Gwasg y Brython

Oddi ar Wicipedia
(Ailgyfeiriad o Gwasg Y Brython)
Gwasg y Brython
Enghraifft o'r canlynolcyhoeddwr, gwasg Edit this on Wikidata
Rhan oy fasnach lyfrau yng Nghymru Edit this on Wikidata
Olynwyd ganGwasg Gomer Edit this on Wikidata
PerchennogHugh Evans a'i Feibion Edit this on Wikidata
Lleoliad yr archifLlyfrgell Genedlaethol Cymru Edit this on Wikidata
SylfaenyddHugh Evans Edit this on Wikidata
PencadlysLerpwl Edit this on Wikidata
Enghraifft o gynnyrch y wasg: Ffarwel Weledig gan Cynan, 1946 (cynlluniwyd y siaced gan E. Meirion Roberts)

Gwasg a chwmni cyhoeddi a sefydlwyd yn 1897 yn Lerpwl, gogledd-orllewin Lloegr, gan Hugh Evans, oedd Gwasg y Brython.

Fel nifer o'i gydwladwyr o ogledd Cymru, symudodd Hugh Evans o'i bentref genedigol, Llangwm, Sir Ddinbych i gael gwaith yn y ddinas fawr dros y ffin. Sefydlodd wasg argraffu yno yn 1897.

Er fod y wasg wedi ei lleoli yn ninas Lerpwl, llyfrau Cymraeg oedd prif gynnyrch Gwasg y Brython. Daeth yn enw cyfarwydd ar silffoedd Cymry llengar yr 20g. Un o'i gyhoeddiadau oedd y newyddiadur wythnosol Y Brython. Roedd cyhoeddiadau eraill y wasg yn cynnwys y cylchgrawn llên arloesol Y Beirniad (lawnsiwyd 1911). Cyhoeddodd Hugh Evans ei lyfrau ei hun hefyd, yn cynnwys y clasur Cwm Eithin (1931).


Eginyn erthygl sydd uchod am lenyddiaeth. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato.