Neidio i'r cynnwys

Gwenith Gwyn

Oddi ar Wicipedia
Gwenith Gwyn
Dyddiad cynharaf1979
AwdurRhisiart Arwel a Rhydwen Williams a Siôn Eirian
GwladBaner Cymru Cymru
Dyddiad cyhoeddiheb ei chyhoeddi
Cysylltir gydaCwmni Theatr Cymru
CyfansoddwrRhisiart Arwel
Dynodwyr

Drama gerdd o waith Rhisiart Arwel, Rhydwen Williams a Siôn Eirian ac a lwyfannwyd gan Gwmni Theatr Cymru ym 1980, oedd Gwenith Gwyn. Cyflwynwyd y ddrama gerdd yn Gymraeg a Saesneg. Cyflwynwyd y gwaith yn Theatr Gwynedd, Bangor ac yn Eisteddfod Genedlaethol Cymru Dyffryn Lliw 1980.[1]

Cymeriadau

[golygu | golygu cod]
  • Mair y forwyn
  • Ifan y Gwas
  • Ann Thomas
  • Catherine Thomas - Mam Ann
  • Wil Hopcyn
  • Anna y forwyn
  • Rhys Price
  • Jac
  • Marged
  • a nifer o drigolion ifanc Llangynwyd.

Disgrifiad byr

[golygu | golygu cod]

Drama gerdd yn seiliedig ar hanes Y Ferch O Gefn Ydfa. Gosodir y ddrama ym mhlasdy Cefn Ydfa ac yn nhafarn y Royal Oak yn Llangynwyd. Digwydd y ddrama rhwng Mai 1724 a Mai 1725.

Cefndir

[golygu | golygu cod]

"Roedd y cynhyrchiad yn rhan o 'Dymor yr Haf' yn Theatr Gwynedd", yn ôl Marion Fenner yn ei hunangofiant Ŵ, Metron; "oedd yn golygu ein bod ni'n perfformio'r gwaith yn Gymraeg ac yn Saesneg, oedd yn gallu bod yn bur ddryslyd, a fwy nag unwaith, fe deimlais i dipyn o banig wrth gerdded ar y llwyfan heb fod yn hollol siwr pa iaith o'n i fod i'w siarad."[2]

Cynyrchiadau nodedig

[golygu | golygu cod]

Llwyfannwyd y gwaith am y tro cyntaf gan Gwmni Theatr Cymru yn Theatr Gwynedd ac yn Eisteddfod Genedlaethol Cymru Dyffryn Lliw 1980.[1]Cyfarwyddwr Gruffudd Jones; cynllunydd Martin Morley; coreograffi Geoff Powell; cast:

Llun o olygfa o Gwenith Gwyn 1980

Mae'r actores Marion Fenner yn cofio am rai digwyddiadau doniol a thrasig, tra'n teithio gyda'r sioe: "Roedd un foment yn ail act y ddrama pan oedd Mair ac Ifan yn cyfarfod mewn golygfa fach gariadus. Roedd angen i ni redeg tuag at ein gilydd, a byddai e wedyn yn cydio ynddo i ac yn fy nghodi i'r awyr cyn dod a fi i lawr yn araf i mewn i gusan. Un noson, ar y ffordd i lawr, fe gnoiais ei drwyn yn ddamweiniol, a thorri cwt - ac fe waedodd y pwr dab fel mochyn"[2] Ond roedd rheswm arall, mwy trasig iddi gofio am y cynhyrchiad. Buodd ei thad "farw'n gwbwl ddirybudd [...] yn bum deg wyth oed" ar ddiwedd sgwrs ffôn a'i ferch,ar ddiwedd un perfformiad.[2]

Cyfeiriadau

[golygu | golygu cod]
  1. 1.0 1.1 1.2 "North Wales Weekly News 1980".
  2. 2.0 2.1 2.2 Fenner, Marion (2014). Ŵ, Metron. Y Lolfa.
  3. "Catalog ar-lein Rhagorol". diogel.gwynedd.llyw.cymru. Cyrchwyd 2024-09-12.