Elan Grug Muse
| Elan Grug Muse | |
|---|---|
| Ganwyd | 1993 |
| Dinasyddiaeth | |
| Alma mater |
|
| Galwedigaeth | ysgrifennwr |
| Blodeuodd | 2000 |
Bardd ac awdur yw Grug Muse.[1]
Cafodd ei magu yn Nyffryn Nantlle a bu'n astudio Gwleidyddiaeth ym Mhrifysgol Nottingham ac yn y Weriniaeth Tsiec. Ochr yn ochr a'i hysgrifennu, bu'n gweithio ar brosiectau'n ymwneud â newid hinsawdd.[2]
Enillodd Grug gadair yr Urdd y 2013. Cyn hynny enillodd gadair yr ifanc yn Eisteddfod Llanllyfni yn 2010 a medal yr ifanc yn Eisteddfod Dyffryn Ogwen yn 2010. Mae wedi cyhoeddi sawl papur ac erthygl mewn cyhoeddiadau Cymraeg a Saesneg ac mae'n ysgrifennu blog yn gyson. Mae hi hefyd yn awdur rhyddiaith ac wedi dod i'r brig gyda'i straeon byrion yn yr Urdd. Roedd hi hefyd yn un o sylfaenwyr y cylchgrawn llenyddol ar-lein y Stamp[2], ac mae'n dal i fod yn un o olygyddion y grŵp.[3]
Cyhoeddwyd y gyfrol Cyfres Tonfedd Heddiw: Ar Ddisberod gan Cyhoeddiadau Barddas yn 2017. Cyhoeddwyd ei chyfrol o gerddi merch y llyn yn 2021, a aeth ymlaen i ennill categori barddoniaeth Llyfr y Flwyddyn 2022.[3]
Roedd hi'n un o olygyddion y gyfrol Welsh (Plural): Essays on the Future of Wales (2022).[3]
Mae'n aelod o dîm y Gwylliaid Cochion ar Dalwrn y Beirdd.[4]
Yn 2025 cyhoeddodd gyfrol o ysgrifennu taith Croesi: Cyfandir ar Ddwy Olwyn[5]
Cyfranodd ddrama i gynhyrchiad Theatr Cymru o Wes Wes! yn 2026.
Cyfeiriadau
[golygu | golygu cod]- ↑ "www.gwales.com - 1911584022". www.gwales.com. Cyrchwyd 2019-11-19.
- 1 2 "Pum munud gyda'r bardd Grug Muse". BBC Cymru Fyw. 2021-12-01. Cyrchwyd 2025-01-24.
- 1 2 3 "Grug Muse". Llenyddiaeth Cymru. Cyrchwyd 2025-01-24.
- ↑ "BBC Radio Cymru - Y Talwrn - Cerddi Rownd 1 2024". BBC. Cyrchwyd 2025-01-24.
- ↑ Stubbs, Molly (2025-12-07). "Book review: Croesi Cyfandir ar Ddwy Olwyn by Grug Muse". Nation.Cymru (yn Saesneg). Cyrchwyd 2026-02-27.
| Gwybodaeth o Gwales |
|
Mae'r erthygl hon yn cynnwys testun o fywgraffiad yr awdur Elan Grug Muse ar wefan Gwales, sef gwefan gan Cyngor Llyfrau Cymru. Mae gan yr wybodaeth berthnasol drwydded agored CC BY-SA 4.0; gweler testun y drwydded am delerau ail-ddefnyddio'r gwaith. |