Neidio i'r cynnwys

Gwersyll yr Urdd Pentre Ifan

Oddi ar Wicipedia
Gwersyll yr Urdd Pentre Ifan
Mathcyrchfan Edit this on Wikidata
Sefydlwyd
  • 2023 Edit this on Wikidata
Daearyddiaeth
LleoliadFelindre Farchog Edit this on Wikidata
GwladBaner Cymru Cymru
Fferm Pentre Ifan, safle'r Gwesyll

Canolfan breswyl aml weithgaredd yw Gwersyll yr Urdd Pentre Ifan. Lleolir y gwersyll ym mhentref Pentre Ifan ger Felindre Farchog yn Sir Benfro a'i hagor yn swyddogol ym mis Medi 2023.[1] Dyma pedwerydd Gwersyll yr Urdd, ynghyd â gwersylloedd adnabyddus Llangrannog, Glan-llyn a Bae Caerdydd. Mae'r safle o fewn pymtheg milltir i Wersyll yr Urdd Llangrannog.

Enwir y gwersyll ar ôl cromlech Pentre Ifan ger llaw.

Nod y gwersyll yw blaenoriaethu'r amgylchedd, lles emosiynol pobl ifanc a'r Gymraeg.

Galwa'r Urdd y safle yn Wersyll Amgylchedd a Lles. Credir mai dyma'r cyntaf o'i fath yng Nghymru, gyda'r profiad yn addo i fod yn "ddihangfa rhag y byd digidol" i wersyllwyr. Prif bwyslais y ganolfan ger Felindre Farchog yw cynnig addysg amgylcheddol i blant a phobl ifanc.[1]

Mae'r safle hefyd ar gael ar gyfer llogi i gynnal priodasau.[2]

Sefydlu

[golygu | golygu cod]

Agorwyd canolfan Pentre Ifan yn wreiddiol yn 1992 a hynny fel canolfan addysgol. Derbyniodd yr Urdd gyllid trwy gymorth rhaglen Cymunedau Dysgu Cynaliadwy Llywodraeth Cymru, Sefydliad Garfield Weston a Sefydliad Elusennol Tywysog Cymru, i droi Canolfan Pentre Ifan i fod yn wersyll.[1]

Y Safle

[golygu | golygu cod]

Rhennid y Gwersyll yn bum adeilad:

  • Cwt Carningli - llety newydd y safle sydd yn cynnwys 5 ystafell ensuite. Mae un o'r ystafelloedd hyn yn cynnwys cyfleusterau anabl ac mae lle i hyd at 32 o bobl, neu 37 o defnyddio'r gwlâu dwbl ar gyfer dau berson.
  • Y Porthdy - adeilad hynaf y safle a oedd arfer bod yn borthdy yng nghyfnod y Tuduriaid- mae hi wedi bod yno ers 1485. Mae dwy ystafell gwely ar gael yn yr adeilad yma gyda chyfleusterau ymolchi gerllaw ac yn cysgu hyd at 12.
  • Neuadd y Porthdy - neuadd i hyd at 50 i fwyta, ymlacio a chymryd rhan mewn rhai o weithdai a gweithgareddau'r gwersyll.
  • Y Berllan - pabell saffari yn ardal glampio'r berllan gan golygfa o Garnedd Meibion Owen o'r feranda. Mae tair pabell ar gael, dwy gyda lle i 10 o bobl yr un ac un babell gyda lle i hyd at 6 gyda chyfleusterau ymolchi ac ardal goginio gyfagos. Mae lle i hyd at 26 o bobl.
  • Cegin Allanol Cymdeithasol - tu allan i Gwt Carningli mae ardal gysgodol lle mae gegin awyr agored ar gael i’w ddefnyddio sy'n cynnwys popty pitsa, crochan, barbeciw a sinc, gardd perlysiau a lle i fwyta a chymdeithasu.
  • Llecynnau Lles - o gylch y safle ceir ardaloedd cysgodol naturiol lle gall ymwelwyr ddianc am sgwrs, cyfnod o fyfyrio neu ymlacio a mwynhau’r tawelwch.[3]

Nofel antur

[golygu | golygu cod]

Yn 2012 cyhoeddwyd nofel ar gyfer plant a'r arddegau gan Gareth Lloyd James o'r enw Dirgelwch Pentre Ifan a gyhoeddwyd gan Wasg Gomer. Mae'n dilyn anturiaethau pedwar bachgen ifanc yn y gwersyll. Mae'n rhan o gyfres o nofelau eraill wedi eu lleoli yng ngwersylloedd yr Urdd.[4]

Gweler hefyd

[golygu | golygu cod]

Dolenni allanol

[golygu | golygu cod]

Cyfeiriadau

[golygu | golygu cod]
  1. 1.0 1.1 1.2 "Urdd: Agor gwersyll newydd ym Mhentre Ifan, Sir Benfro". BBC Cymru Fyw. 28 Medi 2023.
  2. "Priodi ym Mhentr Ifan". Gwefan yr Urdd. Cyrchwyd 9 Medi 2024.
  3. "Llety a Chyfleusterau". Gwefan yr Urdd. Cyrchwyd 9 Medi 2024.
  4. "Cyfres Cawdel: Dirgelwch Pentre Ifan". Gwales.Com. Cyrchwyd 9 Medi 2024.
Eginyn erthygl sydd uchod am Sir Benfro. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato