Neidio i'r cynnwys

Gwobr Ifor Davies

Oddi ar Wicipedia

Gwobr gelf yw Gwobr Ifor Davies a gyflwynir yn Eisteddfod Genedlaethol Cymru. Dyfernir y wobr am y gwaith yn yr Arddangosfa Agored sy’n cyfleu 'ysbryd y frwydr' dros iaith, diwylliant a gwleidyddiaeth Cymru.[1]

Noddwyd y wobr gan yr artist Ifor Davies. Pan enillodd y Fedal Aur am Gelfyddyd Gain yn Eisteddfod Genedlaethol Sir Benfro 2002, penderfynodd ddefnyddio’r wobr ariannol er mwyn sefydlu ei wobr ei hun. Er bod yr arian gwreiddiol wedi hen ddod i ben, mae’n parhau i ddyfarnu Gwobr Ifor Davies. Erbyn hyn mae cyhoeddi enw’r enillydd yn un o uchafbwyntiau gweithgareddau’r Lle Celf.[2]

Rhestr enillwyr

[golygu | golygu cod]
Blwyddyn Enillydd
2003 Carwyn Evans
2005 Dewi Jones
2006 André Stitt
2007 Jack Burton / Carwyn Evans
2008 David Garner
2009 Osi Rhys Osmond
2010 Elen Bonner
2011 Bedwyr Williams
2012 Anthony Rhys
2013 Iwan Bala
2014 Marian Delyth
2015 Aled Rhys Davies, Christine Mills, Seán Vicary
2016 Gwenllian Llwyd
2017 Rhannwyd rhwng Peter Davies, Peter Finnemore, Pete Telfer a Christine Mills
2018 Rhannwyd rhwng Carnifal Butetown, Jennifer Taylor a Sara Rhoslyn Moore
2019 Sian Parri
2022 Gwenllian Llwyd
2023 Callum Humphreys
2024 Meinir Mathias ac Esyllt Lewis[3]

Cyfeiriadau

[golygu | golygu cod]
  1. "Gwobr Ysbryd y Frwydr | Eisteddfod". eisteddfod.cymru. Cyrchwyd 2024-08-11.
  2. "Siarad iaith yr aelwyd pan fo'r aelwyd yn anfforddiadwy". Gwerddon. 2008-05. doi:10.61257/ffcm8733. ISSN 1741-4261. http://dx.doi.org/10.61257/ffcm8733.
  3. "Instagram". www.instagram.com. Cyrchwyd 2024-08-10.