Neidio i'r cynnwys

Gwasanaeth Tân ac Achub De Cymru

Oddi ar Wicipedia
Gwasanaeth Tân ac Achub De Cymru


Ardal weithredu
GwladCymru
RhanbarthDe Cymru[1]
Trosolwg asiantaeth
Sefydlwyd1996 (1996)
Galwadau blynyddol33,046[2] (2019–2020)
Cyflogedigion
Pennaeth Swyddogion TânFin Monahan
Cyfleusterau ac offer
Gorsafoedd47
Injans61
Llwyfannau4
Cerbydau achub7
HAZMAT3
USAR1
Gwylltir8
Badau achub5
Gwefan
https://www.decymru-tan.gov.uk/

Gwasanaeth Tân ac Achub De Cymru (GTADC; Saesneg: South Wales Fire and Rescue Service (SWFRS)) yw'r gwasanaeth tân ac achub sy'n gwasanaethu deg o brif ardaloedd Cymru, sef Blaenau Gwent, Pen-y-bont ar Ogwr, Caerffili, Caerdydd, Merthyr Tudful, Sir Fynwy, Casnewydd, Rhondda Cynon Taf, Torfaen, a Bro Morgannwg.

Crëwyd y Gwasanaeth ym 1996 gan Ddeddf Llywodraeth Leol (Cymru) 1994, a ddiwygiodd llywodraeth leol Cymru. Fe'i crëwyd trwy uno brigadau tân blaenorol Morgannwg Ganol, De Morgannwg, a Gwent. Mae'n gwasanaethu arwynebedd o tua 1,100 milltir sgwar (2,800 km2) gyda phoblogaeth o tua 1.5 miliwn.[2]

Mae'r awdurdod tân sy'n rhedeg y gwasanaeth yn gyd-fwrdd sy'n cynnwys cynghorwyr o'r deg awdurdod lleol a gwmpesir gan y gwasanaeth.[2]

Ers mis Hydref 2017, mae'r Gwasanaeth yn rhannu ystafell reoli gyda Gwasanaeth Tân ac Achub Canolbarth a Gorllewin Cymru a Heddlu De Cymru ym mhencadlys yr heddlu ym Mhen-y-bont ar Ogwr,[3] trefniant y disgwylir iddo arbed £1 miliwn yn flynyddol ar draws y gwasanaethau tân ac achub.[4]

Gorsafoedd tân

[golygu | golygu cod]

Mae'r Gwasanaeth yn cynnal 47 o orsafoedd tân, ac mae 20 ohonynt yn gweithredu staffio "llawn amser" (ymladdwyr tân amser llawn) a 36 yn gweithredu staffio "wrth gefn" (ymladdwyr tân ar alw), gyda rhai gorsafoedd yn gweithredu'r ddau ddull criwio.[5]

Gorsafoedd tân Gwasanaeth Tân ac Achub De Cymru[5]
Rhif yr orsaf Enw'r orsaf Criwio
01 Pen-y-bont ar Ogwr llawn amser/wrth gefn
02 Porthcawl wrth gefn
03 Mynydd Cynffig wrth gefn
04 Y Bontfaen wrth gefn
05 Pencoed wrth gefn
06 Cwm Ogwr wrth gefn
07 Pontycymer wrth gefn
08 Maesteg llawn amser/wrth gefn
09 Treorci wrth gefn
10 Tonypandy llawn amser/wrth gefn
11 Glynrhedynog wrth gefn
13 Gilfach Goch wrth gefn
14 Pont-y-clun wrth gefn
15 Pontypridd llawn amser/wrth gefn
16 Hirwaun wrth gefn
17 Aberdâr llawn amser/wrth gefn
18 Abercynon wrth gefn
19 Llanilltud Fawr wrth gefn
20 Barri llawn amser/wrth gefn
21 Aberbargoed llawn amser/wrth gefn
22 Penarth llawn amser
24 Caerffili llawn amser/wrth gefn
25 Treharris wrth gefn
26 Merthyr Tudful llawn amser/wrth gefn
27 Tredegar wrth gefn
28 Rhymni wrth gefn
30 Abercarn wrth gefn
31 Rhisga wrth gefn
32 Cwmbrân llawn amser
33 Y Dafarn Newydd llawn amser
34 Abersychan wrth gefn
35 Abertyleri wrth gefn
37 Glyn Ebwy llawn amser
38 Brynmawr wrth gefn
39 Blaenafon wrth gefn
40 Y Fenni wrth gefn
41 Mynwy wrth gefn
42 Brynbuga wrth gefn
43 Cas-gwent wrth gefn
44 Cil-y-coed wrth gefn
45 Malpas llawn amser
46 Maendy llawn amser
47 Dyffryn llawn amser
49 Yr Eglwys Newydd llawn amser
50 Y Rhath llawn amser
51 Canol Caerdydd llawn amser
52 Trelái llawn amser

Lleolir pencadlys y gwasanaeth yn Llantrisant, Morgannwg.[6]

Cyfeiriadau

[golygu | golygu cod]
  1. Yn cwmpasu'r rhan fwyaf o'r hyn a ddisgrifir yn gyffredin fel "De-ddwyrain Cymru". Mae diffiniadau ehangach o Dde Cymru.
  2. 1 2 3 4 "Strategic Plan 2020-2030" (PDF). South Wales Fire and Rescue Service. 1 Ebrill 2021. tt. 27–28. Archifwyd o'r gwreiddiol (PDF) ar 16 Mai 2021. Cyrchwyd 19 Ebrill 2021.
  3. "The South Wales Tri-Service Public Service and Joint Emergency Control Centre Tri-Service Centre Evaluation". Cardiff University. 14 Mai 2018. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 19 Ebrill 2021. Cyrchwyd 19 Ebrill 2021.
  4. "National Framework for Fire and Rescue Services – Progress Report 2019" (PDF). Welsh Government. Archifwyd o'r gwreiddiol (PDF) ar 19 Ebrill 2021. Cyrchwyd 19 Ebrill 2021.
  5. 1 2 "South Wales Fire & Rescue Service: "Fire Station Locations"" (PDF). 2020. Cyrchwyd 1 Medi 2023.
  6. "South Wales Fire & Rescue Service: "Contact Us"". Archifwyd o'r gwreiddiol ar 1 Medi 2023. Cyrchwyd 1 Medi 2023.

Dolenni allanol

[golygu | golygu cod]