Wilhelm Tell
| Wilhelm Tell | |
|---|---|
| Ganwyd | Uri |
| Dinasyddiaeth | Y Swistir |

Arwr cenedlaethol o'r Swistir oedd Wilhelm Tell, weithiau Gwilym Tell yn Gymraeg. Nid oes prawf ei fod yn gymeriad hanesyddol. Yn 1570, casglodd Aegidius Tschudi ddeunydd oedd wedi ei drosglwyddo ar lafar ac mewn ysgrifen am Tell. Rywbryd tua diwedd y 13g neu ddechrau'r 14g, yn ôl y stori, pan oedd yr ardal sy'n awr yn ganolbarth y Swistir dan reolaeth yr Habsburg o Awstria, roedd gŵr o'r enw Hermann Gessler yn rheoli'r ardal fel Landvogt. Dywedir i Gessler osod ei het ar bolyn yn nhref Altdorf, yn awr yng nghanton Uri, a gorchymyn fod i unrhyw un a âi heibio saliwtio’r het. Gwrthododd Wilhelm Tell saliwtio’r het, a chymerwyd ef i'r ddalfa. Gan fod Tell yn enwog am ei allu i saethu â'r bwa croes, gwnaeth Gessler iddo saethu afal oddi ar ben ei fab, Walter Tell. Cymerodd Tell ddwy saeth, a llwyddodd i saethu'r afal oddi ar ben ei fab â'r saeth gyntaf. Holodd Gessler ef pam yr oedd wedi cymryd dwy saeth, ac atebodd Tell pe bai'r saeth gyntaf wedi lladd ei fab, y byddai wedi lladd Gessler ei hun â'r ail. Cymerwyd Tell yn garcharor, ond wrth iddo gael ei gludo mewn cwch ar y Vierwaldstättersee, cododd storm, a bu raid gollwng Tell yn rhydd i lywio'r cwch. Wedi llywio'r cwch at y lan, llwyddodd i ddianc. Yn fuan wedyn, llwyddodd i saethu Gessler â'i fwa croes. Dywedir i Tell ymladd ym Mrwydr Morgarten yn 1315, ac iddo foddi yn 1354 wrth geisio achub plentyn. Ysgrifennodd y dramodydd Almaenig Friedrich Schiller ei ddrama enwog Wilhelm Tell yn 1804, ac yn 1829 cyhoeddwyd opera Rossini Guillaume Tell. Bu nifer o ffilmiau arno hefyd; rhyddhawyd ffilm The Adventures of William Tell yn 2010.