Gwion Lynch
Gwedd
| Gwion Lynch | |
|---|---|
| Ganwyd | Gwion Powys Lynch Mehefin 1959 Llangwm, Corwen |
| Galwedigaeth | Awdur, dramodydd a bardd. |
| Priod | Meinir Lynch |
Awdur, dramodydd, bardd a ffarmwr o Langwm, Corwen yw Gwion Lynch (ganwyd Mehefin 1959).[1] Enillodd Tlws y Ddrama yn Eisteddfod Genedlaethol Cymru Bro Delyn 1991 am ei ddrama hir Dim Ond Heno. Cyfranodd sawl drama fer i Gyfres y Llwyfan ar y cyd â'i wraig, Meinir Lynch. Bu'n rhan o dîm sgriptio a storïo'r gyfres Pobol y Cwm ers y 1990au a sawl tîm ar Talwrn y Beirdd.
Gyrfa
[golygu | golygu cod]Bu hefyd yn Gadeirydd y Llywodraethwyr yn Ysgol y Berwyn, Y Bala.[2]
Yn 2014, roedd Gwion a'i wraig Meinir, a'i bum mab yn ffermio tir Bryn Ffynnon, Corwen, pan ymddangosodd y teulu ar raglen Cefn Gwlad, S4C.[3]
Cyhoeddiadau
[golygu | golygu cod]- Helynt y Buarth
- Helynt ar Fuarth Arall
- Mama-Mia
- Lle bo Camp, bydd Rhemp - Cyfrol 5 yn y Gyfres Ha! Ha!
- Beirdd Bro'r Eisteddfod (2013) - rhai cerddi
Cyfeiriadau
[golygu | golygu cod]- ↑ "Gwion Powys LYNCH personal appointments - Find and update company information - GOV.UK". find-and-update.company-information.service.gov.uk (yn Saesneg). Cyrchwyd 2025-08-01.
- ↑ "Y Bala: Argymell tynnu statws eglwysig oddi ar ysgol". BBC Cymru Fyw. 2017-06-16. Cyrchwyd 2025-08-01.
- ↑ Forgrave, Andrew (2014-01-02). "A Corwen family where five brothers and sisters want to run the farm". North Wales Live (yn Saesneg). Cyrchwyd 2025-08-01.