Neidio i'r cynnwys

Gwahaniaethu yn erbyn menywod trawsryweddol

Oddi ar Wicipedia
Gwahaniaethu yn erbyn menywod trawsryweddol
Enghraifft o:trawsffobia, Casineb at wragedd, Rhyngblethedd Edit this on Wikidata
Mathrhywiaeth Edit this on Wikidata
Y gwrthwynebGwahaniaethu yn erbyn dynion trawsryweddol Edit this on Wikidata
Dynodwyr

Gwahaniaethu yn erbyn menywod trawsryweddol neu traws-misogyny yw'r casineb o fenywod trawsryweddol.[1] Creodd Julia Serano y term transmisogyny yn Saesneg yn ei llyfr Whipping Girl yn 2007 i ddisgrifio math arbennig o ormes a brofir gan fenywod traws.[2][3][4] Mae'r term transmisogyny yn Saesneg yn cyfuno'r arddod 'trans-' gyda 'misogyny' (gwreig-gasineb).

Enghreifftiau

[golygu | golygu cod]

Mae gwahaniaethu yn erbyn menywod traws yn cynnwys ffetisiaeth, camryweddu (misgendering), cam-drin a throseddau casineb.

Mae rhai menywod traws yn profi ffetisiaeth oherwydd eu hunaniaeth trawsryweddol, cyn ac ar ôl hormonau neu lawdriniaeth. Yn ogystal â ffetisiaeth, mae menywod traws yn profi camryweddu, cam-drin a llofruddiaeth. Yn yr Unol Daleithiau, rhan fwyaf o lofruddiaethau o fenywod trawsryweddol yn erbyn menywod trawsryweddol o liw.[5]

Trawsffeministiaeth

[golygu | golygu cod]

Mae transmisogyny yn gysyniad canolog mewn trawsffeministiaeth. Yn ei diffiniad o transmisogyny, nid yw Serano yn cyfyngu'r rhai yr effeithir arnynt gan traws-misogyny i unigolion sy'n uniaethu fel trawsryweddol ac yn cynnwys eraill, megis pobl cydryweddol (Saesneg: cisgender), a'r rhai sy'n uniaethu fel breninesau llusg.[6]

Yn ei llyfr Whipping Girl, mae Serano yn dadlau bod menywod traws yn cael eu gweld fel bygythiad i "hierarchaeth rhywedd gwrywaidd-ganolog"[7].

Cyfeiriadau

[golygu | golygu cod]
  1. Kevin L. Nadal (2017). The SAGE Encyclopedia of Psychology and Gender. SAGE Publications. tt. 1728–1731. ISBN 978-1-5063-5324-1. Cyrchwyd 22 January 2020.
  2. Krell, Elías Cosenza (2017). "Is Transmisogyny Killing Trans Women of Color?". TSQ: Transgender Studies Quarterly 4 (2): 226–242. doi:10.1215/23289252-3815033.
  3. Serano, Julia. "Transmisogyny primer" (PDF). Archifwyd o'r gwreiddiol (PDF) ar 26 Ebrill 2019. Cyrchwyd 10 September 2014.
  4. Harrison, Kelby (2013). Sexual deceit: the ethics of passing. Lexington Books. t. 12. ISBN 978-0-7391-7706-8. Cyrchwyd 4 November 2016.
  5. "Fatal Violence Against the Transgender Community in 2018". HRC (yn Saesneg). Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2025-06-05. Cyrchwyd 2025-06-06.
  6. Serano, Julia (2016). Outspoken: A Decade of Transgendered Activism and Trans Feminism. Switch Hitter Press. tt. 66–79.
  7. Serano, Julia (2016). Whipping Girl: A Transsexual Woman on Sexism and the Scapegoating of Femininity. Basic Books. ISBN 978-1-58005-623-6.