Gwarchodfa Natur Genedlaethol Caerlaverock

Oddi ar Wicipedia
Gwarchodfa Natur Genedlaethol Caerlaverock
MathGwarchodfa Natur Genedlaethol Edit this on Wikidata
Daearyddiaeth
SirDumfries a Galloway Edit this on Wikidata
GwladBaner Yr Alban Yr Alban
Cyfesurynnau54.96°N 3.47°W Edit this on Wikidata
Map
Gwyddau gwyrain
Un o'r cuddfannau

Gwarchodfa Natur yn Dumfries a Galloway, yr Alban yw Gwarchodfa Natur Genedlaethol Caerlaverock. Un o warchodfeydd yr Ymddiriodolaeth Adar Dŵr a Thiroedd Gwlybion yw hi. Maint y warchodfa yw 1400 erw.[1] Mae’r warchodfa’n nodedig am Gwyddau gwyrain ac Elyrch y Gogledd.[2] Mae dros 40,000 o wyddau gwyrain yn ymweld yn flynyddol o Svalbard. Gwelir Hebog tramor, Boda tinwyn a Boda gwerni’n hela. Mae Alarch dof, Hwyaden wyllt, Chwiwell, Hwyaden gopog, Pibydd llydanbig, Corhwyaden, Gŵydd lwyd, Rhegen y dŵr, Gwyach gorniog, Rhostog Gynffonddu, Gylfinir, Cornchwiglen, Bras y Cyrs, Bras Melyn, Dryw Eurben, Dringwr Bach, Llinos,Coch y Berllan, Hwyaden benddu ac Alarch Bewick hefyd, a gwelir Gwennol y Bondo dros yr haf, Socan Eira ac Adain Coch dros yr hydref.[1] Mae pâr o weilch wedi nythu yn y warchodfa ers 2003. Gwelir y nyth trwy webcam yn ystod y tymor nythu (Ebrill i Awst).[3] Cedwir Defaid Shetland i bori'r glaswellt.

Agorwyd canolfan addysg ym mis Ionawr 2002 gan Frenin Harald V o Norwy.[4]

Gweinyddir gan NatureScot.

Oriel[golygu | golygu cod]

Gweler hefyd[golygu | golygu cod]

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod]

Dolen allanol[golygu | golygu cod]