Gwlad dirgaeedig

Oddi ar Wicipedia
(Ailgyfeiriad o Gwledydd tirgaeedig)
Gwledydd tirgaeedig y byd (gwyrdd)

Gwlad dirgaeedig neu wlad dirgylch yw'r term a ddefnyddir i ddisgrifio gwlad a amgylchynir yn gyfan gwbl gan dir, neu wlad ac unrhyw ran o'i harfordir yn gorwedd ar fôr caeedig. Mae 47 o wledydd tirgaeedig yn y byd (gan gynnwys rhai gwledydd a gydnabyddir yn rhannol yn unig). Yr unig gyfandiroedd lle na cheir unrhyw wlad dirgaeedig yw Gogledd America ac Awstralasia.

Gwlad dirgaeedig fwyaf y byd yw Casachstan yng Nghanolbarth Asia.

Ystyrir dwy wlad yn wledydd dwbl dirgaeedig: h.y., maent wedi eu hamgylchynu yn gyfan gwbl gan wledydd tirgaeedig eraill, fel bod rhaid croesi dwy ffin er mwyn cyrraedd arfordir:

Gelwir gwlad a amgylchynir gan un wlad yn unig yn glofan. Mae 3 clofan yn y byd, sef San Marino, y Fatican a Lesotho.

Rhestr o wledydd tirgaeedig[golygu | golygu cod]

Gwlad Arwynebedd (km²)
Baner Affganistan Affganistan 647,500
Baner Andorra Andorra 468
Baner Armenia Armenia 29,743
Baner Awstria Awstria 83,871
Baner Aserbaijan Aserbaijan 86,600
Baner Belarws Belarws 207,600
Baner Bhwtan Bhwtan 38,394
Baner Bolifia Bolifia 1,098,581
Baner Botswana Botswana 582,000
Baner Bwrcina Ffaso Bwrcina Ffaso 274,222
Baner Bwrwndi Bwrwndi 27,834
Baner Gweriniaeth Canolbarth Affrica Gweriniaeth Canolbarth Affrica 622,984
Baner Tsiad Tsiad 1,284,000
Baner Tsiecia Y Weriniaeth Tsiec 78,867
Baner Ethiopia Ethiopia 1,104,300
Baner Hwngari Hwngari 93,028
Baner Casachstan Casachstan 2,724,900
Baner Kosovo Kosovo 10,908
Baner Cirgistan Cirgistan 199,951
Baner Laos Laos 236,800
Baner Lesotho Lesotho 30,355
Baner Liechtenstein Liechtenstein 160
Baner Lwcsembwrg Lwcsembwrg 2,586
Baner Gogledd Macedonia Macedonia 25,713
Baner Malawi Malawi 118,484
Baner Mali Mali 1,240,192
Baner Moldofa Moldofa 33,846
Baner Mongolia Mongolia 1,564,100
 Nagorno-Karabakh (anghydf.) 11,458
Baner Nepal Nepal 147,181
Baner Niger Niger 1,267,000
Baner Paragwâi Paragwâi 406,752
Baner Rwanda Rwanda 26,338
Baner San Marino San Marino 61
Baner Serbia Serbia 88,361
Baner Slofacia Slofacia 49,035
 South Ossetia (anghydf.) 3,900
Baner Eswatini Gwlad Swasi 17,364
Baner Y Swistir Y Swistir 41,284
Baner Tajicistan Tajicistan 143,100
 Transnistria (anghydf.) 4,163
Baner Twrcmenistan Tyrcmenistan 488,100
Baner Wganda Wganda 241,038
Baner Wsbecistan Wsbecistan 447,400
Baner Dinas y Fatican Fatican 0.44
Baner Sambia Sambia 752,612
Baner Simbabwe Simbabwe 390,757
Eginyn erthygl sydd uchod am ddaearyddiaeth. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato.