Gwobr Goffa Dai Jones Llanilar
Gwobr genedlaethol yw Gwobr Goffa Dai Jones Llanilar, sy’n cael ei rhoi bob blwyddyn i unigolion o dan 30 oed. Sefydlwyd y wobr er cof am y ffermwr a chyflwynydd Dai Jones.
Rhaid i'r ymgeiswyr gyflwyno syniad ar gyfer eitem rhaglen deledu yn ymwneud â chefn gwlad neu amaethyddiaeth. Rhaid iddynt hefyd ysgrifennu ychydig am eu hunain a pham eu bod yn credu mai nhw ddylai dderbyn y wobr. Cafodd y wobr ei lansio ar faes Y Sioe Fawr yn Llanelwedd ar 22 Gorffennaf 2025.
Penderfynir ar restr fer o ymgeiswyr ac fe'u gwahoddir i gyflwyno eu syniadau i banel sy'n cynnwys cynrychiolwyr o Gymdeithas Amaethyddol Frenhinol Cymru, Clwb Ffermwyr Ifanc Cymru, tîm rhaglenni Ffermio a Cefn Gwlad, ac S4C.[1] Bydd yr ennillydd yn cael cyfle i gydweithio â chwmnïau cynhyrchu aml-gyfrwng Telesgop a Slam i ddatblygu y syniad gwreiddiol i fod yn eitem gyflawn, a fydd wedyn yn cael ei darlledu ar blatfformau S4C. Caiff yr ennillydd eu gwobrwyo yn y Ffair Aeaf yn Llanelwedd mis Tachwedd.
Enillwyr y wobr
[golygu | golygu cod]- 2025 – Elen Gwen Williams, sy’n wreiddiol o fferm deuluol Fron Felen yn Nyffryn Clwyd, bellach yn byw ar Ynys Môn gyda’i phartner, Owain, a’u dwy ferch fach.[2]
Cyfeiriadau
[golygu | golygu cod]- ↑ "Gwobr Goffa Dai Jones Llanilar yn 'agor y drws i dalent y dyfodol'". Golwg360. 2025-07-22. Cyrchwyd 2025-11-24.
- ↑ "Cyhoeddi enillydd cyntaf Gwobr Goffa Dai Jones Llanilar | Y Wasg | S4C". www.s4c.cymru. Cyrchwyd 2025-11-24.