Gwersyll Bae Guantánamo
| Math | carchar milwrol |
|---|---|
| Sefydlwyd | |
| Daearyddiaeth | |
| Gwlad | Unol Daleithiau America |
| Cyfesurynnau | 19.9025°N 75.1°W |
| Rheolir gan | Llynges yr Unol Daleithiau |
![]() | |
| Deunydd | concrit |
Mae Gwersyll Bae Guantánamo yn garchar milwrol dadleuol, ac yn wersyll carchar o dan arweiniaeth Cyd-Dasglu Guantánamo ers 2002. Sefydlwyd y carchar yng Nghanolfan Llyngesol Bae Guantánamo, ar arfordir Ciwba.[1]
Mae tri gwersyll yma: Gwersyll Delta (sy'n cynnwys Gwersyll Echo), Gwersyll Iguana, a Gwersyll X-Ray (sydd bellach wedi'i gau).
Mae'n dal pobl (a elwir yn swyddogol yn "enemy combatants") sydd wedi eu cyhuddo gan lywodraeth yr Unol Daleithiau o weithio fel terfysgwyr, yn ogystal â rhai sydd ddim bellach yn cael eu cyhuddo ond yn cael eu dal yno hyd nes iddynt gael eu hadleoli.
Ers 2001 mae 775 o garcharorion wedi ei caethiwo yno gydag oddeutu 420 ohonynt wedi eu rhyddhau heb eu cyhuddo ac un yn unig wedi'i gyhuddo (David Hicks). Mae pedwar wedi cyflawni hunan-laddiad a channoedd wedi ceisio gwneud hynny, ond ni wyddus y ffigwr cywir.

