Gwrthdaro amgylcheddol

Oddi ar Wicipedia
Gwrthdaro amgylcheddol
Protest Coedwig Hambach yn erbyn ehangu pyllau glo
Enghraifft o'r canlynoltype of conflict Edit this on Wikidata
Mathsocial conflict Edit this on Wikidata
Prif bwncdiraddio'r amgylchedd Edit this on Wikidata

Mae gwrthdaro amgylcheddol neu wrthdaro dosbarthiad ecolegol (EDCs) yn wrthdaro cymdeithasol a achosir gan ddirywiad amgylcheddol neu gan ddosbarthiad anghyfartal o adnoddau amgylcheddol.[1][2][3] Gall partïon sy’n ymwneud â’r gwrthdaro gynnwys cymunedau yr effeithir arnynt yn lleol, gwladwriaethau, cwmnïau (y staff a'r buddsoddwyr), a mudiadau cymdeithasol neu amgylcheddol;[4][5] fel arfer mae amddiffynwyr amgylcheddol yn amddiffyn eu mamwlad rhag echdynnu adnoddau neu waredu gwastraff peryglus.[1]

Mae diraddio amgylcheddol yn creu prinder adnoddau (fel gorbysgota neu ddatgoedwigo), ac yn atal yr amgylchedd rhag medru delio gydai llygredd, ac yn diraddio'r cynefinoedd bodau dynol a'r bioamrywiaeth sydd yno.[6] Yn aml mae'r gwrthdaro yma'n canolbwyntio ar faterion cyfiawnder amgylcheddol, hawliau pobl frodorol, hawliau gwerinwyr, neu fygythiadau i bysgotwyr.[1]

Gall gwrthdaro amgylcheddol yn cymhlethu'r ymateb i drychineb naturiol neu'n gwaethygu'r gwrthdaro presennol – yn enwedig yng nghyd-destun anghydfodau Daear-wleidyddol neu lle mae cymunedau wedi'u dadleoli i greu ymfudwyr amgylcheddol.[7][3][6]

Weithiau defnyddir y termau gwrthdaro cymdeithasol-amgylcheddol, gwrthdaro amgylcheddol, neu EDCs yn gyfnewidiol. Mae'r astudiaeth o'r gwrthdaro yma'n gysylltiedig â meysydd economeg ecolegol, ecoleg wleidyddol, a chyfiawnder amgylcheddol.

Achosion[golygu | golygu cod]

Gall tarddiad gwrthdaro amgylcheddol fod yn uniongyrchol gysylltiedig â'r economi ddiwydiannol. Gan fod llai na 10% o ddeunyddiau ac ynni'n cael eu hailgylchu, mae'r economi ddiwydiannol yn echdynnu mwy-a-mwy o ddeunyddiau trwy ddwy brif broses:[8]

  1. Neilltuo adnoddau naturiol newydd trwy hawlio tir a thir gipio.
  2. Gwneud ymelwa ar safleoedd presennol yn fwy effeithlon drwy fuddsoddiadau neu arloesi cymdeithasol a thechnegol[9]

Mae EDCs yn cael eu hachosi gan ddosbarthiad annheg costau a buddion amgylcheddol. Mae'r gwrthdaro hyn yn deillio o anghydraddoldeb cymdeithasol, honiadau dadleuol dros diriogaeth, toreth o ddiwydiannau echdynnu, ac effeithiau'r diwydiannu economaidd dros y canrifoedd diwethaf. Mae diwydiannau olew, mwyngloddio ac amaethyddiaeth yn ganolbwynt i wrthdaro amgylcheddol.

Mathau o wrthdaro[golygu | golygu cod]

Roedd papur yn 2020 yn mapio dadleuon a phryderon amddiffynwyr amgylcheddol mewn dros 2,743 o wrthdaro a ddarganfuwyd yn yr Atlas Cyfiawnder Amgylcheddol (EJAtlas). Canfu'r dadansoddiad mai'r sectorau diwydiannol a heriwyd amlaf gan wrthdaro amgylcheddol oedd mwyngloddio (21%), ynni ffosil (17%), biomas a defnydd tir (15%), a rheoli dŵr (14%).[1] Lladdwyd amddiffynwyr amgylcheddol mewn 13% o'r achosion yr adroddwyd amdanynt. [1]

Roedd gwahaniaeth amlwg hefyd yn y mathau o wrthdaro a ganfuwyd mewn gwledydd incwm uchel ac isel: roedd mwy o wrthdaro ynghylch cadwraeth, rheoli dŵr, a biomas a defnydd tir mewn gwledydd incwm isel; tra mewn gwledydd incwm uchel roedd bron i hanner y gwrthdaro'n canolbwyntio ar reoli gwastraff, twristiaeth, ynni niwclear, parthau diwydiannol, a phrosiectau seilwaith eraill. [1] Canfu'r astudiaeth hefyd fod y rhan fwyaf o wrthdaro'n dechrau gyda grwpiau lleol yn amddiffyn yn erbyn tor-rheol, gyda ffocws ar dactegau di-drais.[1]

Mae amddiffynwyr dŵr ac amddiffynwyr tir sy'n amddiffyn hawliau brodorol yn cael eu troseddoli ar gyfradd uwch o lawer nag mewn gwrthdaro eraill.

Gellir dosbarthu gwrthdaro amgylcheddol yn seiliedig ar wahanol gamau'r gadwyn nwyddau: wrth echdynnu ffynonellau ynni neu ddeunyddiau, wrth gludo a chynhyrchu nwyddau, neu wrth waredu gwastraff ar ddiwedd y gadwyn.

Categorïau EJAtlas[golygu | golygu cod]

Sefydlwyd a chyd-gyfarwyddir yr EJAtlas gan Leah Temper a Joan Martinez-Alier, ac fe'i cydlynir gan Daniela Del Bene. Ei nod yw “dogfennu, deall a dadansoddi’r canlyniadau gwleidyddol sy’n dod i’r amlwg neu a allai ddod i’r amlwg” o wrthdaro dosbarthiad ecolegol.[10] Fe'i lleolir yn ICTA yr Universitat Autonoma de Barcelona. Ers 2012, mae academyddion ac actifyddion wedi cydweithio i ysgrifennu’r cofnodion, gan gyrraedd 3,500 cofnod erbyn Gorffennaf 2021.

Mae Atlas EJ yn nodi deg categori o wrthdaro dosbarthiad ecolegol:[11]

  1. Gwrthdaro cadwraeth bioamrywiaeth:
  2. Gwrthdaro rhwng biomas a thir (Coedwigoedd, Amaethyddiaeth, Pysgodfeydd a Rheoli Da Byw)
  3. Tanwyddau Ffosil a Chyfiawnder Hinsawdd/Ynni
  4. Gwrthdaro Diwydiannol a Chyfleustodau
  5. Isadeiledd a'r Amgylchedd Adeiledig
  6. Echdynnu Mwynau a Deunyddiau Adeiladu
  7. Niwclear
  8. Twristiaeth Hamdden
  9. Rheoli Gwastraff
  10. Rheoli Dŵr

Defnydd mewn achosion cyfreithiol[golygu | golygu cod]

Cyflwynwyd y cysyniad o wrthdaro dosbarthiad ecolegol (EDCs) i hwyluso dogfennaeth a dadansoddiad systematig o wrthdaro amgylcheddol ac i gynhyrchu corff mwy cydlynol o waith academaidd, ymgyrchwyr a chyfreithiol o'u cwmpas.[10] Mewn rhai achosion sydd wedi’u dwyn i’r cam o ymgyfreitha, mae honiadau cymunedau yr effeithiwyd arnynt yn lleol wedi’u cydnabod a gwnaed iawn am hynny.

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod]

  1. 1.0 1.1 1.2 1.3 1.4 1.5 1.6 Scheidel, Arnim; Del Bene, Daniela; Liu, Juan; Navas, Grettel; Mingorría, Sara; Demaria, Federico; Avila, Sofía; Roy, Brototi et al. (2020-07-01). "Environmental conflicts and defenders: A global overview" (yn en). Global Environmental Change 63: 102104. doi:10.1016/j.gloenvcha.2020.102104. ISSN 0959-3780. PMC 7418451. PMID 32801483. http://www.pubmedcentral.nih.gov/articlerender.fcgi?tool=pmcentrez&artid=7418451.
  2. Lee, James R. (2019-06-12), "What is a field and why does it grow? Is there a field of environmental conflict?", Environmental Conflict and Cooperation (Routledge): 69–75, doi:10.4324/9781351139243-9, ISBN 978-1-351-13924-3, http://dx.doi.org/10.4324/9781351139243-9, adalwyd 2022-02-18
  3. 3.0 3.1 Libiszewski, Stephan. "What is an Environmental Conflict?." Journal of Peace Research 28.4 (1991): 407-422.
  4. Cardoso, Andrea (December 2015). "Behind the life cycle of coal: Socio-environmental liabilities of coal mining in Cesar, Colombia" (yn en). Ecological Economics 120: 71–82. doi:10.1016/j.ecolecon.2015.10.004. https://linkinghub.elsevier.com/retrieve/pii/S0921800915004012.
  5. Orta-Martínez, Martí; Finer, Matt (December 2010). "Oil frontiers and indigenous resistance in the Peruvian Amazon" (yn en). Ecological Economics 70 (2): 207–218. doi:10.1016/j.ecolecon.2010.04.022. https://linkinghub.elsevier.com/retrieve/pii/S0921800910001655.
  6. 6.0 6.1 Mason, Simon; Spillman, Kurt R (2009-11-17). "Environmental Conflicts and Regional Conflict Management". WELFARE ECONOMICS AND SUSTAINABLE DEVELOPMENT – Volume II (yn Saesneg). EOLSS Publications. ISBN 978-1-84826-010-8.
  7. "Environment, Conflict and Peacebuilding". International Institute for Sustainable Development (yn Saesneg). Cyrchwyd 2022-02-18.
  8. Joseph, Sabrina, ed. (2019). Commodity Frontiers and Global Capitalist Expansion. doi:10.1007/978-3-030-15322-9. http://dx.doi.org/10.1007/978-3-030-15322-9.
  9. Banoub, Daniel; Bridge, Gavin; Bustos, Beatriz; Ertör, Irmak; González-Hidalgo, Marien; de los Reyes, Julie Ann (2020-10-21). "Industrial dynamics on the commodity frontier: Managing time, space and form in mining, tree plantations and intensive aquaculture". Environment and Planning E: Nature and Space 4 (4): 1533–1559. doi:10.1177/2514848620963362. ISSN 2514-8486. http://dx.doi.org/10.1177/2514848620963362.
  10. 10.0 10.1 Temper, Leah; Demaria, Federico; Scheidel, Arnim; Del Bene, Daniela; Martinez-Alier, Joan (2018-05-01). "The Global Environmental Justice Atlas (EJAtlas): ecological distribution conflicts as forces for sustainability" (yn en). Sustainability Science 13 (3): 573–584. doi:10.1007/s11625-018-0563-4. ISSN 1862-4057. https://doi.org/10.1007/s11625-018-0563-4.
  11. EJOLT. "EJAtlas | Mapping Environmental Justice". Environmental Justice Atlas (yn Saesneg). Cyrchwyd 2022-04-14.