Gwladwriaeth ragod

Oddi ar Wicipedia

Gwladwriaeth, fel arfer un fach a heb fawr o rym, a leolir rhwng dwy wladwriaeth fwy o faint sydd yn gwrthwynebu ei gilydd yw gwladwriaeth ragod[1] neu wladwriaethau glustog.[1] Er bod y fath sefyllfa yn ymddangos yn beryglus, mae'n debyg byddai presenoldeb y wladwriaeth ragod yn annog y pwerau mwyach i beidio â rhyfela yn yr ardal nac i oresgyn neu gyfeddiannu'r wladwriaeth lai. Fodd bynnag, weithiau bydd y pwerau mwyach yn cytuno i oresgyn y wladwriaeth lai a rhannu'r diriogaeth rhyngddynt eu hunain.[2] Yn y 19g a dechrau'r 20g, cafodd gwladwriaethau rhagod eu sefydlu'n bwrpasol er cadw'r heddwch, er enghraifft y Rheindir rhwng Ffrainc a'r Almaen a gafodd ei dadfilwroli yn y cyfnod rhwng y rhyfeloedd.

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod]

  1. 1.0 1.1 Geiriadur yr Academi, "buffer: buffer state".
  2. G. R. Berridge ac Alan James, A Dictionary of Diplomacy (Basingstoke: Palgrave Macmillan, 2003), t. 25.