gwaith ar y rhan rhwng Birmingham a Handsacre yn Hydref 2025, fel rhan o ailgychwyn y prosiect.

Mae gan y prosiect gefnogwyr a gwrthwynebwyr. Cred y cefnogwyr y bydd y capasiti ychwanegol a ddarperir yn darparu ar gyfer nifer y teithwyr sy'n codi i lefelau cyn COVID-19 drwy sbarduno cymaint o newid i'r status quo. Mae gwrthwynebwyr, ar y llaw arall, yn credu nad yw'r prosiect yn gynaliadwy yn amgylcheddol nac yn ariannol.

Ym Mawrth 2025, nid oedd unrhyw drac wedi'i osod.

Adeiladu

[golygu | golygu cod]
Adeiladu HS2 ger Leamington Spa yn Awst 2021

Dechreuodd y gwaith adeiladu yn swyddogol ar 4 Medi 2020,[2] yn dilyn oedi blaenorol. Mae gwaith y peirianwyrg sifil o adeiladu Rhan 1 yn werth tua £6.6 biliwn, gyda'r paratoadau'n cynnwys dros 8,000 o dyllau turio boreholes fel rhan o'r gwaith ymchwilio'r tir.[3] Ym Mawrth 2025, nid oedd unrhyw drac wedi'i osod, ac roedd tua thraean o'r gwaith peirianneg sifil wedi'i gwblhau (o 70-80 y cant a gynlluniwyd).[4] Roedd £40.5 biliwn wedi'i wario ar y prosiect yn gyffredinol hyd at fis Ebrill 2025. [5]

Yn Hydref 2025 amcangyfrifwyd y byddai'r gwaith sifil yn cael ei gwblhau o fewn pedair blynedd, cyn cychwyn gosod y systemau rheilffordd.[6]

Amseroedd teithio

[golygu | golygu cod]

Wrth siarad yn Nhŷ'r Arglwyddi yn Rhagfyr 2024, dywedodd Gweinidog Rheilffyrdd y DU, yr Arglwydd Hendy, nad oedd gwasanaethau HS2 wedi'u pennu na'u cwblhau ac y bydd gan Orsaf Euston chwe platfform HS2.[7]

Cyllid

[golygu | golygu cod]

Mae cynnydd mewn costau wedi arwain at ostyngiadau yn y trac arfaethedig; er enghraifft, cafodd y cysylltiad rhwng HS1 a HS2 ei ganslo ar sail cost.[8][9] Yn 2020 y gyllideb a osodwyd gan yr Adran Drafnidiaeth yw £98 biliwn, ond gall hyn godi, fel sy'n arferol, i £120 biliwn.

Gwariant Cyffredinol

[golygu | golygu cod]

Roedd £40.5 biliwn (prisiau enwol) wedi'i wario ar y prosiect cyfan hyd at Ebrill 2025, swm a gadarnhawyd mewn adroddiad gan lywodraeth y DU yng Ngorffennaf 2025.[10] Dyrannodd y llywodraeth £25.3 biliwn pellach i'w wario ar y prosiect rhwng 2026 a 2030.[11]

Nid oes unrhyw ran o'r llinellau newydd hyn yn dod yn agos i Gymru. Er hyn (yn Hydref 2025) mae'r gyllideb ar gyfer y gwaith yn dod o Gymru (tua £5 biliwn) a Lloegr.

Mae labelu HS2 fel prosiect "Lloegr a Chymru" wedi cael ei feirniadu gan Aelodau o Senedd Cymru ac Aelodau Seneddol, Llundain,[12] Plaid Cymru[13] Plaid Lafur Cymru a chyn-weinidogion Llywodraeth Cymru, gan ddadlau nad oes unrhyw ran o'r linell yn dod yn agos at Gymru ac na ddylai Cymru noddi'r linell i swm o bron i £5 biliwn. Maent arbenigwyr fel Mark Barry hefyd wedi dadlau y bydd HS2 yn cael effaith niweidiol ar economi Cymru. Mewn astudiaeth gan yr Adran Drafnidiaeth fod rhagolygon y byddai gan HS2 "effaith economaidd negyddol ar Gymru".

Nid yw seilwaith rheilffyrdd wedi'i ddatganoli i Gymru, felly mae gan awdurdodau datganoledig hawl i lai o Fformiwla Barnett, pan gynyddir cyllid i'r gweinyddiaethau datganoledig. Mae Llywodraeth Cymru wedi datgan ei bod eisiau ei "chyfran deg" o biliynau mewn cyllid HS2, a nododd Llywodraeth Cymru y byddai tua £5. biliwn yn ddyledus i Gymru yn 2020.[14] Ond yn Chwefror 2020 derbyniodd llywodraeth Cymru £755 miliwn yn unig. Dywedodd Simon Hart, Ysgrifennydd Gwladol Cymru, y byddai Network Rail yn buddsoddi £1.5 biliwn yn rheilffyrdd Cymru rhwng 2019 a 2024.[15]

Yn dilyn canslo Rhan 2 (Crew, Manceinion a Leeds), gostyngodd y swm roedd Llywodraeth Cymru yn ei hawlio i £3.9 biliwn. Ystyriodd Mark Drakeford, tra roedd yn Brif Weinidog, gamau cyfreithiol yn y llysoedd ynghylch y mater. Erbyn Mehefin 2024, gyda'r Blaid Lafur mewn grym yn San Steffan, gostyngodd Llywodraeth Cymru y fswm i £350 miliwn, gan nodi 'anawsterau' gydag ffiguraucynt. Honnodd Ysgrifennydd Gwladol Cysgodol Llafur dros Gymru, Jo Stevens, nad yw HS2 "mewn bodolaeth mwyach", pan gafodd ei holi pam fod Cymru'n noddi lein reilffordd yn Lloegr.[16]

Amcangyfrifodd astudiaeth Adran Drafnidiaeth y DU y gallai economi De Cymru golli hyd at £200 miliwn y flwyddyn, oherwydd HS2. Tynnodd yr un astudiaeth sylw at y ffaith y gallai gogledd Cymru elwa o amseroedd teithio cyflymach a hwb posibl i economi'r rhanbarth, gyda'r Adran Drafnidiaeth yn rhagweld budd o £50 miliwn o HS2 i'r gogledd. Mae hyn yn golygu amcangyfrif o £150 miliwn o golled i economi Cymru yn gyffredinol. Disgrifiodd Prif Weinidog Cymru, Mark Drakeford, mewn llythyr at y Prif Weinidog Boris Johnson fod system reilffyrdd Cymru wedi'i "hesgeuluso'n systematig" a bod cyllid HS2 yn cyfrannu ymhellach at ddirywiad. Mae HS2 wedi cynyddu'r galwadau i ddatganoli seilwaith rheilffyrdd Cymru yn llawn, fel y mae yn yr Alban.[17]

Yng Ngorffennaf 2021, cynghorodd y Pwyllgor Materion Cymreig (y DU) y dylid ailddosbarthu HS2 fel prosiect "Lloegr yn unig", gan ganiatáu i Gymru fod â hawl i'w cyfran drwy Fformiwla Barnett, yn unol â'r Alban a Gogledd Iwerddon; ond galwodd y pwyllgor hefyd am sefydlu "Bwrdd Rheilffyrdd Cymru" yn lle datganoli seilwaith rheilffyrdd i Gymru, ac am uwchraddio Prif Linell Gogledd Cymru.[18][17]

Cynhaliodd Adran Drafnidiaeth y DU astudiaeth ar drefi a dinasoedd a fyddai’n colli’n economaidd o ganlyniad i HS2, gan dynnu sylw at Gaerdydd aBryste.[19][15][20][21] Gydad amseroedd teithio cyflymach rhwng Llundain a Gogledd Lloegr o dan HS2, byddai Caerdydd yn benodol yn colli llawer o’i mantais gystadleuol.[22]

Darllen pellach

[golygu | golygu cod]
  • Tetlow, Gemma; Pattison, Jeremy (5 October 2023). "HS2: costs and controversies: How much has the HS2 project cost since its inception?". Institute for Government. Cyrchwyd 26 November 2023.
  • Atkins (2009). "High Speed Line Study: Summary Report" (PDF). Department for Transport. Archifwyd o'r gwreiddiol (PDF) ar 9 April 2010. Cyrchwyd 13 Mawrth 2010.

Cyfeiriadau

[golygu | golygu cod]
  1. "Japan's maglev train breaks world speed record with 600 cilomedr yr awr (370 milltir yr awr) test run". The Guardian. United Kingdom. 21 April 2015. Cyrchwyd 21 April 2015.
  2. "HS2 rail project work begins with pledge of 22,000 jobs". BBC News. 4 September 2020. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 4 September 2020. Cyrchwyd 4 September 2020.
  3. Simpson, Jack (19 July 2018). "HS2 civils start delayed another three months". Construction News. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 12 October 2018. Cyrchwyd 11 October 2018.
  4. Robson, Steve (2025-05-17). "New HS2 farce as £32bn spent - but still not a single track laid". The i Paper (yn Saesneg). Cyrchwyd 2025-06-18.
  5. "HS2 6-monthly report to Parliament: July 2025". GOV.UK (yn Saesneg). 2025-07-17. Cyrchwyd 2025-08-31.
  6. Hakimian, Rob (2025-10-06). "'It's working': HS2 reset sees productivity uptick and targets civils completion in 4 years". New Civil Engineer (yn Saesneg). Cyrchwyd 2025-10-09.
  7. "Rail Minister confirms six platform plan for Euston HS2 station". Modern Railways. 18 December 2024. the New HS2 station will consist of six platforms, which can support up to 10 HS2 trains per hour
  8. Withers, Iain (17 March 2014). "Government decides to drop £700m HS2 to HS1 link". Building. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 21 September 2021. Cyrchwyd 4 October 2023.
  9. Paton, Graeme (4 November 2020). "HS2 'on track to cost taxpayer £170bn'". The Times. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 5 November 2020. Cyrchwyd 4 November 2020.
  10. "HS2 6-monthly report to Parliament: July 2025". GOV.UK (yn Saesneg). 2025-07-17. Cyrchwyd 2025-08-31.
  11. "HS2 6-monthly report to Parliament: July 2025". GOV.UK (yn Saesneg). 2025-07-17. Cyrchwyd 2025-08-31.
  12. "Wales is paying for HS2 but it will harm our economy - we must receive the £5 billion we are owed". Nation.Cymru (yn Saesneg). 12 February 2020. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 28 November 2021. Cyrchwyd 28 November 2021.
  13. "Plaid Cymru launch General Election manifesto with bid for £4bn HS2 compensation". ITV News. 13 June 2024.
  14. Barry, Sion (26 August 2020). "Wales will not get multi-billion pound HS2 consequential says Grant Shapps". Business Live (yn Saesneg). Archifwyd o'r gwreiddiol ar 28 November 2021. Cyrchwyd 28 November 2021.
  15. 15.0 15.1 "HS2: Outrageous rail project will not benefit Wales, transport expert says" (yn Saesneg). BBC News. 11 February 2020. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 28 November 2021. Cyrchwyd 28 November 2021.
  16. Price, Emily (27 June 2024). "Welsh Government recalculates sum owed in HS2 consequentials to just £350m". Nation.Cymru (yn Saesneg). Cyrchwyd 28 June 2024.
  17. 17.0 17.1 "HS2 rail scheme should be reclassified as 'England only project' say MPs". The National Wales (yn Saesneg). Archifwyd o'r gwreiddiol ar 28 November 2021. Cyrchwyd 28 November 2021.
  18. Barry, Sion (14 July 2021). "HS2 should be reclassed as an England only project says Welsh Affairs Committee". Business Live (yn Saesneg). Archifwyd o'r gwreiddiol ar 28 November 2021. Cyrchwyd 28 November 2021.
  19. "Revealed: the towns and cities set to lose millions over HS2". Channel 4 News (yn Saesneg). 19 October 2013. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 28 November 2021. Cyrchwyd 28 November 2021.
  20. Paton, Graeme; Sobocinska, Kasia; Butt, Yasmin. "X-shaped HS2 plan will link cities in southwest". The Times. ISSN 0140-0460. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 28 November 2021. Cyrchwyd 28 November 2021.
  21. Arthur, Andrew (8 February 2021). "HS2 rail links through Bristol and South West proposed by report". Business Live. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 28 November 2021. Cyrchwyd 28 November 2021.
  22. Stuart Cole (17 February 2020). "The Impact of HS2 on Wales". Business News Wales. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 25 August 2022. Cyrchwyd 25 August 2022.