Gwybodaeth ecolegol draddodiadol
Enghraifft o'r canlynol | disgyblaeth academaidd |
---|---|
Math | astudiaethau brodorol, gwyddorau'r amgylchedd |
Mae gwybodaeth ecolegol draddodiadol (a adnabyddir yn rhyngwladol fel Traditional ecological knowledge; TEK) yn disgrifio gwybodaeth gynhenid, frodorol a thraddodiadol o adnoddau lleol. Fel maes astudio yn anthropoleg Gogledd America, mae TEK yn cyfeirio at “gorff cronnus o wybodaeth, ac at gred ac ymarfer, sydd hefyd yn esblygu ac yn cael ei drosglwyddo o genhedlaeth i genedlaeth trwy ganeuon, straeon a chredoau traddodiadol. Mae'n ymwneud â pherthynas pobol â'u hamgylchedd."[1] Ar y cyfan, felly, defnyddir y term yng nghyd-destun Gogledd America, ac weithiau Awstralia ayb.
Nid yw gwybodaeth frodorol yn gysyniad cyffredinol ymhlith rhai cymdeithasau. Mae'r term yn cyfeirio at system o wybodaeth, ac at draddodiadau neu arferion sy'n dibynnu'n helaeth ar "le".[2] Defnyddir gwybodaeth o'r fath mewn rheoli adnoddau naturiol yn lle data amgylcheddol sylfaenol mewn achosion lle nad oes llawer o ddata gwyddonol wedi'i gofnodi.[3] Gall hefyd ategu dulliau gwyddonol y Gorllewin o reoli ecolegol mewn modd gwerthfawr iawn.
Mae asiantaethau llywodraeth nad ydynt yn llwythau, fel EPA yr Unol Daleithiau, wedi sefydlu rhaglenni integreiddio gyda rhai llywodraethau llwythol er mwyn ymgorffori TEK o fewn cynlluniau amgylcheddol a thracio effaith newid hinsawdd.[4][5]
Defnyddir gwybodaeth draddodiadol i gynnal yr adnoddau angenrheidiol ar gyfer goroesi.[6] Er y gall TEK ei hun, a'r cymunedau sy'n gysylltiedig â'r traddodiad llafar, gael eu bygwth yng nghyd-destun newid cyflym yn yr hinsawdd neu ddiraddiad amgylcheddol,[7] mae TEK yn profi'n hanfodol ar gyfer deall effeithiau'r newidiadau hynny o fewn yr ecosystem.
Gall TEK hefyd gyfeirio at wybodaeth amgylcheddol draddodiadol sy'n tanlinellu'r gwahanol gydrannau a rhyngweithiadau'r amgylchedd.[8]
Agweddau ar wybodaeth ecolegol draddodiadol
[golygu | golygu cod]Mae'r agweddau ar wybodaeth ecolegol draddodiadol yn darparu gwahanol deipolegau o ran sut y caiff ei defnyddio a'i deall. Mae'r rhain yn ddangosyddion da o ran sut mae'n cael ei ddefnyddio o wahanol safbwyntiau a sut maent yn rhyng-gysylltiedig, gan roi mwy o bwyslais ar "reolaeth gydweithredol i nodi meysydd o wahaniaeth a chydgyfeiriant yn well wrth geisio dod â dwy ffordd o feddwl a gwybod ynghyd." [9]
Arsylwadau ffeithiol
[golygu | golygu cod]Mae Houde yn nodi chwe wyneb o wybodaeth ecolegol draddodiadol.[10] Y gyntaf yw arsylwadau ffeithiol, penodol a gynhyrchir gan adnabod, enwi a dosbarthu cydrannau gwahanol o'r amgylchedd. Mae'r agwedd hon yn ymwneud â deall y rhyngberthynas â rhywogaethau a'r amgylchedd o'u cwmpas. Mae hefyd yn set o arsylwadau empirig a gwybodaeth sy'n pwysleisio agweddau anifeiliaid a'u hymddygiad, a'u cynefinoedd, a nodweddion ffisegol rhywogaethau, a helaethrwydd anifeiliaid. Ystyrir hyn yn fwyaf defnyddiol ar gyfer asesu a rheoli risg sy'n rhoi cyfle i'r llwythi ddylanwadu ar reoli adnoddau. Fodd bynnag, os na fydd llwyth yn gweithredu, yna gall y wladwriaeth weithredu ar ei buddiannau ei hun. Mae'r math hwn o "wybodaeth empirig yn cynnwys set o arsylwadau cyffredinol a gynhaliwyd dros gyfnod hir o amser ac wedi'u hatgyfnerthu gan deiliaid TEK eraill mewn mannau gwahanol."[11]
Systemau rheoli
[golygu | golygu cod]Mae'r ail wyneb yn cyfeirio at y defnydd moesegol a chynaliadwy o adnoddau o ran systemau rheoli. Cyflawnir hyn trwy gynllunio strategol i sicrhau cadwraeth adnoddau. Yn fwy penodol mae'r wyneb hwn yn ymwneud â rheoli plâu, trosi adnoddau, patrymau cnydio lluosog, a dulliau ar gyfer amcangyfrif cyflwr adnoddau. [12] Mae hefyd yn canolbwyntio ar reoli adnoddau a sut mae'n addasu i amgylcheddau lleol. [10]
Rheoli ecosystem
[golygu | golygu cod]Mae rheoli ecosystemau yn ddull amlochrog a chyfannol o reoli adnoddau naturiol. Mae'n ymgorffori gwyddoniaeth a gwybodaeth ecolegol draddodiadol i gasglu data o fesurau hirdymor. Cyflawnir hyn wrth i wyddonwyr ac ymchwilwyr gydweithio â phobl frodorol. Mae gwybodaeth frodorol wedi datblygu ffordd i ddelio â'r cymhlethdod tra bod gan wyddoniaeth orllewinol y technegau a'r offer. Mae hon yn berthynas dda sy'n creu canlyniad gwell i'r ddwy ochr a'r amgylchedd.
Newid hinsawdd
[golygu | golygu cod]Mae gwybodaeth ecolegol trigolion lleol, traddodiadol yn darparu llawer o wybodaeth i wyddonwyr am newid hinsawdd [13] Pwysleisia'r wybodaeth honno iechyd y blaned, drwy ei gwneud yn ganolbwynt i'r cwbwl. Iddyn nhw, mae planed iach (neu o leia'r rhan fechan mae nhw'n ei weld) yn rhoi coed iach, a thyf ffrwythau iach ar y canghennau.[14] Mae newid yn yr hinsawdd yn effeithio ar wybodaeth ecolegol draddodiadol ar ffurf hunaniaeth y bobl frodorol a'r ffordd y maent yn byw eu bywydau. Mae gwybodaeth draddodiadol yn cael ei throsglwyddo o genhedlaeth i genhedlaeth ac yn parhau heddiw. Dibyna'r bobl frodorol ar y traddodiadau hyn am eu bywoliaeth, am fywyd. Am lawer o dymhorau cynaeafu, mae pobl frodorol wedi newid eu gweithgaredd fisoedd ynghynt oherwydd effeithiau newid hinsawdd.
- Enghraifft o Gymru
Ceir nifer o ddyddiaduron amgylcheddol Cymreig a ysgrifennwyd rhwng yr 18g a'r presennol. Dywedir bod gwerin Cymry gyda'r mwyaf llythrennog o holl ddinasyddion Ewrop yn eu hiaith eu hunain (ac eithrio Gwlad yr Iâ) erbyn y 19g. Ysgolion Sabothol Griffith Jones, Llandowror a dylanwad Thomas Charles oedd bennaf gyfrifol . Canlyniad naturiol hyn oedd creu gwerin llythrennog os nad diwylliedig Gymreig. Mae'r genre hefyd yn fodd i roi pwyslais ar fyd natur fel rhywbeth deinamig a chyfnewidiol dros amser, rhinwedd sydd yn amserol iawn mewn byd o newid hinsawdd, gorboblogi a'r dirywiad ecolegol dybryd sydd ar bob llaw. O ehangu diffiniad y genre "dyddiadur natur" i gynnwys, er enghraifft, dyddiaduron gwaith ffermwyr Cymreig, mi welwn gyfoeth o wybodaeth ffenolegol, meteorolegol, daearyddol ac ieithyddoli.
Mae'r cynnydd yn nhymheredd y Ddaear yn fygythiad i ecosystemau oherwydd ei fod yn niweidio bywoliaeth rhai rhywogaethau o goed a phlanhigion. Mae'r cyfuniad o'r cynnydd mewn tymheredd a newid mewn lefelau dyddodiad yn effeithio ar dwf planhigion mewn gwahanol lefydd.
Mae'r cynhesu hwn hefyd yn effeithio ar bryfed ac anifeiliaid.[15]
Wrth i'r tymheredd boethi, mae tanau gwyllt yn dod yn fwy tebygol. Yn ddiweddar rhoddwyd tir yn ôl i un genedl frodorol yn Awstralia ac maent yn adfer eu harfer traddodiadol o losgi dan reolaeth, yn debyg iawn i'r tanau a gynheir gan ffermwyr Cymru ar y mynyddoedd. Mae hyn wedi arwain at gynnydd mewn bioamrywiaeth a llai o danau gwyllt.
Nid yn unig yr effeithir ar wahanol agweddau ar yr amgylchedd, ond gyda’i gilydd, mae newid hinsawdd yn effeithio ar iechyd yr ecosystem ac felly gall yr adnoddau amgylcheddol sydd ar gael i’r bobl frodorol newid o ran faint ohonynt sydd ar gael ac o ran ansawdd yr adnoddau sydd ar gael.[15]
Wrth i lefelau rhew'r môr ostwng, mae pobl frodorol Alaska yn profi newidiadau yn eu bywydau bob dydd ac mae pysgota, cludiant, agweddau cymdeithasol ac economaidd yn dod yn fwy anniogel.[16] Mae dadmer pridd ac mae daear sych yn achosi difrod i adeiladau a ffyrdd. Ceir mwy o lygredd yn y dŵr, wrth i adnoddau dŵr yfed glân brinhau.[15]
Astudiaeth achos: Savoonga a Shaktoolik, Alaska
[golygu | golygu cod]Mewn un astudiaeth, adroddodd pentrefwyr Savoonga a Shaktoolik, Alaska, dros yr ugain mlynedd diwethaf fod y tywydd wedi dod yn anoddach i'w ragweld, mae'r tymor oerach wedi byrhau, ac mae'n anoddach rhagweld faint o blanhigion fydd ar gael i'w cynaeafau. Ceir cryn wahaniaeth yn nhrefn tymhorol mudo anifeiliaid, gyda mwy o rywogaethau newydd yn cael eu gweld nag o'r blaen, ac nid yw gweithgareddau hela a chasglu yn hawdd i'w ragweld, nac yn digwydd mor aml. Gwelodd y trigolion newid amlwg yn eu hinsawdd a effeithiodd hefyd ar eu bywoliaeth.[13]
Cyfeiriadau
[golygu | golygu cod]- ↑ Berkes, F. (1993). "Weaving Traditional Ecological Knowledge into Biological Education: A Call to Action". BioScience 52 (5): 432. JSTOR 10.1641/0006-3568(2002)052[0432:WTEKIB]2.0.CO;2.
- ↑ Madden, Brooke (June 2, 2015). "Pedagogical pathways for Indigenous education with/in teacher education". Teacher and Teacher Education 51: 1–15. doi:10.1016/j.tate.2015.05.005.
- ↑ Freeman, M.M.R. 1992. The nature and utility of traditional ecological knowledge. Northern Perspectives, 20(1):9-12
- ↑ McGregor, D. (2004). Coming full circle: indigenous knowledge, environment, and our future. American Indian Quarterly, 28(3 & 4), 385-410
- ↑ Becker, C. D., Ghimire, K. (2003). Synergy between traditional ecological knowledge and conservation science supports forest preservation in Ecuador. Conservation Ecology, 8(1): 1
- ↑ "AAAS - Science and Human Rights Program. 2008. 10 February 2009". Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2013-02-09. Cyrchwyd 2022-12-18.
- ↑ Henriksen, John (2007). HIGHLY VULNERABLE INDIGENOUS AND LOCAL COMMUNITIES, INTER ALIA, OF THE ARCTIC, SMALL ISLAND STATES AND HIGH ALTITUDES, CONCERNING THE IMPACTS OF CLIMATE CHANGE AND ACCELERATED THREATS, SUCH AS POLLUTION, DROUGHT AND DESERTIFICATION, TO TRADITIONAL KNOWLEDGE AND PRACTICES WITH A FOCUS OF CAUSES AND SOLUTION. Montreal: UNEP/Convention on Biological Diversity. t. 30.
- ↑ "What is Traditional Knowledge". Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2021-01-29. Cyrchwyd 2022-12-18.
- ↑ Houde, N. (2007) Ecology and Society.
- ↑ 10.0 10.1 Houde, Nicolas (2007-12-20). "The Six Faces of Traditional Ecological Knowledge: Challenges and Opportunities for Canadian Co-Management Arrangements" (yn en). Ecology and Society 12 (2). doi:10.5751/ES-02270-120234. ISSN 1708-3087. http://dlc.dlib.indiana.edu/dlc/bitstream/handle/10535/2639/ES-2007-2270.pdf?sequence=1&isAllowed=y.
- ↑ Usher, P.J. 2000. Traditional Ecological Knowledge in environmental assessment and management
- ↑ Berkes 1988, Gunn et al. 1988
- ↑ 13.0 13.1 Ignatowski, Jonathan Andrew; Rosales, Jon (2013). "Identifying the exposure of two subsistence villages in Alaska to climate change using traditional ecological knowledge". Climatic Change 121 (2): 285–299. Bibcode 2013ClCh..121..285I. doi:10.1007/s10584-013-0883-4.
- ↑ Moffa, Anthony. "Traditional Ecological Rulemaking" (PDF). Cyrchwyd 16 March 2017.
- ↑ 15.0 15.1 15.2 Bennet, T.M. Bull; et al. (2014). "National Climate Assessment: Indigenous Peoples, Lands, and Resources". Global Change. US Global Change Research Program. Cyrchwyd 13 March 2017.
- ↑ "Climate Change and the Health of Indigenous Populations" (PDF). EPA United States Environmental Protection Agency. May 2016. Cyrchwyd 5 April 2017.
Darllen pellach
[golygu | golygu cod]- Hernández-Morcillo, Mónica (2014). "Traditional ecological knowledge in Europe: Status quo and insights for the environmental policy agenda". Environment 56 (1): 3–17. arXiv:etal. doi:10.1080/00139157.2014.861673.
- Robin Wall Kimmerer (2013). Braiding Sweetgrass: Indigenous Wisdom, Scientific Knowledge, and the Teachings of Plants (Milkweed Edition) ISBN 9781571313355.
Dolenni allanol
[golygu | golygu cod]- Gwybodaeth Ecolegol Draddodiadol: Stiwardiaeth Ryngddisgyblaethol y Fam Ddaear, Gwasanaeth y Parc Cenedlaethol
- Canolfan Pobl Brodorol a'r Amgylchedd, Prifysgol Talaith Efrog Newydd, Coleg Gwyddor yr Amgylchedd a Choedwigaeth
- Rhwydwaith Adfer Pobl Gynhenid (IPRN)
- Gwarchodfa Parc Cenedlaethol Gwaii Haanas a Safle Treftadaeth Haida
- Tabl o Chwe Wyneb TEK