Gwalchwyfyn gwenynaidd ymyl gul
| Hemaris tityus | |
|---|---|
| Dosbarthiad gwyddonol | |
| Teyrnas: | Animalia |
| Ffylwm: | Arthropoda |
| Dosbarth: | |
| Urdd: | Lepidoptera |
| Teulu: | Sphingidae |
| Genws: | Hemaris |
| Rhywogaeth: | H. tityus |
| Enw deuenwol | |
| Hemaris tityus (Linnaeus, 1758)[1] | |
| Cyfystyron | |
| |
Gwyfyn sy'n perthyn i urdd y Lepidoptera yw gwalchwyfyn gwenynaidd ymyl gul, sy'n enw gwrywaidd; yr enw lluosog ydy gwalchwyfynod gwenynaidd ymyl gul; yr enw Saesneg yw Narrow-bordered Bee Hawk-moth, a'r enw gwyddonol yw Hemaris tityus.[2][3] Mae'n un o ddau wyfyn o deulu'r Sphingidae sy'n dynwared y wenynen o ran lliw ei chorff. Mae ei diriogaeth yn eitha eang: o Iwerddon ar hyd Ewrop i Fynyddoedd yr Wral, Gorllewin Siberia ac hyd at Altai. Caiff ei weld hefyd o Tian Shan i'r dwyrain hyd at Mongolia ac i ogledd-ddwyrain Tsieina ac i'r de hyd at Tibet. Mae clwstwr annibynnol ohonynt hefyd hefyd ar gael rhwng Twrci ac Iran.
Mae'r oedolyn i'w weld rhwng Mai a Mehefin yng ngwledydd Prydain a hynny liw dydd, sy'n ei wneud yn wahanol i weddill teulu'r sphingidau. Fel arfer fe'i welir o ganol y bore hyd at ddechrau'r cyfnos.[4]
Mae'n hoff iawn o wlyptir coediog, gyda'r siani flewog yn gwledda ar Succisa pratensis a Knautia arvensis. 40 – 50 mm ydy lled adenydd agored yr oedolyn.
- Hemaris tityus ♂
- Hemaris tityus ♂ △
- Hemaris tityus ♀
- Hemaris tityus ♀ △
Gwybodaeth gyffredinol
[golygu | golygu cod]Gellir dosbarthu'r pryfaid (neu'r Insecta) sy'n perthyn i'r Urdd a elwir yn Lepidoptera yn ddwy ran: y gloynnod byw a'r gwyfynod. Mae'r dosbarthiad hwn yn cynnyws mwy na 180,000 o rywogaethau mewn tua 128 o deuluoedd. Wedi deor o'i ŵy mae'r gwalchwyfyn gwenynaidd ymyl gul yn lindysyn sy'n bwyta llawer o ddail, ac wedyn mae'n troi i fod yn chwiler. Daw allan o'r chwiler ar ôl rhai wythnosau. Mae pedwar cyfnod yng nghylchred bywyd glöynnod byw a gwyfynod: ŵy, lindysyn, chwiler ac oedolyn.
Gweler hefyd
[golygu | golygu cod]Cyfeiriadau
[golygu | golygu cod]- ↑ "CATE Creating a Taxonomic eScience - Sphingidae". Cate-sphingidae.org. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2012-11-10. Cyrchwyd 2011-10-19.
- ↑ Gwefan Cyngor Cefn Gwlad Cymru. Cyngor Cefn Gwlad Cymru. Adalwyd ar 29 Chwefror 2012.
- ↑ Geiriadur enwau a thermau ar Wefan Llên Natur. Adalwyd 13/12/2012.
- ↑ "''Hemaris tityus''". Tpittaway.tripod.com. Cyrchwyd 2011-10-19.
