Gwersyll crynhoi Dachau
| Math | gwersyll crynhoi Natsïaidd, trosedd yn erbyn dynoliaeth, trosedd gwladol |
|---|---|
| Agoriad swyddogol | 22 Mawrth 1933 |
| Sefydlwyd | |
| Cylchfa amser | UTC+01:00, UTC+2 |
| Nifer a laddwyd | 41,500 |
| Daearyddiaeth | |
| Sir | Dachau |
| Gwlad | yr Almaen Natsïaidd |
| Uwch y môr | 478 metr |
| Cyfesurynnau | 48.2699°N 11.4683°E |
![]() | |
Roedd gwersyll cryhoi Dachau yn un o'r gwersylloedd crynhoi cyntaf a adeiladwyd gan y Natsïaid. Fe'i lleolwyd ar dir ffatri arfau gwag i'r gogledd-ddwyrain o dref Dachau, Bafaria, yn Ne'r Almaen, tua 16 km (10 milltir) i'r gogledd-orllewin o München. Bwriad gwreiddiol y gwersyll oedd carcharu gwrthwynebwyr gwleidyddol y Blaid Natsïaidd, a oedd yn cynnwys comiwnyddion, democratiaid cymdeithasol, ac anghydffurfwyr eraill.[1] Ar ôl ei agor gan Heinrich Himmler ar 22 Mawrth 1933, ehangwyd ei bwrpas i gynnwys llafur gorfodol, ac yn y pen draw, carcharu Iddewon, Romani, Almaenwyr, ac Awstriaid a ystyrid gan y Blaid Natsïaidd yn droseddwyr, ac, yn olaf, dinasyddion tramor o wledydd a feddiannwyd neu a oresgynnwyd gan yr Almaen. Tyfodd system gwersylloedd Dachau i gynnwys bron i 100 o is-wersylloedd, a oedd yn bennaf yn wersylloedd gwaith neu'n Arbeitskommandos, a hynny wedi'u lleoli ledled de'r Almaen ac Awstria.
Roedd carcharorion yn byw mewn ofn o greulondeb ac artaith. Defnyddiwyd cannoedd o garcharorion fel testunau arbrofion meddygol yno. Credir bod o leiaf 25,613 o garcharorion wedi cael eu llofruddio yn y gwersyll a bron i 10,000 arall yn ei is-wersylloedd. Mae archif Safle Coffa Dachau wedi dogfennu 32,000 o farwolaethau yn y gwersyll, ond mae miloedd mwy heb eu dogfennu. Adeiladwyd amlosgfeydd i waredu'r meirw. Pan gipiwyd y gwersyll gan luoedd yr Unol Daleithiau ar 29 Ebrill 1945 roedd tua 10,000 o'r 30,000 o garcharorion yn sâl.[2]
Cyfeiriadau
[golygu | golygu cod]- ↑ "Holocaust Encyclopedia – Dachau". United States Holocaust Memorial Museum. Cyrchwyd 30 Ionawr 2016.
- ↑ "Dachau – 7th Army Official Report, May 1945". TankDestroyer.net. Mai 1945. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 30 Ionawr 2016. Cyrchwyd 30 Ionawr 2016.
