Gwilym Ellis Lane Owen

Oddi ar Wicipedia
Gwilym Ellis Lane Owen
Ganwyd18 Mai 1922 Edit this on Wikidata
Portsmouth Edit this on Wikidata
Bu farw10 Gorffennaf 1982 Edit this on Wikidata
Caergrawnt Edit this on Wikidata
DinasyddiaethBaner Cymru Cymru
Galwedigaethathronydd, academydd Edit this on Wikidata
Gwobr/auCymrawd yr Academi Brydeinig Edit this on Wikidata

Athronydd Cymreig oedd Gwilym Ellis Lane Owen (18 Mai 1922 - 10 Gorffennaf 1982) a arbenigodd mewn hanes athroniaeth y Groegiaid. Cyfeirir ato gan amlaf fel Gwil Owen neu G. E. L. Owen.

Bu'n athro prifysgol yn Harvard a Rhydychen. O 1973 hyd ei farw, ef oedd y pedwerydd i ddal cadair Athro mewn Athroniaeth Hynafol Laurence ym Mhrifysgol Caergrawnt. Cafodd ei ethol yn Gymrawd o'r Academi Brydeinig (FRA) yn 1969.[1]

Mae Gwil Owen yn adnabyddus am ei waith ar ddatblygiad athroniaeth Aristotlys a syniadaeth Platon, a gafodd ddylanwad mawr ar yr astudiaeth o athroniaeth yr Henfyd ar draws y byd. Rhoddai blwyslais mawr ar ddull (method) ac ymresymiad (argument) yn lle damcaniaeth ac athrawiaeth.[2]

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod]

  1. Academi Brydeinig
  2. Ted Honderich (gol.), The Oxford Companion to Philosophy (Rhydychen, 1995), tud. 638.

Llyfryddiaeth[golygu | golygu cod]

  • G. E. L. Owen, Logic, Science and Dialectic (Llundain, 1986).


Baner CymruEicon person Eginyn erthygl sydd uchod am Gymro neu Gymraes. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato.