Guevaraeth

Oddi ar Wicipedia
(Ailgyfeiriad o Guevarismo)
Guevaraeth
Enghraifft o'r canlynolideoleg wleidyddol, strategaeth filwrol Edit this on Wikidata
Mathsosialaeth chwyldroadol Edit this on Wikidata

Ffurf ar Farcsiaeth–Leniniaeth yw Guevaraeth (Sbaeneg: guevarismo) sydd yn tynnu ar ddamcaniaeth chwyldroadol Ernesto "Che" Guevara a'i strategaeth o ryfela herwfilwrol. Agwedd fawr ohoni yw damcaniaeth filwrol foco, a ddatblygwyd gan Guevara yn ei lyfr La guerra de guerrillas (1960) a Régis Debray yn Révolution dans la révolution ? (1967).

Yn ystod Chwyldro Ciwba (1953–59), cychwynnodd Guevara fel sosialydd gwrth-drefedigaethol yn debyg i'w gymrawd Fidel Castro. Byddai Guevara yn dod yn fwyfwy dan ddylanwad athrawiaeth Farcsaidd uniongred a chomiwnyddiaeth Sofietaidd, ac anogodd Castro i gofleidio'r syniad o chwyldro byd. Aeth i'r Congo a Bolifia i geisio defnyddio'i strategaeth foco i ysgogi chwyldroadau comiwnyddol yn y gwledydd hynny, ond heb lwyddiant.

Dadleuodd Guevara dros addasu Marcsiaeth–Leniniaeth at amodau lleol a rhanbarthol, gan adolygu'r syniadaeth ynglŷn ag anghenion y chwydro yn America Ladin. Yn ôl Guevaraeth, mae'r newid mewn ymwybyddiaeth o ddosbarth yn blaenori datblygiad grymoedd cynhyrchu economaidd, a chymhellion moesol yn hytrach na symbyliadau materol sydd yn gyrru'r chwyldro.[1]

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod]

  1. Elliott Johnson, David Walker, a Daniel Gray, Historical Dictionary of Marxism, ail argraffiad (Llundain: Rowman & Littlefield, 2014), t. 180.