Gŵydd Canada

Oddi ar Wicipedia
(Ailgyfeiriad o Gwydd Canada)
Gŵydd Canada
Dosbarthiad gwyddonol
Teyrnas: Animalia
Ffylwm: Chordata
Dosbarth: Aves
Urdd: Anseriformes
Teulu: Anatidae
Genws: Branta
Rhywogaeth: B. canadensis
Enw deuenwol
Branta canadensis
(Linnaeus, 1758)
Tiriogaeth dymhorol Branta canadensis, Gŵydd Canada: melyn = haf, glas = gaeaf, gwyrdd = gydol y flwyddyn
Branta canadensis

Mae Gŵydd Canada (Branta canadensis) yn un o'r mwyaf cyffredin o'r gwyddau. Mae'n frodor o Ogledd America, yn nythu yng Nghanada a gogledd yr Unol Daleithiau ac yn symud tua'r de yn y gaeaf. Mae'n nythu ar lawr heb fod ymhell o ddŵr fel rheol.

Gwyddau Canada ar Lyn Petrual, Sir Ddinbych ym mis Hydref.

Gellir adnabod yr ŵydd yma yn hawdd o'r gwddf a pen du, gyda darn gwyn ar y gên, a'r corff yn llwydfrown. Mae'r ddau ryw yn debyg iawn i'w gilydd. Yr unig ŵydd sy'n weddol debyg yw'r Ŵydd wyran, sy'n llai ac yn dangos wyneb gwyn. Mae 7 o is-rywogaethau o Ŵydd Canada, sy'n amrywio'n fawr o ran maint.

Erbyn hyn mae Gŵydd Canada wedi ei gollwng yn fwriadol mewn nifer o wledydd yn Ewrop ac yn Seland Newydd. Mae'n aderyn cyffredin ar lynnoedd a chorsydd Cymru, ac mae'n ymddangos bod y boblogaeth yn cynyddu, gyda heidiau o gannoedd i'w gweld mewn ambell fan.