Gwiwer resog
| Gwiwerod rhesog Amrediad amseryddol: Mïosen cynnar i'r presennol | |
|---|---|
| Gwiwer resog y dwyrain (Tamias striatus) | |
| Dosbarthiad gwyddonol | |
| Unrecognized taxon (fix): | Sciuromorpha |
| Teulu: | Gwiwer |
| Llwyth: | Gwiwer y ddaear |
| Is-lwyth: | Nodyn:Don't edit this line link text Moore, 1959 |
| Genera | |
Cnofil daeardrig bychan yn nheulu'r gwiwerod yw gwiwer resog.[1] Mae'r enw yn dacsonomig gyfystyr â'r is-lwyth Tamiina, sy'n cynnwys 25 o rywogaethau byw mewn tri genws: gwiwer resog Siberia yng ngenws Eutamias, sy'n frodorol i Ogledd Asia; gwiwer resog y dwyrain yng ngenws Tamias, yn nwyrain Gogledd America; a 23 rhywogaeth arall yng ngenws Neotamias, a geir ar draws orllewin Gogledd America. Mae Tamiina yn rhan o lwyth gwiwerod y ddaear, Marmotini, sydd hefyd yn cynnwys marmotiaid a llygod y paith. Nodweddir gwiwerod rhesog gan flew gyda phatrwm rhesog, llygaid a chlustiau mawr, cynffonnau blewog, ewinedd main, a chodau mawr yn eu bochau a ddefnyddir i gludo bwyd. Creaduriaid y dydd ydynt, sy'n cysgu yn eu tyrchfaoedd yn ystod y nos.
Genera
[golygu | golygu cod]Genws Eutamias
- Gwiwer resog Siberia neu wiwer resog gyffredin, Eutamias sibiricus
Genws Tamias
- Gwiwer resog y dwyrain, Tamias striatus
- Tamias aristus †[2]
- Gwiwer resog Allen neu wiwer resog gysgod, Neotamias senex
- Gwiwer resog y mynydd, Neotamias alpinus
- Gwiwer resog Buller, Neotamias bulleri
- Gwiwer resog Califfornia neu wiwer resog y mangoed, Neotamias obscurus
- Gwiwer resog y clogwyn, Neotamias dorsalis
- Gwiwer resog Colorado, Neotamias quadrivittatus
- Gwiwer resog Durango, Neotamias durangae
- Gwiwer resog dorchlwyd, Neotamias cinereicollis
- Gwiwer resog droedlwyd, Neotamias canipes
- Gwiwer resog Hopi, Neotamias rufus
- Gwiwer resog leiaf, Neotamias minimus
- Gwiwer resog y pinwydd polion, gwiwer resog Tahoe, gwiwer resog y secwoia, gwiwer resog Mynydd Pinos, neu wiwer resog San Bernardino, Neotamias speciosus
- Gwiwer resog hirglust, gwiwer resog Sacramento, neu wiwer resog bedrdorch, Neotamias quadrimaculatus
- Gwiwer resog Merriam, Neotamias merriami
- Gwiwer resog Palmer, Neotamias palmeri
- Gwiwer resog Panamint, Neotamias panamintinus
- Gwiwer resog gynffongoch, Neotamias ruficaudus
- Gwiwer resog Siskiyou, Neotamias siskiyou
- Gwiwer resog Sonoma, Neotamias sonomae
- Gwiwer resog Townsend, Neotamias townsendii
- Gwiwer resog Uinta neu wiwer resog gudd y goedwig, Neotamias umbrinus
- Gwiwer resog fochfelyn neu wiwer resog y cochwydd, Neotamias ochrogenys
- Gwiwer resog y pinwydd melyn, Neotamias amoenus
Genws Nototamias †[4]
- Nototamias ateles †
- Nototamias hulberti †
- Nototamias quadratus †
Cyfeiriadau
[golygu | golygu cod]- ↑ Geiriadur yr Academi, "chipmunk".
- ↑ Ray, Clayton E. (1965). "A New Chipmunk, Tamias aristus, from the Pleistocene of Georgia". Journal of Paleontology 39 (5): 1016–1022. ISSN 0022-3360. https://www.jstor.org/stable/3555320.
- ↑ "Search for "Neotamias"". IUCN Red List. Cyrchwyd 1 December 2025.
- ↑ Fostowicz-Frelik, Lucja A.; Li, Qian; Métais, Grégoire (2023-11-09). Biotic changes in terrestrial environments around the Eocene–Oligocene transition (yn Saesneg). Frontiers Media SA. ISBN 978-2-8325-3864-7.