Gwrthdaro Iran ac Israel (2024)
Rhai o'r taflegrau balistig a lansiwyd gan Iran yn erbyn Israel ar 1 Hydref 2024, yn rhanbarth Galilea Isaf. | |
| Enghraifft o: | gwrthdaro |
|---|---|
| Daeth i ben | 26 Hydref 2024 |
| Rhan o | Argyfwng y Dwyrain Canol (2023-presennol), gwrthdaro dirprwyol Israel-Iran, Iran–Israel conflict |
| Dechreuwyd | 1 Ebrill 2024 |
| Daeth i ben | 26 Hydref 2024 |
| Olynwyd gan | Y Rhyfel Deuddeng Niwrnod |
| Yn cynnwys | Red Sea crisis, Israeli airstrike on the Iranian consulate in Damascus, Operation True Promise I, April 2024 Israeli strikes on Iran, Operation True Promise II, October 2024 Israeli strikes on Iran, Y Rhyfel Deuddeng Niwrnod |
| Dynodwyr | |
Yn 2024, wedi 19 mlynedd o ryfela trwy ddirprwy, ffrwydrodd tensiynau rhwng Iran ac Israel mewn dau gyfnod, gan weld ymosodiadau uniongyrchol a brwydro agored am y tro cyntaf rhwng y ddwy wlad. Sbardunwyd y gwrthdaro gan gyrch Israel ar gonswliaeth Iran yn Syria ar 1 Ebrill, gan ladd sawl uwch-swyddog o Gorfflu'r Gwarchodlu Chwyldroadol Islamaidd (IRGC). Ar 13 a 14 Ebrill, lansiodd Iran—gyda chefnogaeth ei "Hechel y Gwrthsafiad": Hezbollah yn Libanus, yr Hwthïaid yn Iemen, a'r Gwrthsafiad Islamaidd yn Irac—hwrdd o ddronau, rocedi a thaflegrau i dalu'r pwyth yn ôl, gan dargedu canolfannau a meysydd awyr Lluoedd Amddiffyn Israel (IDF). Fodd bynnag, ataliwyd bron pob un o'r taflegrau gan Israel a'i chynghreiriaid, ac ymatebodd Israel gyda chyrchoedd awyr cyfyngedig ar Iran a Syria ar 19 Ebrill. Aildaniwyd y gwrthdaro ar 31 Gorffennaf, pan laddwyd Ismail Haniyeh, arweinydd gwleidyddol Hamas, yn Tehran, prifddinas Iran. Addawodd Iran ddial, ac er gwaethaf rhybuddion yr Unol Daleithiau, lansiwyd taflegrau balistig yn erbyn Israel ar 1 Hydref. Ymatebodd Israel eto gyda chyrchoedd awyr yn erbyn Iran ar 26 Hydref. Nodai'r gwrthdaro ysbeidiol hwn drobwynt yn yr elyniaeth rhwng y ddwy wlad, a fyddai'n gwaethygu eto ar ffurf rhyfeloedd difrifol, y Rhyfel Deuddeng Niwrnod ym Mehefin 2025 a rhyfel Israel ac Unol Daleithiau America yn erbyn Iran yn 2026.
Y cyfnod cyntaf (1 Ebrill – 19 Ebrill)
[golygu | golygu cod]Ar 1 Ebrill, bomiodd Israel gyfadail ger llysgenhadaeth Iran yn Damascus, prifddinas Syria, gan ladd o leiaf wyth o swyddogion a chynghorwyr yr IRGC, gan gynnwys y Brigadydd Mohammad Reza Zahedi, un o arweinwyr Llu Quds, a oedd yn debyg yn cydlynu cysylltiadau Iran â Hezbollah yn Libanus a llywodraeth Bashar al-Assad yn Syria. Efe oedd y swyddog milwrol uchaf ei reng i'w ladd mewn ymosodiad ar luoedd Iran ers i Unol Daleithiau America dargedu'r Cadfridog Qasem Soleimani yn Baghdad yn Ionawr 2020.[1][2] Nodai'r cyrch hwn ddwysâd sylweddol mewn tensiynau rhwng y ddwy wlad, wedi i Israel gynnal nifer fawr o ymosodiadau ar dargedau sy'n gysylltiedig ag Iran a'i chynghreiriaid yn y blynyddoedd blaenorol, a chynyddu'r rheiny yn sgil ymosodiadau 7 Hydref 2023 a chychwyn Rhyfel Gaza.[3][4][5] Ni hawliodd Israel gyfrifoldeb am yr ymosodiad yn swyddogol.
Mewn araith ar y teledu ar 10 Ebrill, addawod yr Aiatola Ali Khamenei, Goruchaf Arweinydd Iran, ddial am yr ymosodiad: "Pan wnaethon nhw ymosod ar ein llysgenhadaeth, roedd fel eu bod nhw wedi ymosod ar ein tiriogaeth. Rhai cosbi'r gyfundrefn ddrwg, ac fe fydd yn cael ei chosbi."[6] Er gwaethaf rhybudd gan Joe Biden, Arlywydd yr Unol Daleithiau, i Iran beidio ag ymosod ar Israel,[7] lansiwyd dros 300 o ddronau ffrwydrol a thaflegrau tuag at diriogaeth Israel ar nos 13 Ebrill.[8] Cyhoeddodd yr IDF fod dros 300 o ddronau a thaflegrau wedi eu hatal gan system amddiffynnol y Gromen Haearn. Serch, llwyddodd nifer fach o daflegrau'r ymosodiad i daro'r tir. Hwn oedd y tro cyntaf i Iran dargedu Israel yn uniongyrchol o'i thiriogaeth ei hun.[9] Yn ogystal, ar fore 13 Ebrill cipiodd yr IRGC yr MSC Aries, llong gynwysyddion yn chwifio baner Portiwgal, yng Nghulfor Hormuz ar gyhuddiad o dorri cyfraith y môr. Dyn busnes o Israel sy'n rhan-berchennog Zodiac Maritime, y cwmni mae'r llong yn eiddo iddo, ac o'r herwydd honnodd Iran fod y llong yn gysylltiedig ag Israel.[10] Rhyddhawyd criw'r llong ar 3 Mai.[11]
Ar 19 Ebrill, cafodd cyfleusterau Awyrlu Iran yn nhalaith Isfahan yng nghanolbarth y wlad eu taro gan daflegrau o awyrennau Israel. Lansiwyd hefyd daflegrau at gynghreiriaid Iran yn neheubarth Syria ac yn Irac. Er i'r asiantaeth Fars, sy'n gysylltiedig â'r IRGC, gyhoeddi newyddion am ffrwydradau yn Qahjavarestan a cher Maes Awyr Rhyngwladol Isfahan, ni chadarnhawyd fod Israel wedi llwyddo i daro'r wlad.[12]
Ychydig wythnosau'n ddiweddarach, bu farw Ebrahim Raisi, Arlywydd Iran, a'r Gweinidog Tramor Hossein Amir Abdollahian mewn damwain hofrennnydd yn nhalaith Dwyrain Aserbaijan.[13] Achoswyd y ddamwain gan dywydd gwael.[14] Etholwyd Massoud Pezeshkian i'w olynu yng Ngorffennaf.[15]
Yr ail gyfnod (31 Gorffennaf – 23 Hydref)
[golygu | golygu cod]Ar 31 Gorffennaf, cyhoeddodd Hamas fod ei arweinydd gwleidyddol, Ismail Haniyeh, wedi'i ladd mewn cyrch gan Israel ar ei gartref yn Tehran, ar ôl cymryd rhan mewn seremoni urddo'r Arlywydd Pezeshkian. Ers ymosodiadau Hamas ar Israel ar 7 Hydref 2023, addawodd llywodraeth Israel ddial ar swyddogion Hamas. Bu farw Haniyeh ychydig oriau ar ôl i'r IDF hawlio lladd Fouad Shukur, un o arweinwyr Hezbollah, mewn cyrch awyr yn Beirut, prifddinas Libanus, ar ôl i Israel roi'r bai arno am gyflafan o blant a phobl ifanc y Drwsiaid yn Ucheldiroedd Golan ar 27 Gorffennaf.[16]
Addawodd Iran ddial, a bu pryderon y byddai'r ad-daliad yn chwim. Anfonodd yr Unol Daleithiau luoedd milwrol ychwanegol i'r Dwyrain Canol, a chyhoeddwyd adroddiad nas cadarnheid fod yr Ysgrifennydd Gwladol Antony Blinken wedi dweud wrth weinidogion tramor eraill yr G7 y gallai Iran ymosod ymhen wythnos.[17] Fodd bynnag, ni fyddai Iran yn tanio taflegrau at Israel eto nes 1 Hydref, deufis wedi marwolaethau Haniyeh, a phedwar niwrnod wedi i Israel ladd Hassan Nasrallah, ysgrifennydd cyffredinol Hezbollah, mewn cyrch awyr ar gyrion Beirut. Cyhoeddodd llywodraeth Iran fod yr ymosodiad hwn er mwyn dial am lofruddiaethau Haniyeh a Nasrallah, ac am fod sifiliaid Palesteiniaidd a Libanaidd wedi eu lladd gan gyrchoedd yr Israeliaid. Cafodd sawl dinas yn Israel, gan gynnwys Tel Aviv a Chaersalem, eu targedu gan ryw 180 o daflegrau balistig.[18] Cafodd mwyafrif y taflegrau eu hatal gan luoedd Israel a'i chynghreiriaid, a datganodd y Prif Weinidog Benjamin Netanyahu y bydd Iran "yn talu'r pris" am yr ymosodiad.[19]
Erbyn 13 Hydref, cyhoeddwyd adroddiadau yn yr Unol Daleithiau yn honni bod Israel wedi dewis rhestr fer o dargedau ar gyfer ymosodiad, gyda disgwyl i'r IDF daro cyfleusterau milwrol ac isadeiledd ynni yn Iran, ac nid targedu seilwaith niwclear na llofruddio unigolion penodol.[20] Ar 26 Hydref, cafodd canolfannau milwrol yn nhaleithiau Ilam, Khuzestan, a Tehran eu taro gan gyrchoedd awyr. Cyhoeddodd yr IDF eu bod wedi cynnal yr "ymosodiadau manwl" mewn ymateb i'r "ymosodiadau parhaus gan y gyfundrefn yn Iran yn erbyn Israel". Hwn oedd y tro cyntaf i luoedd Israel ymosod yn agored ar Iran; ni chafodd y cyrchoedd ar 19 Ebrill, na llofruddiaeth Haniyeh, eu hawlio'n swyddogol gan Israel.[21] Llwyddodd Israel i ddifrodi magnelfeydd amddiffyn awyr, ffatri dronau ffrwydrol, a chyfleusterau gweithgynhyrchu taflegrau balistig, a chafodd gallu Iran i gynhyrchu taflegrau ei rwystro'n sylweddol o ganlyniad i'r cyrchoedd.[22][23][24]
Cyfeiriadau
[golygu | golygu cod]- ↑ (Saesneg) Maziar Motamedi, "Who was Mohammad Reza Zahedi, an Iranian general killed by Israel in Syria?", Al Jazeera (2 Ebrill 2024). Archifwyd o'r dudalen we wreiddiol drwy gyfrwng archive.today ar 15 Ebrill 2024.
- ↑ (Saesneg) Akhtar Mohammad Makoii, "Mohammad Reza Zahedi: who was the Iranian commander killed in an Israeli strike in Syria?", The Guardian (2 Ebrill 2024). Archifwyd o'r dudalen we wreiddiol drwy gyfrwng archive.today ar 2 Ebrill 2024.
- ↑ "Adeilad ger llysgenhadaeth Iran wedi'i ddymchwel mewn ymosodiad yn Syria", S4C (1 Ebrill 2024). Archifwyd o'r dudalen we wreiddiol drwy gyfrwng archive.today ar 2 Ebrill 2026.
- ↑ (Saesneg) Jeremy Bowen a David Gritten, "Iran accuses Israel of killing generals in Syria strike", BBC (1 Ebrill 2024). Archifwyd o'r dudalen we wreiddiol drwy gyfrwng archive.today ar 1 Mawrth 2026.
- ↑ (Saesneg) "Israeli strike on Iran’s Syria consulate kills 7, including 2 IRGC generals", Al Jazeera (1 Ebrill 2024). Archifwyd o'r dudalen we wreiddiol drwy gyfrwng archive.today ar 2 Ebrill 2024.
- ↑ "Joe Biden yn tanlinellu ymrwymiad ei wlad i Israel wedi bygythiadau o Iran", S4C (11 Ebrill 2024). Archifwyd o'r dudalen we wreiddiol drwy gyfrwng archive.today ar 2 Ebrill 2026.
- ↑ "'Peidiwch': Joe Biden yn rhybuddio Iran yn erbyn ymosod ar Israel", S4C (13 Ebrill 2024). Archifwyd o'r dudalen we wreiddiol drwy gyfrwng archive.today ar 2 Ebrill 2026.
- ↑ "Iran wedi lansio dronau er mwyn ymosod ar Israel", S4C (13 Ebrill 2024). Archifwyd o'r dudalen we wreiddiol drwy gyfrwng archive.today ar 2 Ebrill 2026.
- ↑ "Israel yn saethu dros 300 o ddronau Iran gyda chymorth America a Phrydain", S4C (14 Ebrill 2024). Archifwyd o'r dudalen we wreiddiol drwy gyfrwng archive.today ar 2 Ebrill 2026.
- ↑ (Saesneg) "Iran says MSC Aries vessel seized for 'violating maritime laws'", Reuters (15 Ebrill 2024). Archifwyd o'r dudalen we wreiddiol drwy gyfrwng archive.today ar 16 Ebrill 2024).
- ↑ (Saesneg) "Iran says crew of Israel-linked ship freed", The Jerusalem Post (3 Mai 2024). Archifwyd o'r dudalen we wreiddiol drwy gyfrwng archive.today ar 2 Ebrill 2026.
- ↑ (Saesneg) Yonah Jeremy Bob, Tzvi Joffre, a Zvika Klein, "Israel strikes Iran, defense officials confirm", The Jerusalem Post (19 Ebrill 2024). Archifwyd o'r dudalen we wreiddiol drwy gyfrwng archive.today ar 19 Ebrill 2024.
- ↑ "Arlywydd Iran, Ebrahim Raisi, wedi marw yn dilyn damwain hofrennydd", S4C (20 Mai 2024). Archifwyd o'r dudalen we wreiddiol drwy gyfrwng archive.today ar 2 Ebrill 2026.
- ↑ (Saesneg) "Iran probe finds bad weather caused ex-President Raisi’s helicopter crash", Al Jazeera (1 Medi 2024). Archifwyd o'r dudalen we wreiddiol drwy gyfrwng archive.today ar 2 Ebrill 2026.
- ↑ "Arlywydd newydd Iran Massoud Pezeshkian yn addo newidiadau", S4C (6 Gorffennaf 2024). Archifwyd o'r dudalen we wreiddiol drwy gyfrwng archive.today ar 2 Ebrill 2026.
- ↑ "Arweinydd Hamas Ismail Haniyeh wedi’i ladd, meddai’r grŵp", S4C (31 Gorffennaf 2024). Archifwyd o'r dudalen we wreiddiol drwy gyfrwng archive.today ar 2 Ebrill 2026.
- ↑ "Iran i ymosod ar Israel 'o fewn y 24 i 48 awr nesaf'", S4C (5 Awst 2024). Archifwyd o'r dudalen we wreiddiol drwy gyfrwng archive.today ar 2 Ebrill 2026.
- ↑ "Iran yn tanio taflegrau tuag at ddinasoedd Israel", S4C (1 Hydref 2024). Archifwyd o'r dudalen we wreiddiol drwy gyfrwng archive.today ar 2 Ebrill 2026.
- ↑ "'Mi fyddwn ni yn dial' meddai Netanyahu", S4C (2 Hydref 2024). Archifwyd o'r dudalen we wreiddiol drwy gyfrwng archive.today ar 2 Ebrill 2026.
- ↑ "Israel wedi dewis rhestr fer o dargedau ar gyfer ymosodiad ar Iran, yn ôl adroddiadau", S4C (13 Hydref 2024). Archifwyd o'r dudalen we wreiddiol drwy gyfrwng archive.today ar 2 Ebrill 2026.
- ↑ "Israel yn lansio ymosodiadau o'r awyr ar dargedau milwrol yn Iran", S4C (26 Hydref 2024). Archifwyd o'r dudalen we wreiddiol drwy gyfrwng archive.today ar 2 Ebrill 2026.
- ↑ (Saesneg) Barak Ravid, "Israel strike crippled Iran's missile production, sources say", Axios (26 Hydref 2024). Archifwyd o'r dudalen we wreiddiol drwy gyfrwng archive.today ar 27 Hydref 2024.
- ↑ (Saesneg) Sune Engel Rasmussen, Laurence Norman, ac Anat Peled, "Israeli Strikes on Iran Expose Gap in Prowess Between Two Arch Foes", The Wall Street Journal (27 Hydref 2024). Archifwyd o'r dudalen we wreiddiol drwy gyfrwng archive.today ar 27 Hydref 2024.
- ↑ (Saesneg) Lazar Berman, "Though limited, Israel’s highly successful attack leaves Iran more vulnerable than ever", The Times of Israel (27 Hydref 2024). Archifwyd o'r dudalen we wreiddiol drwy gyfrwng archive.today ar 28 Hydref 2024.