Gwilym Livingstone Evans

Oddi ar Wicipedia
Gwilym Livingstone Evans
Ganwyd1916 Edit this on Wikidata
Bu farw1994 Edit this on Wikidata
DinasyddiaethBaner Cymru Cymru
Galwedigaethffotograffydd Edit this on Wikidata

Roedd Gwilym Livingstone Evans (1916-1994) yn ffotograffydd adnabyddus o Flaenau Ffestiniog.

Ei fywyd[golygu | golygu cod]

Bu’n weithgar iawn yn ei dref leol gan gymeryd lluniau o bobl a digwyddiadau o bob math. Tyfodd ei ddiddordeb mewn ffotograffiaeth ar ôl iddo dderbyn camera Kodak Brownie oddi wrth ei chwaer yn anrheg penblwydd. Nid oedd yn gwneud ei fywoliaeth yn llwyr allan o ffotograffiaeth, bu hefyd yn bobydd yn y siop felysion. Ym 1963, gofynnodd Gwasg y Sir - Y Bala iddo wneud gwaith ffotograffig iddynt hwy ar gyfer eu papur lleol ac ym 1972, gofynnwyd iddo wneud gwaith llaw rydd tebyg i’r Cambrian News. Ymddangosodd ei waith bron ym mhob rhifyn o’r papur a hynny tan ei waith olaf i’r papur, sef nodwedd ar Drawsfynydd a Hedd Wyn a ymddangosodd yn yr adran “Weekender”. Wedi hyn gwaethygodd ei iechyd; dioddefodd y clefyd Motor Neurone a bu farw clefyd ym 1994.

Dros y blynyddoedd, cyhoeddwyd nifer o'i ffotograffau ym Mhapurau Llundain e.e. defnyddiwyd ei luniau pan claddwyd Bertrand Russell.[1] Bu hefyd yn gwneud gwaith ffotograffydd proffesiynol, megis tynnu lluniau pasbort a chreu copiau o hen ffotograffau. Roedd pwyslais ei waith bob amser ar gynnwys ac felly ar ddogfennaeth.

Lluniau ar-lein[golygu | golygu cod]

Yn dilyn ei farwolaeth, cafodd ei luniau eu rhoi i'r Llyfrgell Genedlaethol yn Aberystwyth. Mae'n bosib bod cymaint â 20,000 o negyddion wedi cyrraedd y Llyfrgell ac maent yn amrywio rhwng maint 35mm, fformat canol a 6x9mm. Mae hefyd ambell lun wedi ei lwytho ar wefan Casgliad y Werin, delweddau sydd erbyn hyn a metadata cyfoethog; a hynny oherwydd cyfraniadau'r cyhoedd, neu dorfoli gwybodaeth am y lluniau e.e. ychwanegu enwau i'r wynebau sydd yn y lluniau.[2]

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod]