Gwely gwynt

Oddi ar Wicipedia
Gwely gwynt

Math o wely neu fatres pwmpiadwy yw gwely gwynt neu fatres aer .[1]

Oherwydd ei hynofedd, fe'i defnyddir yn aml fel tegan dŵr neu ddyfais sy'n arnofio, ac mewn rhai gwledydd, fe'i gelwir yn lilo ("Li-lo" yn nod masnach penodol).[2]

Mae'r rhan fwyaf o welyau gwynt wedi'u gwneud o glorid polyfinyl (PVC), er bod fersiynau plastig neu rwber plastig wedi'i atgyfnerthu â thecstilau hefyd wedi'u datblygu. Pan nad yw wedi'i lenwi â gwynt, gellir rholio neu blygu'r gwely er mwyn ei gario neu storio yn rhwydd. Oherwydd hynny, mae'n ddewis poblogaidd ar gyfer teithiau gwersylla ac ar gyfer gwelyau dros dro i westeion.

Gall gwely gwynt gael ei bwmpio gyda'r geg trwy chwythu i mewn i falf, gyda phwmp troed neu bwmp trydan. Mae rhai hyd yn oed yn pwmpio eu hunain (hyd at bwysau penodol — mae angen rhywfaint o bwmpio ychwanegol hefyd) trwy agor y falf.

Mae gwahanol feintiau i'w cael - maint sengl a maint dwbl sydd fwyaf cyffredin. Er bod y ddyfais sy'n cael ei adnabod fel 'air matress' yn Saesneg yn cael ei alw'n 'wely gwynt' yn bennaf yn y Gymraeg, mae gwelyau pwmpiadwy mwy eu maint (o ran eu huchder) bellach yn cael eu cynhyrchu sy'n cael eu galw yn 'air beds'.[3]

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod]

  1. Air mattress[dolen marw] (definition on Princeton WordNet. Accessed 2008-08-10).
  2. "lilo". Compact Oxford English Dictionary. Oxford University Press. 2009. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2012-07-19. Cyrchwyd 2009-05-10.
  3. "Air bed definition and meaning | Collins English Dictionary". www.collinsdictionary.com (yn Saesneg). Cyrchwyd 2018-04-10.