Gwyrddling

Oddi ar Wicipedia
Jump to navigation Jump to search
Myrica gale
Delwedd o'r rhywogaeth
Dosbarthiad gwyddonol
Teyrnas: Plantae
Ddim wedi'i restru: Angiosbermau
Ddim wedi'i restru: Ewdicotau
Ddim wedi'i restru: Rosidau
Urdd: Fagales
Teulu: Myricaceae
Genws: Myrica
Rhywogaeth: M. gale
Enw deuenwol
Myrica gale
Carl Linnaeus
Cyfystyron

Gale palustris

Llwyn neu goeden bychan blodeuol a deugotyledon yw'r Gwyrddling (neu'r Helygen Fair). Derbynir y ddau enw, o statws hafal, oherwydd tras hir y cyntaf ac arferiad cyfoes (ond anghywir o ran ei dacsonomeg - nid yw'n aelod o deulu'r helyg) yr ail. Mae'n perthyn i'r teulu Myricaceae. Yr enw gwyddonol (Lladin) yw Myrica gale a'r enw Saesneg yw Bog myrtle.[1] Ceir enwau Cymraeg eraill ar y planhigyn hwn gan gynnwys Helygen Fair, Bwrli, Cwrli, Gwrling, Gwrddling, Gwyrddling, Madrwydd, Madywydd, Madywydd Bêr, Mordywydd a Myrtwydd y Gors.

Gall dyfu i uchder o ddwy fetr ac mae'n perthyn yn agos i'r llawryf.

Disgrifiad[golygu | golygu cod y dudalen]

Llwyn bychain collddail, yn aml yn tyfu'n glystyrau sy'n gorchuddio darnau helaeth o dir corsiog. Y blodau melyn-frown yn debyg i gynffonau wyn back byrrion. Fe'u peillir gan y gwynt yn gynnar yn Ebrill a Mai a cheir y blodau gwrywaidd a benywaidd fel arfer ar blanhigion gwahanol. Gorchuddir y planhigyn a chwarennau bychain melyn, llawn ystor persawrus - tebyg i eucalyptus - sy'n gwneud y dail hirgrwn a'r blagur yn arbennig o aroglus.

Ecoleg[golygu | golygu cod y dudalen]

Cynefin a thiriogaeth[golygu | golygu cod y dudalen]

Yn tyfu yn bennaf ar weundiroedd yn rhannau gogledd orllewinal a mwy glawog Prydain ac Iwerddon[2].Yn lled gyffredin yng Ngwynedd a rhannau o Fôn ar dir na chaiff ei bori ond yn ysgafn ond yn gyfyngedig iawn mewn ardaloedd eraill o Gymru. Yn tyfu fel arfer gyda glaswellt y gweunydd Molinia caerulea a migwyn (rh. Sphagnum). Yn Ewrop mae ganddo ddosbarthiad arfordirol Atlantaidd gogleddol yn ymestyn o Galicia, ar hyd arfordir yr Iwerydd, y Baltig, a hyd gogledd Norwy[3].

Palaeobotaneg[golygu | golygu cod y dudalen]

Gellir adnabod olion hynafol y gwyrddling ar ffurf paill ac fel olion yn ymylu ar fod yn ffosil. Er hyn, bu dryswch erioed rhwng paill y gwyrddling a phaill y gollen a bu'n rhaid anwybyddu llawer o'r samplau mwyaf anargyhoeddiadol gyda bod anhysonderau rhwng tystiolaeth yr olion paill a thystiolaeth yr olion macrosgopig yn dod i'r amlwg. Yn y ffynhonnell sydd dan sylw yma[4], fe gyfyngwyd y dystiolaeth i'r olion macrosgopig yn unig.

Heddiw cyfyngir y gwyrddling i gorsydd nad ydynt ar y naill law yn rhy sûr (asidig) nac ar y llaw arall, yn rhy 'felys' (ewtroffig). Ar raddfa amser ôl-rewlifol mae bron y cwbl o'r cofnodion yn digwydd ar ôl diwedd Parth Paill VIIa [tua 500CC, dechrau'r Oes Haearn a'r Is-Atlantaidd pan oedd yr hinsawdd yn cynhesu, yn wlypach a phan oedd gweithgareddau amaethyddol llwythau'r Oes Haearn yn gyflym tanseilio'r gorchudd o goed a oedd tan hynny yn ymestun dros 90% o'r tir[5]]. Hyd ddyddiau Pennington (1969) ni chafwyd tystiolaeth o'r gwyrddling ym Mhrydain cyn hynny (ag eithrio un cofnod o'r cyfnod Atlantaidd 6-3 mil o flynyddoedd CC) ond newidiodd hynny yn ddiweddarach[6] gyda chynrychiolaeth llawer mwy helaeth o'r cyfnod Atlantaidd yn dod i'r fei. Golyga hyn bod y gwyrddling yn rhan o fflora y Mesolithig hwyr a'r Neolithig pan oedd coed yn gorchuddio oddeutu 90% o'r dirwedd

Mae perthynas y gwyrddling a hinsawdd gynnes yn cynnwys hoffter am hinsawdd arfordirol hefyd fel mae ei ddosbarthiad yn Ewrop yn ei awgrymu heddiw gan mai cyfyngedig i arfordiroedd gogledd a gorllewin Ffrainc ac arfordir gogledd Portiwgal [!Galicia?] ydyw[7]

Gofynion hinsoddol a thopograffig[golygu | golygu cod y dudalen]

Mae'n ffynnu mewn hinsawdd cefnforol o lawiad yn cyrraedd o leiaf 200 o ddyddiau glaw y flwyddyn. Mae'n blanhigyn sydd yn hoffi'r golau ac mae'n brin lle mae'r golau yn llai na 40% (ond dan rhai amgylchiadau mae'n gallu byw dan gysgod coed). Mae'n arwydd cryf o safle gwlyb, ac yn ffynnu mewn corsdiroedd ac ar y llethrau o'u cwmpas[6].

Edaffig (yn ymwneud a'r pridd)[golygu | golygu cod y dudalen]

Mae rôl y gwyrddling fel gosodydd nitrogen yn peri iddo effeithio'n sylweddol ar gyfansoddiad y cymunedau y mae'n rhan ohonynt ac mae'r rhinwedd hwn yn caniatau iddo dyfu ar briddodd o argaeledd isel o Nitrogen. Mae'n tyfu yn nodweddiadol ar gorsydd lefelau isel neu ar lethrau uwch, lle bo'r mawn yn fas (50±80 cm) ac o pH 3.8-6.1.

Mae ei ymlediad trwy'r gwreiddiau yn arwain at batrwm dosbarthiad clystyrog. Gall hyn arwain at dranc glystyrau o'r math oherwydd cysgodi fel sydd yn ymddangos yn yr is-gymuned Carex panicea-Scirpus cespitosus-Erica tetralix sef y gymuned rhostir gwlyb. Profwyd cyd-berthynas negyddol gref iawn rhwng gorchudd a lledaeniad y gwyrddling a lefelau CO2 a H2S[6].

Mae gwreiddiau'r gwyrddling yn gweithredu fel stôr bwyd at y gaeaf. Mae egin yn brin yn y maes, a chenhedlu yn dibynnu'n helaeth ar rheisomau[6] .

Botanegol[golygu | golygu cod y dudalen]

Mae'r gwyrddling yn blanhigyn deuoecaidd (y ddau ryw ar blanhigion ar wahan) yn groes i'w gefndryd yn y genws. Cyfyd hyn gwestiynnau ynglyn â'r llwybrau esblygiad rhwng monoeceidd-dra a deuoeceidd-dra[6]. Mae'r graddfa uwch o frig gwryw yn y gwyrddling yn yn eithriadol mewn rhywogaethau deuocaidd neu led-deuocaidd y tu allan i deulu moron (Umbelliferae)[6]

Terminoleg Cynefin[golygu | golygu cod y dudalen]

Eir i'r dudalen Cors am gymhlethdodau terminoleg y cynefin hwn.

Adwaith i ffactorau biotig[golygu | golygu cod y dudalen]

Tra gall y gwyrddling dyfu i uchder o 250 cm[6] mae pori yn gostwng hyn i 50 cm. Mae geifr yn gostwng y level i lai na hanner yr hyn mae defaid yn ei wneud[6]. Mae gan y gwyrddling nifer o bathogenau ffyngaidd ac yswyr pryfedol. Ymddengys fod yr olew yn cael effaith negyddol ar bryfed sydd yn ei ysu.

Entomolegol[golygu | golygu cod y dudalen]

Er gwaetha rhinweddau gwrth-bryfedegol y planhigyn mae'n amlwg i amryw o bryfed ddatblygu'r gallu i ddygymod a hwynt, oherwydd mae'r gwyrddling yn fwyd pennaf i lindys y gwyfynod canlynol yng Nghymru neu Brydain:

Teulu'r Pothellwyr Lyonetiidae
  • Bucculatrix cidarella [8]

Turiwr i ddail gwern a gwyrddling. Gweddol gyffredin dros Brydain. Fe'u cafwyd ar y gwyrddling yng Nghymru yn y gogledd-orllewin yn unig, ym Môn a Chors Fochno. Ymddengys i'w boblogaeth fod yn sylweddol uwch ar y gwyrddling na phan fydd ar y gwern[9]

Teulu'r Noswyfynod Noctuidae

Mae'r poblogaethau gogleddol yn fwy amrywiol eu patrwn na'r rhai yn y de, ac efallai bod hyn rhywsut yn gysylltiedig â'r duedd i ffafrio gwyrddling fel bwyd gan y lindys yno, gan i'r rhywogaeth ffafrio helyg ymhellach i'r de. Gall poblogaethau amrywiol gydfyw â rhai unffurf yng Nghymru heb gyd-genhedlu[10]

  • gwrid y gors Coenophila subrosea
    Gwrid y Gors: gwyfyn hynod brin yn dal ei dir yng Nghymru

Hynod brin. Nis cafwyd ym Mhrydain ar ôl c.1850 tan 9 Awst 1965 pan gafwyd sbesimen yng ngogledd Cymru (Morfa Harlech) Cafwyd rhagor ychydig yn ddiweddarach yng Nghors Fochno. Maent yn fwy eang eu bwyd ar y Cyfandir[9]

Ym Mhrydain fe ddeorodd y lindys ar ôl ffafrio ymborthi ar wyrddling a chorhelygen dros goed fforest sydd fwyd pennaf iddynt ar y Cyfandir.

  • Gwyfyn bwâu mawr[11]

Mae'r gwyrddling yn ffurfio rhan o fwyd y gwyfynod canlynol: Clai mannog, Xestia baja; gwyfyn bwâu arian Polia hepatica; pali hardd Lacanobia contigua; pali dwy aren Papestra biren; teulu'r gwyfynod tai (Oecophoridae), Dasystoma salicella.

CEIR ADRODDIAD MWY CYNHWYSFAWR O'R PRYFED SYDD YN EI YSU YMA[6]

Enwau[golygu | golygu cod y dudalen]

Lladin

Myrica gale (L.): myrica yn golygu persawr (myrike yn hen enw Groegaidd am y tamarisc, i'r hwn y mae'n debyg) a gale yn hen enw Saesneg am y planhigyn[12]

Cymraeg[13][14][15]
Enwau Cymraeg eraill a'u hetymoleg[16]

Gellir gwahaniaethu 2-4 Grwp o'r enwau amgen hyn, sef a) Grwp Gwyrddling, b) Grwp Bwrli sydd efallai yn cyd-darddu a gwyrddling, c) Grwp Myrtwydd, tras Beiblaidd? ac ch) Grwp Madywydd, o myrtwydd efallai ond yn amwys ei ystyr?.

  • Gwyrddling, gwrling, gwyrling, [gwyrdd1+elf. anh.]

Cyfeiriad cynharaf: 15g. (Diw. 16g.) Gwyn 3 175, A ffaling wrddling wyrdd-las / a phinagl aur a phen glas [Deio ab Ieuan Du i’r paun].
Cyfeiriad nodedig: 1682 E. Lhuyd: LL 75, Two or three small roots of Gwrddling [:- Sweet Gale].

  • Cwrli (Meirion), cwrlid, (Meirion), cwrli

Amr. ar yr uchod? Nid oes cyfeiriad yn GPC at cwrli na cwrlid yn yr ystyr arbennig dan sylw.

  • Bwrli

Cyfeiriad nodedig: 1813 Welsh Botanology 162. Gall bwrli (emetig) fod yn ffurf gysefin neu'n amrywiad ar gwrling ayb. Gall fod yn ffurf wallus o cwrli wedi ei gopio wedyn. Bwrli: eg. Bot. Gwyrddling: sweet gale, bog myrtle.
Cyfeiriad cynharaf: 1784 T. Pennant: TW ii. (1883), 307, The Gale, or bog myrtle … is called Bwrli, or the emetic plant.

  • Madywydd, Mordywydd,

madywydd [?mad1+ywydd] e.ll. neu eg. Bot. Helyg Mair, gwyrddling, Myrica gale: amr. mordywydd.  Cyfeiriadau geiriadurol yn unig sydd i'r rhain ag eithrio: 1707 AB 281c, The Dutch Myrtle or sweet Gale is called in Cardiganshire Mordywydd d.g. myrtle

  • Myrtwydd y gors, Madywydd bêr, Madrwydd, Mydywydd.

Myrtwydd [myrt+gwŷdd1] e.ll. (un. b. myrtwydden). Bot. Coed o’r tylwyth Myrtus, yn enw. M. communis, sef llwyn a chanddo ddail bytholwyrdd, blodau persawrus pinc neu wyn, ac aeron dulas: myrtles (cyfeiriadau Beiblaidd gan gynnwys yr enwog "1620 Sech i. 8, yr oedd efe yn sefyll rhwng y myrt-wŷdd (1588 Sech i. 8, myr-wŷdd)". Myrwydd [myrr1+gwŷdd1, cf. 1588 Sech i. 11, coed myrr] e.ll. Coed myrr, yn wallus am fyrtwydd: myrrh-trees, erron. for myrtle trees.

Enwau'r ieithoedd Celtaidd
Llydaweg: reed[17], red (ret, 1492)[18]
Gwyddeleg: raideog
Gaeleg yr Alban: raidog, railleog neu roid roddag
Manaweg: roddagagh
Gwyddeleg: rideog (Gwyddeleg-ganol: raideog).

Ffurfiai'r enwau hyn sylfeini cyfenwau ac enwau lleoedd ym Mhrydain. Er enghraift, daw Auchreddie(New Deer heddiw) yn swydd Buchan o'r Gaeleg am "gae gwyrddling". Mae pentref Wyrley (Hen Saesneg: wir = gwyrddling; weah = tir wedi ei glirio, yn golygu 'man lle tyf y gwyrddling'. Oes cliw yma i darddiad yr gair gwyrddling?). Sonnir am y lle yn arolwg Doomsday fel Wirlega yn 1170 (Ekwall 1987). Yn ddiwedddarach cyfyd y cyfenw Worley. Mae tref fach Porsgrunn, yn Norwy wedi ei enwi ar ôl gwyrddling[6].

Enwau lleoedd[golygu | golygu cod y dudalen]

Cors Gwrli (Meirionydd), Gwern y Gwrlid ar dir Gellirydd, Llanaber, Meirion, Werglodd gwrlid yn Betws Bach, Llanystumdwy, Arfon (TE).
Cafwyd y pedwar enw canlynol a allai gyfeirio at y gwyrddling yng Archif Melville Richards[19]. Dengys ffurf yr enw fel y'i cofnodwyd, y dyddiad cynharaf, yr ardal a'r "hen sir": Blaen Cae'r Gwrli (1789, Cororion, Caernarfon); Cae'r-gwrle (1838, Llantrisant, sir amhendant); Gwern y gwrling (1600, Dolbenmaen, Caernarfon); Gwrlin bach (1844, Dolbenmaen, Caernarfon)

Defnydd[golygu | golygu cod y dudalen]

Gellir crynhoi rhinweddau'r gwyrddling o dan tri phennawd, Moddion lles a Meddygaeth, (moddion gwrth llyngyr a phryfed, erthylbair a chyfogbair), Diod (sawru brag), a Defnyddioldeb ymarferol (llifo gwlan a chrwyn, gwneud cwyr). Cyflwynir y tri yn fras yn eu trefn.

Moddion lles a Meddygaeth
  • Moddion gwrth bryfed a llyngyr

Ceir amryw o gyfeiriadau at y defnydd o gwrlid neu helyg Mair i gael gwared o chwain o welyau[20], e. e. "gosod canghenau o hono o amgylch y gwely, a [hel] ymaith y chwain"[21]. Ategir hynny gan un enw arno o Northumberland, sef "fleawood"[22]. Disgrifir ei ddefnydd i'r perwyl hwn yn fyw iawn gan Richard Adams, Abererch yn ei atgofion am weini fel gwas back yn Crugan, Llanbedrog lle byddai'n lletya yn y llofft stabl yno ac yn cael ei boenydio'n arw gan chwain:

"Hen le felly fyddai'r llofft stabal yn aml iawn. Mae gen i gof mynd, tua 1930, hefo'r hwsmon, William Davies, Dinas, i gors Rhyd John, Llanbedrog i hel helyg Mair. Roeddem yn mynd a fo i'w roi yn y matresi i gael gwared o chwain. Roedd y chwain yn casáu ei oglau, and wrth lwc roedd yn ddigon derbyniol i mi. Byddai William Davies yn ffyddiog iawn o rinweddau'r helyg Mair ac roedd o'n effeithiol iawn hefyd. Rwy'n cofio iddo ddweud un tro ei fod wedi llenwi'r fatres a'r dail: "a cael fy neffro 'n nos am ddau o gloch y bora gan ryw swn crafu mawr y chwain yn methu mynd allan dan drws achan!"[23]

Diolch i'r llwch sych sawrus a oruchuddia'r dail[24], mae'n dda i gael gwared o lyngyr o'r cylla a cheir amryw o gyfeiriadau at hynny o'r 18g a dechrau'r 19g: "An infusion of the leaves as tea, and an external application of them to the abdomen, are considered as a certain and efficacious vermifuge."[25]. "Tarflyngyr llesol ydyw'r llyswydd hwn (y Gwyrddling), gan gymeryd y flail nail! ai yn bylor, neu gwedi eu mwydo mewn dwr berwdig."[20]

Rhoddid y dail, wedi eu sychu, yn y cwpwrdd dillad i roi arogl hyfryd ar y dillad ac i amddiffyn rhag y pry dillad. "Cyn dyddiau'r moth balls doedd dim gwell i'w cael na dail helygen Mair rhwng y dillad i gadw'r gwyfynod neu'r pry cadach draw ohonynt."[26]

Mae'n dda rhag pryfed brathog yn yr haf. Ar Ynys Islay arferir crogi bwnsied o helyg Mair yn y gegin i gadw pryfed ymaith[27]. Mae'n arfer cyffredin gan rai i rwbio'r dail ar eu talcen, gwddw a garddyrnau, neu i roi sbrigyn o'r planhigyn yn y cap i'r un diben. Bydd pysgotwyr yn gwisgo sbrigyn ohono, os yw'n gyfleus ar gael, pan yn eistedd mewn cwmwl o wybed ar lan llyn neu afon yn Eryri.

Erbyn hyn mae cwmni o'r Alban (Scotica Pharmaceuticals) [ddim yn bod bellach 2017?] yn gwerthu eli o'r helygen Fair ar gyfer cerddwyr sy'n cael eu plagio gan y pryfed duon brathog Albanaidd[28]. Mae tyddynwyr ar Ynys Skye hefyd yn marchnata cynnyrch fath dan yr enw Myrica[29]

  • Moddion peri erthylu a chyfogi

Adnabuwyd yn Ffrainc fel erthylbair dan yr enw Herba Myrti Rabantini[24]

"The Gale or bog myrtle... is called Bwrli, or the emetic plant."[30].
"The poor inhabitants [of North Wales] are not inattentive to its virtues, they term it Bwrle, or the emetic plant, and use it for this purpose"[30]. Mae'r dail yn cynnwys olewau anweddol a gwenwynig, sydd hefyd yn chwerw a thynhaol ar y croen (astringent).

Diod

Fe'i defnyddiwyd fel amnewidyn i hopys yn swydd Efrog lle gelwid y cwrw yn Gale Beer. Sychwyd yr 'aeron' (conau neu moch coed) i'w cynnwys fel sbeis mewn potes[24] Lle nad oedd hopys ar gael i roi blas chwerw ar gwrw defnyddid canghennau'r gwyrddling i'r un diben[31]. Ond, yn ôl Thomas Parry, Glan Gors: "mae yn gofyn ei hir ferwi, neu y mae y ddiod yn chwannog o godi dolur yn y pen"[21]

Yn 2011 rhoddwyd caniatad i berchennog bragdy gasglu cwrlid o dir Cefn uchaf [Llanbedr]. Bwriadai ei ddefnyddio i gynyrchu cwrw. Darllenais hefyd eu bod

Llun: y diweddar Wil Jones

yn ei ddefnyddio i baratoi ‘snapps’ mewn rhai gwledydd. Evie M Jones yn Llais Ardudwy (trwy law Haf Meredydd) Chwi gofiwch (Bwletin 38) mai o gwyrddling y daw “cwrlid”, sef yr helygen Fair yn amlach i lawer ohonom heddiw.

Defnyddioldeb ymarferol

Yn y 18g, pan wehyddid brethyn cartref yn gyffredin yng Nghymru, defnyddid y rhisgl i liwio gwlan yn felyn ac i lifo crwyn llouau[24][32]. Ceid yr un defnydd ohono yn Sweden ac yn yr Alban[27]. Gorferwid yr 'aeron' mewn dwr i greu sorod o gwyr i wneud canwyllau.[24]. Yng Ngogledd America defnyddir aelod arall o deulu Myrica, y "wax myrtle" neu helygen Fair gwyrog, i'r diben hwn. Berwir y cwyr aroglus i wneud canhwyllau sydd a gales?? mawr amdanynt mewn siopau crefft am eu bod yn gollwng persawr hyfryd with losgi [Baker, M. Discovering the Folklore of Plants. Shire Books 1996]

Nodweddion eraill[golygu | golygu cod y dudalen]

Byddai ffermwyr yn ceisio cadw eu gwartheg godro rhag pori helyg Mair am y byddai blas chwerw y planhigyn yn dod trwodd i'r llefrith a'r 'menyn.
Mae bathodyn llwyth Albanaidd y Campbell wedi ei seilio ar y gwyrddling

Llyfryddiaeth[golygu | golygu cod y dudalen]

1 Gledhill, D., The Names of Plants, (1989). 2 Peeing, F.H. a Waiters, S.M., Atlas of the British Flora, (1990). 3 Ellis, R G., Flowering Plants of Wales, (1983). 4 Awbery, Cr., Blodau'r Maes a'r Ardd ar Lafar Gwlad, Llyfrau LLafar Gwlad, rhif 31, (1995). 5 Davies, D. a Jones, A., Enwau Cymraeg ar Blanhigion, (1995). 6 Hayes, D., Planhigion Cymru a'r Byd, Gwasg Mats Onn, (1995). 7 Evans, J., A Tour Through Part of North Wales in the Year 1798, and at Other Times, (1800) Llundain, tud 149. 8 Vickery, Roy, Dictionary of Plant -Lore, (1995). 9 Parry, Thomas, Llysieuaeth Feddygol, Arg. H. Humphreys, Caernarfon (c.1860), tud 48. 10 Williams, Mair, Yn Ymyl Ty'n y Coed, (1999). 11 Davies, Hugh, Welsh Botanology, (1813). 12 Grigson, Geoffrey, The Engishman's Flora, (1958). 13 Adams, Richard, "Helyg Mair" yn Ffenn a Thyddyn, 4, (1989). 14 Darwin, Tess, The Scots Herbal, (1996). 15 Mabey, It, Flora Britanica, (1996) 16 Baker, Margaret, Discovering The Folklore of Plants, Shire Books, (1996). 17 Pennant, T., Tours in Wales, (1883), tud 307.

Gweler hefyd[golygu | golygu cod y dudalen]

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod y dudalen]

  1. Gerddi Kew; adalwyd 21 Ionawr 2015
  2. Ellis, R.G. (1983) Flowering Plants of Wales
  3. onlinelibrary.wiley.com; adalwyd 14 Awst 2017.
  4. Pennington, W. (1969) The History of the British Vegetation EUP
  5. Linnard, W. (2000) Welsh Woods and Forests. Gwasg Gomer
  6. 6.0 6.1 6.2 6.3 6.4 6.5 6.6 6.7 6.8 6.9 Skene, K.R. et al (2000) Journal of Ecology 88(6) BES
  7. History of the British Flora CUP
  8. http://ukmoths.org.uk/species/bucculatrix-cidarella/
  9. 9.0 9.1 9.2 Heath, J. & Emmet, J.M (1985) "The Moths and Butterflies of Great Britain and Ireland" Harlequin Books
  10. http://www.ukmoths.org.uk/species/orthosia-gracilis/
  11. http://www.llennatur.cymru/Y-Bywiadur#Eurois%20occulta Eurois occulta
  12. Gledhill, D. (1989): The Names of Plants
  13. Awbery, G. (1995) Blodau'r Maes a'r Ardd ar Lafar Gwlad. Llyfrau Llafar Gwlad, rhif 31
  14. Davies, D. a Jones, A. (1995) Enwau Cymraeg ar Blanhigion<Amg. Gen. Cym.
  15. Hayes, D. (1995) Planigion Cymru a'r Byd Gwasg Maes Onn
  16. http://welsh-dictionary.ac.uk/gpc/gpc.html
  17. Châtel, T. (2016) Bleunioù Struzh Breizh
  18. Deshayes, A. (2003) Dictionnaire Etymologie du Breton Chasse-Marre
  19. http://www.e-gymraeg.co.uk/enwaulleoedd/amr/cronfa.aspx
  20. 20.0 20.1 Davies, H. (1813) Welsh Botanology
  21. 21.0 21.1 Parry, T. (1860) Llysieuaeth Feddygol Caernarfon
  22. Grigson, G. (1958) The Englishman's Flora
  23. Adams, Richard (1989) "Helyg Mair" Fferm a Thyddyn, 4
  24. 24.0 24.1 24.2 24.3 24.4 A Modern Herbal (1931), Mrs. M. Grieve Penguin 1980
  25. J Evans. A tour through part of North Wales in the year 1798 and at other times. 1800. Llundain. Tud 149
  26. Mair Williams (1999) Yn Ymyl Ty'n y Coed
  27. 27.0 27.1 Vickery, R. (1995) Dictionary of Plant Lore
  28. Darwin, Tess, The Scots Herbal, (1996)
  29. Mabey. Flora Britannica
  30. 30.0 30.1 Pennant, T. (1883) Tours in Wales
  31. http://zythophile.co.uk/2009/03/11/gale-warning/
  32. Evans, J. (1800) A Tour through part of North Wales in the year 1798, and at other times, Llundain, tud 149
Mae'r erthygl hon yn cynnwys testun a sgwennwyd ac a briodolir i Twm Elias ac a uwchlwythwyd ar Wicipedia gan Defnyddiwr:Twm Elias. Cyhoeddwyd y gwaith yn gyntaf yn : Llên y Llysiau Llên Natur (Cymdeithas Edward Llwyd).



Comin Wikimedia
Mae gan Gomin Wikimedia
gyfryngau sy'n berthnasol i: