Gymiau gwin

Oddi ar Wicipedia
Gymiau gwin

Melysion traddodiadol ym Mhrydain yw gymiau gwin (ffurf unigol: gwm gwin). Maent yn jelïau o flasau, lliwiau a siapiau gwahanol a wneir o gelatin neu bectin. Gan amlaf ceir enwau gwahanol gwinoedd a diodydd alcoholaidd eraill ar y melysion. Er yr enw, nid oes alcohol ynddynt.[1]

Dyfeisiwyd gan Charles Gordon Maynard, etifedd y cwmni Maynards, ym 1909. Bu'n rhaid iddo berswadio ei dad, Charles Riley Maynard, nad oedd y melysion yn cynnwys gwin. Yr enwau ar gymiau gwin Maynards yw "port", "sherry", "champagne", "burgundy", a "claret".[2] Mae brandiau eraill yn cynhyrchu gymiau gwin gydag enwau eraill gan gynnwys brandi, jin, seidr, hoc, coniac, a rỳm, er nad yw rhai o'r diodydd hyn yn winoedd.[1]

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod]

  1. 1.0 1.1 (Saesneg) The Wine Gum Flavors Debate. Wombania. Adalwyd ar 6 Tachwedd 2014.
  2. (Saesneg) Maynards Factsheet. Cadbury. Adalwyd ar 6 Tachwedd 2014.

Dolenni allanol[golygu | golygu cod]

Eginyn erthygl sydd uchod am felysion. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato.