Gwyneth Carey
| Gwyneth Carey | |
|---|---|
| Ganwyd | Gwyneth Ellis Carey 9 Mawrth 1925 Pentrefoelas |
| Bu farw | 18 Mawrth 2025 Ysbyty Glan Clwyd, Bodelwyddan |
| Alma mater | Prifysgol Lerpwl |
| Galwedigaeth | Meddyg a Llenor |
| Cysylltir gyda | Gwobr Goffa Daniel Owen |
Enillydd Gwobr Goffa Daniel Owen yn Eisteddfod Genedlaethol Cymru Meirion a'r Cyffiniau 1997 oedd Dr Gwyneth Carey, enw bedydd Gwyneth Ellis Pritchard (9 Mawrth 1925 – 18 Mawrth 2025) gyda'i nofel gyntaf, Mwg.[1]
Gyrfa
[golygu | golygu cod]Ar gefn ei chyfrol Eisiau Byw (Gomer, 1999) disgrifiwyd Gwyneth fel "merch ieuengaf y siop, Pentrefoelas".[1] Roedd hi'n ferch i Thomas Owen Pritchard (1873 – 1933) a Margaret Elinor (Nin) Ellis (1890 – 1960).[2]
Derbyniodd ei haddysg cynnar yn Ysgol Ramadeg, Llanrwst.[2] Graddiodd mewn meddygaeth o Brifysgol Lerpwl a threuliodd dros 25 mlynedd yn gweithio mewn ysbytai yng Nghymru, Malasia a Tanzania.[1] Dychwelodd i weithio yng ngwasanaeth Iechyd y Gymuned, De Clwyd ym 1975.
Priododd James Carey (1911 – 1971) ar y 14 Chwefror 1953, a cawsant ddau o blant.[2]
Wedi ymddeol graddiodd ar Radd Allanol yn Aberystwyth.[1] Bu'n byw am flynyddoedd yn Hengoed Isa, Bontuchel, Rhuthun.[3]
Bu farw wythnos wedi ei phen-blwydd yn 100 oed yn Ysbyty Glan Clwyd, Bodelwyddan ar y 18 Mawrth 2025.[3]
Cyhoeddiadau
[golygu | golygu cod](detholiad)
- Mwg (1997)
- Eisiau Byw (1999)
- Coban Mair (2000)