Gruffudd Parry
(Ailgyfeiriad oddi wrth Gruffydd Parry)
Jump to navigation
Jump to search
Gruffudd Parry | |
---|---|
Ganwyd |
1916 ![]() |
Bu farw |
2001 ![]() |
Dinasyddiaeth |
![]() |
Galwedigaeth |
bardd ![]() |
Llenor Cymraeg oedd Gruffudd Parry (1916 – 2001). Ganed ef ym mhentref Carmel, Dyffryn Nantlle, yn fab i chwarelwr; brawd iddo oedd Syr Thomas Parry. Graddiodd ym Mhrifysgol Bangor, a threuliodd 37 mlynedd fel athro Saesneg yn Ysgol Uwchradd Botwnnog. Heblaw ei lyfrau, ef fyddai'n ysgrifennu sgriptiau "Co Bach" ar gyfer Nosweithiau Llawen y BBC. Roedd yn un o sefydlwyr cymdeithas Cyfeillion Llŷn gydag R. S. Thomas.
Cyhoeddiadau[golygu | golygu cod y dudalen]
- Adroddiadau'r Co Bach (1949)
- Blwyddyn bentre (1975)
- Co Bach a Hen Fodan a Wil (2002)
- Cofio'n ôl (2000)
- Crwydro Llŷn ac Eifionydd (1960)
- Mân sôn (1989)
- Mi gana'-i gân: cerddi a baledi (2003)
- Straeon Rhes Ffrynt (1983)
- Sychau yn gleddyfau (1990)
- Yn ôl i Lŷn ac Eifionydd (1982)