Gwrthdroad tymheredd

Oddi ar Wicipedia
Gwrthdroad tymheredd
Gwrthdroad tymheredd yn Ardal y Llynnoedd
Enghraifft o'r canlynolcyflwr atmosfferig Edit this on Wikidata
Mathgraddiant tymheredd Edit this on Wikidata
Tudalen Comin Ffeiliau perthnasol ar Gomin Wicimedia

Yn meteoroleg, gwrthdroad tymheredd yw gwyriad oddi wrth newid cyffredin tymheredd gydag uchder. Fel arfer mae'r gyfradd newid adiabatig yn golygu bod tymheredd yr aer yn lleihau gydag uchder yn y troposffêr. Gyda gwrthdroad tymheredd, aer cynnes sy'n digwydd uwchben aer oer.

Mae gwrthdroad tymheredd yn cadw llygredd aer, fel mwrllwch, yn agos at y ddaear. Gall gwrthdroad hefyd llesteirio darfudiad, gan gwethio fel "caead". Os ydy'r caead yma yn torri i lawr, gall darfudiad unrhyw leithder sy'n bresennol yn yr aer achosi stormydd mellt a tharanau eithriadol. Yn hinsoddau oer, gall gwrthdroad tymheredd achosi glaw rhewllyd.

Ffurfiant gwrthdroad tymheredd

Yng Nghymru, y prif reswm dros ffurfio gwrthdroad tymheredd yw gwasgedd uchel. Mae hyn yn lleihau cryfder gwyntoedd a allai troi haenau aer a dinistrio'r gwrthdroad. Mae'r absenoldeb a gymylau yn golygu bod tymhereddau yn gostwng yn sydyn gyda'r nos, yn arbennig yn uchel yn y mynyddoedd. Mae'r aer oer yma yn drwm ac yn suddo lawr ochrau'r mynyddoedd ac wrth wneud hyn, mae'n sychu a chynhesu. Mae'r haen gynnes o aer yn gallu gweithredu fel "caead" a chadw aer oerach lawr gwaelod y dyffryn. Yn y ffordd yma mae'r gwrthdroad yn ffurfio.

Gwrthdroadau yw mwyaf cyffredin yn y gaeaf pan fo niwl yn cael ei ddal yn yr aer oer islaw, ond maen nhw'n gallu digwydd ar unrhyw adeg o'r flwyddyn.