Gweledydd y Glyn
| Iaith | Cymraeg |
|---|---|
| Dyddiad cyhoeddi | 1909 |
| Dynodwyr | |
Nofel Gymraeg yw Gweledydd y Glyn a gyhoeddwyd yn 1909 o dan yr enw Wilym Llywelyn. Disgrifir y gwaith fel "Alegori ar Ffurf Nofel" ar y dudalen flaen, sy'n enwi'r cyhoeddwr fel "Yr Armonic, Yr Wyddgrug".
Crynodeb
[golygu | golygu cod]Stori ramantaidd yn dilyn gwr o Gymru, Dafydd Tomos, sy'n dilyn ei freuddwyd i ddod yn enwog fel crythor. Mae Giuseppe Verdi yn ymddangos fel cymeriad yn y nofel.[1]
Beirniadaeth
[golygu | golygu cod]Mae'r nofel bron yn gyfangwbl angof erbyn heddiw, er iddi gael derbyniad gwresog gan un adolygydd ar y pryd,[2] ac awgrymodd T. Gwynn Jones bod y nofel "fel cynnyg cyntaf, yn llwyddianus tros ben."[3] Nid oes dim gwerth llenyddol i'r nofel yn ôl Alun Jones yn Y Casglwr.[1]
Dirgelwch Awdur Gweledydd y Glyn
[golygu | golygu cod]Awgrymwodd un adolygydd ar y pryd mai ffugenw oedd "Wilym Llywelyn".[2] Ni chyhoeddwyd unrhyw waith arall hysbys dan yr un enw fodd bynnag, nac unrhyw waith arall gan "Yr Armonic", nac unrhyw dystiolaeth arall bod y fath gyhoeddwr yn bodoli. Ymddangosodd nodyn yn Y Goleuad yn 1910 yn honni mai mab i weinidog o Lanrwst oedd yr awdur, er nad yw'n cadarnhau nac yn gwadu ai Wilym Llywelyn oedd ei enw go iawn ai peidio.[4]
Tros ganrif yn didweddarach, mewn erthygl yn Y Casglwr yn 2018 cytunodd Alun Jones mai ffugenw oedd "Wilym Llywelyn" ; dadleuodd hefyd bod diwyg y llyfr yn debyg i nifer o weithiau a gyhoeddwyd yn y cyfnod gan Gwasg y Brython. Awgrymodd mai gwir awdur y gwaith oedd y bardd Pedrog (1853–1932), oedd yn gweithio i'r wasg ar y pryd. Awgryma na fyddai Pedrog, oedd yn brifardd cadeiriog, eisiau i'w enw gael ei gysylltu â gwaith mor sentimentalaidd.[1] Nid oes prawf pendant o'r ddamcaniaeth hon fodd bynnag, ac mae'n tynnu'n groes i'r nodyn yn y Goleuad, gan nad oedd unrhyw gysylltiad amlwg rhwng Pedrog a Llanrwst.