Neidio i'r cynnwys

Gwrthrych Messier

Oddi ar Wicipedia
Gwrthrych Messier
Enghraifft o:catalog seryddol Edit this on Wikidata
AwdurCharles Messier Edit this on Wikidata
GwladFfrainc Edit this on Wikidata
Dyddiad cyhoeddi1774 Edit this on Wikidata
Prif bwncnifwl, nifwl planedol, clwstwr agored, clwstwr globylog, galaeth Edit this on Wikidata
Statws hawlfraintparth cyhoeddus, parth cyhoeddus Edit this on Wikidata
Tudalen Comin Ffeiliau perthnasol ar Gomin Wicimedia

Grŵp o 110 o wrthrychau seryddol yw gwrthrychau Messier. Catalogwyd y mwyafrif ohonynt gan y seryddwr o Ffrancwr Charles Messier yn ei Catalogue des nébuleuses et des amas d'étoiles ("Catalog o Nifylau a Chlystyrau Seren"; argraff gyntaf 1774). Cafodd Messier gymorth yn y gwaith hwn gan ei gynorthwyydd Pierre Méchain. Prif ddiddordeb Messier oedd ymchwilio i gomedau, a lluniodd y rhestr hon o wrthrychau a rwystrodd ei chwiliad amdanynt. Daeth catalog Messier yn enwog a hyd heddiw cyfeirir at lawer o wrthrychau yn awyr y nos yn ôl eu rhifau yn y rhestr. Ychwanegodd amryw o seryddwyr eitemau at y rhestr ar ôl marwolaeth Messier. Ychwanegwyd yr olaf (M110) gan y seryddwr o Gymru Kenneth Glyn Jones yn 1966.

Mae'r catalog yn cynnwys amrywiaeth o wrthrychau seryddol – nifylau, galaethau, chlystyrau sêr o blith eraill. Er enghraifft, Nifwl y Cranc, sy'n weddillion uwchnofa, yw Messier 1; Galaeth Andromeda, sy'n galaeth droellog fawr, yw M31; a Praesepe, sy'n clwstwr sêr, yw M44.

Dolenni allanol

[golygu | golygu cod]