Gwytnwch ecolegol

Oddi ar Wicipedia
Gwytnwch ecolegol
Enghraifft o'r canlynolcysyniad Edit this on Wikidata
Mathrobustness Edit this on Wikidata

Mewn ecoleg, gwytnwch (Saesneg: resilience) yw gallu ecosystem i ymateb i aflonyddwch neu newid trwy wrthsefyll difrod ac ail-adfer ei hun yn gyflym. Gall aflonyddwch a newid gynnwys digwyddiadau stocastig fel tanau, llifogydd, stormydd gwynt, ffrwydradau poblogaeth o bryfed, a gweithgareddau dynol fel datgoedwigo, ffracio’r tir ar gyfer echdynnu olew, plaladdwyr wedi’u rhoi yn y pridd, a chyflwyno rhywogaethau planhigion neu anifeiliaid egsotig neu wahanol. Gall aflonyddwch enfawr neu am gyfnod hir effeithio'n ddifrifol ar ecosystem. Pan fo trothwyon yn gysylltiedig â phwynt critigol, gellir cyfeirio at y newidiadau cyfundrefnol hyn fel trawsnewidiadau argyfyngus.[1]

Mae gweithgareddau dynol sy'n effeithio'n andwyol ar wytnwch yr ecolegol, megis lleihau bioamrywiaeth, ymelwa ar adnoddau naturiol, llygredd, defnydd tir, a newid hinsawdd anthropogenig yn gynyddol achosi newidiadau craidd i'r ecosystemau hyn, yn aml i amodau llai dymunol a diraddiol.

Mae trafodaeth ryngddisgyblaethol ar wytnwch erbyn heddiw (2023) yn cynnwys ystyried rhyngweithiadau bodau dynol ac ecosystemau trwy systemau cymdeithasol-ecolegol, a'r angen i symud o'r patrwm cynnyrch cynaliadwy mwyaf i reoli adnoddau amgylcheddol a rheoli ecosystemau, sy'n anelu at adeiladu gwytnwch ecolegol trwy "ddadansoddiad o wytnwch, rheoli adnoddau addasol, a llywodraethu addasol". Mae gwytnwch ecolegol wedi ysbrydoli meysydd eraill ac yn parhau i herio'r ffordd y maent yn dehongli gwytnwch, ee gwytnwch y cadwyni cyflenwi.

Temperate lake and Mulga woodland
Ecosystemau amrywiol llyn a Mulga yn dangos sawl cyflwr posib.

Geirdarddiad[golygu | golygu cod]

Gwraidd y gair 'gwytnwch' yw 'gwydn' a ddiffinir gan Eiriadur Prifysgol Cymru fel: caled', 'parotach i blygu nag i dorri', a 'medru gwrthsefyll trael(io)'. https://www.geiriadur.ac.uk/gpc/gpc.html

Diffiniadau[golygu | golygu cod]

Yn y cyswllt hwn, mae Chweched Adroddiad Asesiad yr IPCC yn diffinio gwytnwch fel, “nid yn unig y gallu i gynnal swyddogaeth, hunaniaeth a strwythur hanfodol, ond hefyd y gallu i drawsnewid.” Mae'r IPCC yn ystyried gwytnwch o ran adferiad ecosystemau yn ogystal ag adfer ac addasu cymdeithasau dynol i drychinebau naturiol.[2]

Cyflwynwyd y cysyniad o wytnwch mewn systemau ecolegol gyntaf gan yr ecolegydd o Ganada C. S. Holling er mwyn disgrifio dyfalbarhad systemau naturiol yn wyneb newidiadau yn yr ecosystem oherwydd achosion naturiol neu anthropogenig. Mae gwytnwch wedi’i ddiffinio mewn dwy ffordd mewn llenyddiaeth ecolegol:

  1. yr amser sydd ei angen i ecosystem ddychwelyd i gydbwysedd neu gyflwr cyson yn dilyn aflonyddwch neu newid mawr (a ddiffinnir hefyd fel sefydlogrwydd (stability) gan rai awduron). Defnyddir y diffiniad hwn o wytnwch mewn meysydd eraill megis ffiseg a pheirianneg, ac felly mae Holling wedi'i alw'n 'gydnerthedd peirianneg'.
  2. fel "gallu system i amsugno'r aflonyddwch neu dderbyn y newid, drwy ail-drefnu ei hun, tra'n mynd trwy'r newid er mwyn dal i gadw'r un swyddogaeth, strwythur, hunaniaeth ac adborth".

Mae'r ail ddiffiniad wedi'i alw'n 'wytnwch ecolegol', ac mae'n rhagdybio bodolaeth nifer o gyflyrau neu gyfundrefnau sefydlog.

Er enghraifft, gall rhai llynnoedd tymherus, bas fodoli naill ai o fewn cyfundrefn ddŵr glir, sy'n darparu llawer o wasanaethau ecosystem, neu gyfundrefn ddŵr cymylog, sy'n darparu gwasanaethau llai yn yr ecosystem ac sy'n gallu cynhyrchu cymylau o algâu gwenwynig. Mae'r gyfundrefn neu'r cyflwr yn dibynnu ar gylchredau ffosfforws y llyn, a gall y naill gyfundrefn neu'r llall fod yn wydn yn dibynnu ar ecoleg a rheolaeth y llyn.

Effaith dyn[golygu | golygu cod]

Mae gwytnwch yn cyfeirio at sefydlogrwydd ecosystemau a'r gallu i oddef aflonyddwch ac adfer ei hun. Os yw'r aflonyddwch yn ddigon mawr neu'n para'n ddigon hir, gellir cyrraedd trothwy pan fydd yr ecosystem yn mynd trwy newid craidd (regime shift) yn barhaol o bosibl. Mae defnydd cynaliadwy o nwyddau a gwasanaethau amgylcheddol yn gofyn am ddeall ac ystyried cydnerthedd yr ecosystem a'i chyfyngiadau. Fodd bynnag, mae'r elfennau sy'n dylanwadu ar wytnwch ecosystemau yn gymhleth. Er enghraifft, mae amrywiol elfennau megis y cylchred dŵr, ffrwythlondeb, bioamrywiaeth, amrywiaeth planhigion a hinsawdd, yn rhyngweithio'n ffyrnig ac yn effeithio ar systemau gwahanol.

Mae i ba lefel mae gweithgarwch dynol yn effeithio ar fywyd y blaned yn dibynnu ar, wytnwch yr ecosystemau daearol, dyfrol a morol. Mae'r gweithgarwch yma'n cynnwys amaethyddiaeth, datgoedwigo, llygredd, mwyngloddio, hamdden, gorbysgota, dympio gwastraff i'r môr a newid hinsawdd.

Amaethyddiaeth[golygu | golygu cod]

Gellir gweld amaethyddiaeth fel enghraifft arwyddocaol y dylid ei hystyried. Y mater organig (carbon a nitrogen) mewn pridd, sy'n cael ei ailadfer gan blanhigion lluosog, yw prif ffynhonnell maetholion ar gyfer twf cnydau . Ar yr un pryd, mae arferion amaethyddiaeth dwys mewn ymateb i'r galw byd-eang am fwyd yn golygu fod pobl yn cael gwared ar chwyn gyda chwynladdwyr ac yn defnyddio gwrtaith i gynyddu cynhyrchiant bwyd . Fodd bynnag, o ganlyniad i ddwysáu'r gwaith ar lefel mor fawr, mae bioamrywiaeth planhigion yn cael ei leihau. Mae hyn yn arwain at ostyngiad mewn ffrwythlondeb yn y pridd. Byddai arferion amaethyddol mwy cynaliadwy yn ystyried ac yn amcangyfrif gwytnwch y tir ac yn monitro a chydbwyso mewnbwn ac allbwn y deunydd organig.

Datgoedwigo[golygu | golygu cod]

Mae gan y term datgoedwigo ystyr sy'n cwmpasu croesi trothwy gwytnwch coedwigoedd a cholli ei gallu i ddychwelyd i'w chyflwr sefydlog gwreiddiol. Yn gyffredinol, mae gwytnwch systemau'r goedwig yn caniatáu adferiad o raddfa gymharol fach o ddifrod (fel mellt neu dirlithriad neu dowlu coed gan wynt) o hyd at 10 y cant o'i arwynebedd. Po fwyaf yw maint y difrod, y mwyaf anodd yw hi i ecosystem y goedwig adfer a chynnal ei chydbwysedd naturiol.

Newid hinsawdd[golygu | golygu cod]

Gorbysgota[golygu | golygu cod]

Mae Sefydliad Bwyd ac Amaethyddiaeth y Cenhedloedd Unedig wedi amcangyfrif bod dros 70% o stociau pysgod y byd naill ai’n cael eu hecsbloetio’n llawn neu’n cael eu disbyddu, sy’n golygu bod gorbysgota’n bygwth gwytnwch ecosystemau morol ac mae hyn yn bennaf oherwydd twf cyflym yn y dechnoleg ddiweddaraf o bysgota ar lefel enfawr, bydeang. Un o’r effeithiau negyddol ar ecosystemau morol yw bod y stociau o bysgod arfordirol wedi lleihau’n aruthrol dros yr hanner canrif ddiwethaf o ganlyniad i orbysgota, am resymau economaidd. Mae tiwna asgell las mewn perygl arbennig o ddiflannu. Mae disbyddu stociau pysgod yn arwain at lai o fioamrywiaeth ac o ganlyniad anghydbwysedd yn y gadwyn fwyd, ac yn peri i'r pysgod fod yn fwy agored i afiechyd.

Dympio gwastraff i'r môr[golygu | golygu cod]

Mae dympio carthion a llygredd eraill i'r cefnfor yn aml yn cael ei wneud oherwydd natur wasgaredig y cefnforoedd a natur ymaddasol y bywyd morol i brosesu'r malurion a'r llygredd hwn. Ond mae dympio gwastraff yn bygwth ecosystemau morol trwy wenwyno'r bywyd morol a thrwy ewtroffeiddio .  

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod]

  1. Scheffer, Marten (26 July 2009). Critical transitions in nature and society. Princeton University Press. ISBN 978-0691122045.
  2. Pörtner, Hans-O.; Roberts, Debra; Adams, Helen; Adler, Caroline; et al. "Summary for Policymakers". Climate Change 2022: Impacts, Adaptation and Vulnerability. The Sixth Assessment Report of the Intergovernmental Panel on Climate Change. In Press. t. 9.

Darllen pellach[golygu | golygu cod]

  • Hulme, M. (2009). “Pam Rydym yn Anghytuno ynghylch Newid Hinsawdd: Deall Anghydfod, Diffyg Gweithredu a Chyfle”. Gwasg Prifysgol Caergrawnt.
  • Lee, M. (2005) “Cyfraith Amgylcheddol yr UE: Heriau, Newid a Gwneud Penderfyniadau”. Hart. 26.
  • Maclean K, Cuthill M, Ross H. (2013). Chwe nodwedd cadernid cymdeithasol. Cylchgrawn Cynllunio a Rheolaeth Amgylcheddol. (ar-lein yn gyntaf)
  • Pearce, DW (1993). “Glasbrint 3: Mesur Datblygiad Cynaliadwy”. Earthscan .
  • 978-1451683813

Dolenni allanol[golygu | golygu cod]

  • Cynghrair Gwydnwch - rhwydwaith ymchwil sy'n canolbwyntio ar Gynghrair Gwydnwch cydnerthedd cymdeithasol-ecolegol
  • Canolfan Gwydnwch Stockholm - canolfan ryngwladol sy'n hyrwyddo ymchwil trawsddisgyblaethol ar gyfer llywodraethu systemau cymdeithasol-ecolegol gyda phwyslais arbennig ar wydnwch - y gallu i ddelio â newid a pharhau i ddatblygu Canolfan Gwydnwch Stockholm
  • TURAS — prosiect Ewropeaidd sy'n mapio trawsnewid trefol tuag at wytnwch a chynaliadwyedd TURaS
  • Microdocs: Resilience - rhaglen ddogfen fer ar Wytnwch Resilience Archifwyd 2014-01-09 yn y Peiriant Wayback.