Gwynfryn Roberts
| Gwynfryn Roberts | |
|---|---|
| Ffugenw | Til Roberts |
| Ganwyd | Gwynfryn Roberts 1942 Llanuwchllyn |
| Bu farw | 15 Rhagfyr 2010 Caernarfon |
| Galwedigaeth | actor |
Actor Cymraeg o Lanuwchllyn, Meirionnydd oedd Gwynfryn Roberts (1942 – 15 Rhagfyr 2010)[1] oedd hefyd yn cael ei adnabod fel Til Roberts. Er mai tu ôl i'r camera ar yr ochr gynhyrchu y treuliodd y rhan helaeth o'i yrfa, cychwynodd actio gyda Chwmni Theatr Cymru yn y 1970au.
Gyrfa
[golygu | golygu cod]Fe'i ganwyd a'i magwyd yn Deildre Ucha, Llanuwchllyn.[1]
Nodwyd yn Rhaglen y cynhyrchiad o Pwyll Gwyllt : "Cafodd brofiad helaeth o fywyd yn gweithio ar fferm, mewn siop, fel dyn Insiwrans, glanhawr dillad a llifiwr mewn melin goed. Bu hefyd yn casglu a gwerthu wyau, yn cario llefrith ac yn gyrru lorri. Gweithiodd fel actor i'r Theatr Awyr Agored yng Nghaerdydd, Theatr yr Ymylon, y BBC a HTV ac i Gwmni Theatr Cymru".[2]
Bu farw'n 68 oed yng nghwmni ei deulu, yn ei gartref yng Nghaernarfon, yn dilyn cystudd hir. Roedd yn dad i dri o blant. [1]
Gwaith
[golygu | golygu cod](fel actor)
- Tri Chryfion Byd (1972)
- Harris (1973)
- Pwyll Gwyllt (1974)
- Afagddu (1975)
- Y Lefiathan (1976)
- Pengelli (1998)
- Frongoch (2006)
(fel rheolwr cynhyrchu)
- Brad (1994) - Ffilmiau'r Tŷ Gwyn
- I Dir Drygioni (1994) - Ffilmiau Eryri
- Lleifior (1996)
Oriel
[golygu | golygu cod]-
Gwynfryn (Til) Roberts yn y panto Afagddu gan Cwmni Theatr Cymru 1975
-
Gwynfryn (Til) Roberts yn y panto Afagddu gan Cwmni Theatr Cymru 1975
-
Iona Banks, Gwynfryn (Til) Roberts a John Pierce Jones yn ymarfer cynhyrchiad gan Cwmni Theatr Cymru
-
Gwynfryn (Til) Roberts (canol) yn y cynhyrchiad Pwyll Gwyllt gan Cwmni Theatr Cymru
Cyfeiriadau
[golygu | golygu cod]- ↑ 1.0 1.1 1.2 "Click here to view the tribute page for ROBERTS GWYNFRYN". funeral-notices.co.uk (yn Saesneg). Cyrchwyd 2025-08-31.
- ↑ Rhaglen Pwyll Gwyllt. Cwmni Theatr Cymru.