Gwendolyn Brooks

Oddi ar Wicipedia
Jump to navigation Jump to search
Gwendolyn Brooks
Gwendolyn Brooks.jpg
Ganwyd 7 Mehefin 1917 Edit this on Wikidata
Topeka Edit this on Wikidata
Bu farw 3 Rhagfyr 2000 Edit this on Wikidata (83 oed)
Achos: canser Edit this on Wikidata
Chicago Edit this on Wikidata
Man preswyl Illinois, South Side, Topeka Edit this on Wikidata
Dinasyddiaeth Baner Unol Daleithiau America Unol Daleithiau America
Alma mater
  • Academi Paratol, Technegol Englewood
  • Ysgol Uwchradd Academi Hyde Park
  • Coleg Kennedy–King Edit this on Wikidata
Galwedigaeth bardd, ysgrifennwr, nofelydd, athro Edit this on Wikidata
Cyflogwr
  • Chicago State University Edit this on Wikidata
Prif ddylanwad Langston Hughes, Richard Wright Edit this on Wikidata
Gwobr/au Cymdeithas Goffa John Simon Guggenheim, Y Medal Celf Cenedlaethol, 'Hall of Fame' Cendlaethol Menywod, Gwobr Pulitzer am Farddoniaeth, Chwedl Fyw Llyfrgell y Gyngres, Medal Langston Hughes, Gwobr Llyfr Anisfield-Wolf, Bardd Llawryfog yr Unol Daleithiau, Medal Robert Frost, Darlith Jefferson, Gwobr Goffa Eunice Tietjens, Gwobr Hall Of Fame Llenyddiaeth y Duon, Gwobr Rhyddid Kuumba Edit this on Wikidata

Bardd Americanaidd toreithiog oedd Gwendolyn Brooks (7 Mehefin 1917 - 3 Rhagfyr 2000) oedd hefyd yn nofelydd ac athrawes. Mae ei gwaith yn delio gydag anawsterau a phroblemau sy'n wynebu pobl gyffredin UDA o ddydd i ddydd. Enillodd Wobr Pulitzer am Farddoniaeth ar Galan Mai 1950 am ei chyfrol Annie Allen, y tro cyntaf i fenyw Americanaidd gipio'r wobr.[1][2] Mae ei henw bedydd "Gwendolyn" yn enw Cymreig.

Fe'i ganed yn Topeka, Kansas a bu farw o ganser yn ei chartref yn Chicago; claddwyd hi ym Mynwent Lincoln.

Trwy gydol ei gyrfa fel awdur, derbyniodd Brooks lawer mwy o anrhydeddau. Fe'i penodwyd yn Fardd Llawryfog Illinois ym 1968, swydd a ddaliodd hyd ei marwolaeth, a'r hyn a elwir bellach yn "Fardd Llawryfog Llyfrgell y Gyngres" (Poetry to the Library of Congress) ar gyfer y tymor 1985–86. Yn 1976, hi oedd y fenyw Affricanaidd-Americanaidd gyntaf a gafodd ei derbyn i Academi Celfyddydau a Llythrenau America.[3][4][5]

Magwraeth a gwaith[golygu | golygu cod y dudalen]

Ganwyd Brooks yn Topeka, Kansas lle roedd ei thad, oedd yn lanhawr, wedi gobeithio dilyn gyrfa fel meddyg ond aberthodd y freuddwyd honno i briodi a magu teulu. Roedd ei mam yn athrawes ysgol yn ogystal â phianydd cyngerdd wedi'i hyfforddi mewn cerddoriaeth glasurol.[2]

Yn ôl chwedloniaeth y teulu, roedd hen-daid Brooks wedi dianc rhag caethwasiaeth i ymuno â lluoedd yr Undeb yn ystod Rhyfel Cartref America.[6][7]

Pan oedd yn chwech oed symudodd y teulu i Chicago, lle bu'n byw gweddill ei bywyd. Roedd ei rhieni, yn enwedig ei mam, yn ei hannog i farddoni. Dechreuodd gyflwyno cerddi i wahanol gyhoeddiadau, pan oedd yn ei harddegau. Wedi gadael yr ysgol mynychodd Academi Paratol, Coleg Technegol Englewood, Ysgol Uwchradd ac Academi Hyde Park a Choleg Kennedy–King. [8][9][10][11][12] [13][14]

Yn 1939, priododd Henry Lowington Blakely, Jr,[5] a chawsant ddau o blant: Henry Lowington Blakely III, a Nora Brooks Blakely.[2] Bu farw ei gŵr yn 1996.[15]

Daliodd ati i sgwennu ar ôl priodi a chael plant, ac yn y diwedd daeth o hyd i farchnad sylweddol ar gyfer ei cherddi. Arweiniodd y gydnabyddiaeth hon o'i gwaith hefyd at ddarlithio mewn prifysgolion ac addysgu darpar awduron. Gan ei bod yn enillydd gwobrau lluosog am ei hysgrifennu, mae sawl ysgol a sefydliad wedi'u henwi ar ei hôl.[16]


Anrhydeddau[golygu | golygu cod y dudalen]

  • Dros y blynyddoedd, derbyniodd nifer o anrhydeddau, gan gynnwys: 'Hall of Fame' Cendlaethol Menywod (1988), Gwobr Pulitzer am Farddoniaeth (1950), Chwedl Fyw Llyfrgell y Gyngres, Medal Langston Hughes (1979), Gwobr Goffa Eunice Tietjens[17][18][19][20][21]


Cyfeiriadau[golygu | golygu cod y dudalen]

  1. Banks, Margot Harper (2012). Religious allusion in the poetry of Gwendolyn Brooks. McFarland & Co. p. 3. ISBN 9780786449392.
  2. 2.0 2.1 2.2 Watkins, Mel (December 4, 2000). "Gwendolyn Brooks, Whose Poetry Told of Being Black in America, Dies at 83". The New York Times. https://www.nytimes.com/2000/12/04/books/gwendolyn-brooks-whose-poetry-told-of-being-black-in-america-dies-at-83.html. Adalwyd 13 Medi 2012. "Gwendolyn Brooks, who illuminated the black experience in America in poems that spanned most of the 20th century, winning the Pulitzer Prize in 1950, died yesterday at her home in Chicago. She was 83."
  3. "Illinois Poet Laureate". Archifwyd o y gwreiddiol ar Chwefror 28, 2015. Cyrchwyd Mawrth 6, 2015.
  4. "Poet Laureate Timeline: 1981–1990". Library of Congress. 2008. Cyrchwyd 19 Hydref2008. Check date values in: |accessdate= (help)
  5. 5.0 5.1 Busby, Margaret, "Gwendolyn Brooks — Poet who called out to black people everywhere", The Guardian, 7 Rhagfyr, 2000.
  6. Kniggendorf, Anne. "Renowned Poet Gwendolyn Brooks' Time In Kansas Was Short, But Worth A Birthday Party". kcur.org. Cyrchwyd 9 Mehefin 2017.
  7. Kent (1993). A Life of Gwendolyn Brooks. pp. 1–2.
  8. Cyffredinol: http://data.bnf.fr/ark:/12148/cb120275614; ffeil awdurdod y BnF; dyddiad cyrchiad: 10 Hydref 2015.
  9. Rhyw: Ffeil Awdurdodi Rhyngwladol, dynodwr VIAF 113723435, https://viaf.org/, adalwyd 4 Tachwedd 2018Wikidata Q54919 http://data.bnf.fr/ark:/12148/cb120275614; ffeil awdurdod y BnF; dyddiad cyrchiad: 10 Hydref 2015. http://www.nytimes.com/2000/12/05/books/gwendolyn-brooks-83-passionate-poet-dies.html. http://www.nytimes.com/2000/12/04/books/gwendolyn-brooks-whose-poetry-told-of-being-black-in-america-dies-at-83.html.
  10. Dyddiad geni: Deutsche Nationalbibliothek; Berlin State Library; Bavarian State Library; Austrian National Library, https://www.dnb.de/EN/Home/home_node.html Gemeinsame Normdatei, https://www.dnb.de/gnd, https://www.dnb.de/EN/Home/home_node.html, adalwyd 27 Ebrill 2014Wikidata Q36578
  11. Dyddiad marw: Deutsche Nationalbibliothek; Berlin State Library; Bavarian State Library; Austrian National Library, https://www.dnb.de/EN/Home/home_node.html Gemeinsame Normdatei, https://www.dnb.de/gnd, https://www.dnb.de/EN/Home/home_node.html, adalwyd 27 Ebrill 2014Wikidata Q36578 http://data.bnf.fr/ark:/12148/cb120275614; ffeil awdurdod y BnF; dyddiad cyrchiad: 10 Hydref 2015.
  12. Man geni: http://www.nytimes.com/2000/12/05/books/gwendolyn-brooks-83-passionate-poet-dies.html; dyddiad cyrchiad: 10 Chwefror 2016.
  13. Galwedigaeth: http://www.nytimes.com/2000/12/04/books/gwendolyn-brooks-whose-poetry-told-of-being-black-in-america-dies-at-83.html. http://www.nytimes.com/2000/12/05/books/gwendolyn-brooks-83-passionate-poet-dies.html. http://muse.jhu.edu/journals/modern_fiction_studies/v047/47.1rabinowitz.html.
  14. Anrhydeddau: https://www.womenofthehall.org/inductee/gwendolyn-brooks/. http://www.pulitzer.org/prize-winners-by-year/1950; dyddiad cyrchiad: 10 Chwefror 2016. https://www.loc.gov/about/awards-and-honors/living-legends/gwendolyn-brooks/. https://www.ccny.cuny.edu/lhf/medallion-recipients; dyddiad cyrchiad: 9 Hydref 2016. http://www.nytimes.com/2000/12/04/books/gwendolyn-brooks-whose-poetry-told-of-being-black-in-america-dies-at-83.html; dyddiad cyrchiad: 4 Mawrth 2017.
  15. Heise, Kenan (6 Gorffennaf 1996). "Henry Blakely, 79, `Poet Of 63d Street'" (yn en). Chicago Tribune. http://articles.chicagotribune.com/1996-07-06/news/9607060078_1_gwendolyn-brooks-henry-iii-henry-blakely.
  16. Williams, Kenny Jackson (2001). "Brooks, Gwendolyn". In Andrews, William L.; Foster, Frances Smith; Harris, Trudier (gol.). The Concise Oxford Companion to African American Literature. Oxford University Press. p. 47. ISBN 9780198031758. Cyrchwyd August 23, 2014.
  17. https://www.womenofthehall.org/inductee/gwendolyn-brooks/.
  18. http://www.pulitzer.org/prize-winners-by-year/1950; dyddiad cyrchiad: 10 Chwefror 2016.
  19. https://www.loc.gov/about/awards-and-honors/living-legends/gwendolyn-brooks/.
  20. https://www.ccny.cuny.edu/lhf/medallion-recipients; dyddiad cyrchiad: 9 Hydref 2016.
  21. http://www.nytimes.com/2000/12/04/books/gwendolyn-brooks-whose-poetry-told-of-being-black-in-america-dies-at-83.html; dyddiad cyrchiad: 4 Mawrth 2017.