Gwarchodfa natur Llanelli

Oddi ar Wicipedia
Jump to navigation Jump to search
Llanelli01LB.jpg
Llanelli02LB.jpg
Llanelli03LB.jpg
Llanelli04LB.jpg

Mae Gwarchodfa natur Llanelli un o 9 gwarchodfa wedi eu rheoli gan Ymddiriodolaeth Adar Dŵr a Thiroedd Gwlybion. Lleolir y warchodfa 1 milltir i’r dwyrain o Lanelli. Maint y warchodfa yw 450 erw, yn cynnwys llynnau, pwllau a nentydd ar ymylon morfa Aber Llwchwr.


Agorwyd y warchodfa ar 17 Ebrill, 1991 gan David Attenborough[1]. Fel gwarchodfeydd eraill yr ymddiriedolaeth, mae rhan o’r safle’n cynnwys adar cynhenid megis Pioden y môr, Pibydd y traeth a choesgoch, a rhan arall yn cynnwys adar gweddill y byd, megis Fflamingo. Mae’r warchodfa yn nodweddol am nifer sylweddol o lygod y dŵr. Gwelir Rhostog gynffonddu, Coeswerdd, Gylfinir, Hwyaden Lostfain, Hwyaden yr Eithin, Hwyaden Lydanbig, Gïach, Corhwyaden, Crëyr bach, Dwrgi, Crëyr Glas, Cornchwiglen, Gwyach, Hwyaden Bengoch, Bras y cyrs, Llwydfron fach, Troellwr bach, Telor Cetti, Gwylan Benddu, Crëyr mawr gwyn, Gwalch glas, a Bŵn. [2]


Cyfeiriadau[golygu | golygu cod y dudalen]


Dolen allanol[golygu | golygu cod y dudalen]