Gweld Sêr (pantomeim)
| Dyddiad cynharaf | 1972 |
|---|---|
| Cyhoeddwr | heb ei chyhoeddi |
| Gwlad | |
| Iaith | Cymraeg |
| Cysylltir gyda | Cwmni Theatr Cymru |
| Math | Pantomeim Gymraeg |
| Dynodwyr | |
Pantomeim Cymraeg gan Gwmni Theatr Cymru yw Gweld Sêr a lwyfannwyd ym 1972. Dyma'r ail banto i'r cwmni lwyfannu ar ôl llwyddiant Mawredd Mawr, flwyddyn ynghynt.
Cymeriadau
[golygu | golygu cod]- Triawd y Gofod:
- Siencyn, y gwas
- Ianto, y prentis dewin
- Fairy Nyff, y Tylwythen Anheg
- Y Frenhines Fawreddog, Urddasol, Ddysgedig...
- Plant Twll y Mwg:
- Y Wrach Ddu
- Y Dewin Gwyrdd
- Plant Llygad yr Haul:
- Y Tywysog Glanser
- Eurben
- Dawnswyr
- Y Brenin Da
- Ei Was Ffyddlon
- Ben y Ci [1]
Disgrifiad byr
[golygu | golygu cod]"...ar ôl llwyddiant ysgubol yr un cyntaf [Mawredd Mawr] yr un prif gymeriadau oedd yn hwn hefyd," yn ôl yr actor John Pierce Jones, "yn cael eu chwarae gan Dyfan Roberts, Dewi Pws a Wynford Ellis Owen. Roedd Beryl Hall a'i chi, Ben Hall, Iona Banks a Huw Tudor hefyd yn serennu yn y cynhyrchiad. Rhan fach iawn fel gwas ufudd y Brenin Da oedd gen i, ond cefais hefyd gyfle i fod yn un o'r criw cefn llwyfan ar y daith, oedd yn brofiad gwerthfawr iawn mewn mwy nag un ystyr."[2]
Cynyrchiadau nodedig
[golygu | golygu cod]Llwyfannwyd y panto gan Gwmni Theatr Cymru dros y Gaeaf 1972 a dechrau'r Gwanwyn 1973.
- Triawd y Gofod:
- Siencyn - Dewi Pws Morris
- Ianto - Dyfan Roberts
- Fairy Nyff - Wynford Elis Owen
- Y Frenhines Fawreddog - Beryl Hall
- Plant Twll y Mwg:
- Y Wrach Ddu - Iona Banks
- Y Dewin Gwyrdd - Grey Evans
- Plant Llygad yr Haul:
- Y Tywysog Glanser - Huw Tudor
- Eurben - Alwen Lewis (Miss Asbri 1972)
- Dawnswyr - Ian Garry, Rosemary Ward, Pauline Cooper.
- Y Brenin Da - Osian Wyn Jones
- Ei Was Ffyddlon - John Pierce Jones
- Ben y Ci [1]
John Pierce Jones sy'n cofio mwy am y cynhyrchiad :
"Roedd y ci, Ben Hall, yn cydganu a'i feistres mewn un olygfa, ac am ryw reswm sydd y tu hwnt i mi, mynnodd Beryl fod Wynford, Dyfan a Dewi Pws i fod ar y llwyfan yn ystod ei chân efo'r ci. Camgymeriad dybryd. Roedd Wynff wedi ei wisgo fel tylwythen deg (Fairy Nyff) ac yn ystod y gân tynnai amryw o fân bethau o'i fag llaw, a gweu efo symudiadau doniol. Wrth gwrs, roedd hyn yn tynnu sylw'r gynulleidfa, a doedd Pws yntau ddim yn ddieuog o'r hyn y gellid ei alw'n 'ypstejio'? Roedd si ar led fod Beryl, ar ôl taenu ei chlogyn o gwmpas Ben fel nad oedd ond ei ben yn y golwg yn ystod y ddeuawd, yn gwasgu ei geilliau er mwyn iddo gyrraedd y nodau uchaf. Does gen i ddim prawf o gwbwl o hyn."[2]
Oriel
[golygu | golygu cod]Cyfeiriadau
[golygu | golygu cod]- ↑ 1.0 1.1 "Mae e tu ôl i chi!". BBC Cymru Fyw. 2015-11-18. Cyrchwyd 2024-09-15.
- ↑ 2.0 2.1 Jones, John Pierce (2014). Yr Hen Ddyddiadau. Gwasg Carreg Gwalch.