Tîm pêl-droed cenedlaethol Gwlad Iorddonen

Oddi ar Wicipedia
Jump to navigation Jump to search
Tîm pêl-droed cenedlaethol Gwlad Iorddonen
Cymdeithas {{{cymdeithas}}}
Cod FIFA dim
Gêm ryngwladol gyntaf
{{{gêm gyntaf}}}
Buddugoliaeth fwyaf
{{{buddugoliaeth fwyaf}}}
Colled fwyaf
{{{colled fwyaf}}}


Mae Tîm pêl-droed cenedlaethol Gwlad Iorddonen neu Tîm pêl-droed cenedlaethol yr Iorddonen (Arabeg : الاتحاد الأردني لكرة القدم; Ittihad al-Kura Urduña li-al-Kadam) yn dîm o chwaraewyr pêl-droed sy'n cynrychioli Gwlad Iorddonen mewn cystadlaethau a chystadlaethau rhyngwladol, fel y gemau (cymwys) ar gyfer Cwpan y Byd, Cwpan Asiaidd a Phencampwriaeth Ffederasiwn Pêl-droed Gorllewin Asia. Gelwir ffans y tîm yn Nashama.

Hanes[golygu | golygu cod y dudalen]

Tîm cenedlaethol yr Iorddonen i chwarae Syria ar dir niwtral Tehran yn Iran fel rhan o gemau rhag-brofol Cwpan Asia 2015 yr AFC

Sefydlwyd Cymdeithas Bêl-droed Gwlad Iorddonen]] in 1949. Ymunodd y Gymdeithas gyda FIFA yn 1958 a'r AFC, (Conffederatiwn Pêl-droed Asia), yn 1974. Cystadlodd yn gemau rhag-brofol ar gyfer Cwpan y Byd 1986, ond heb fynd trwyddo i'r ffeinals.

Ar 1 Awst 1953, chwaraeodd yr Iorddonen ei gêm ryngwladol gyntaf, gan colli 3-1 yn erbyn Syria yn yr Aifft. Ymunodd yr Iorddonen â Chwpan Asia yn 1972, ond colli mewn gêm-rhagbrofol yn erbyn Iran. Roedd hynny yn Riyadh yn erbyn Qatar. Enillwyd y gêm 1–0 gan gôl gan Issam Said Saleh. Collwyd y gemau eraill yn y grŵp hwn yn erbyn Irac a Qatar, i gyd.??

Record mewn Cystadlaethau[golygu | golygu cod y dudalen]

Bu'n rhaid aros hyd nes yr 1970au ac 1980au i dîm pêl-droed yr Iorddonen ddechrau cystadlu o ddifri mewn cystadlaethau ryngwladol

Cwpam y Byd[golygu | golygu cod y dudalen]

1930-1982 - heb gymryd rhan yn y gystadleuaeth
1986–2018 - cystadlu yn rowndiau rhagbrofol ond heb fynd trwyddo

Cwpan Asia[golygu | golygu cod y dudalen]

Cynhelir cystadleuaeth Cwpan Asia wedi ei threfnu gan AFC - fersiwn Asia o UEFA.

1956-1968 - heb gymryd rhan yn y gystadleuaeth
1972 - cystadlu yn rowndiau rhagbrofol ond heb fynd trwyddo
1976-1980 - heb gymryd rhan yn y gystadleuaeth
1984-1988 - cystadlu yn rowndiau rhagbrofol ond heb fynd trwyddo
1992 - heb gymryd rhan yn y gystadleuaeth
1996 - cystadlu yn rowndiau rhagbrofol ond heb fynd trwydd
2000 - cystadlu yn rowndiau rhagbrofol ond heb fynd trwydd
2004 - cyrraedd rownd yr 8 olaf
2007 - cystadlu yn rowndiau rhagbrofol ond heb fynd trwyddo
2011 - cyrraedd rownd yr 8 olaf
2015 - Cyrraedd rownd 1
2019 - cyrraedd rownd yr 8 olaf

Cystadleuaeth Pencampwriaeth Gorllewin Asia[golygu | golygu cod y dudalen]

2000 - 4ydd safle
2002 - 2il safle
2004 - 3ydd safle
2007 - Rownd cyn-derfynnol
2008 - 2il safle
2010 - Rownd gyntaf
2012 - Rownd gyntaf
2014 - 2il safle

Dolenni[golygu | golygu cod y dudalen]

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod y dudalen]

Soccer stub.svg Eginyn erthygl sydd uchod am bêl-droed. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato.