Gruffudd ap Rhydderch
Gruffudd ap Rhydderch | |
---|---|
Bu farw | 1055 |
Dinasyddiaeth | Cymru |
Galwedigaeth | teyrn |
Tad | Rhydderch ap Iestyn |
Plant | Caradog ap Gruffudd |
Roedd Gruffydd ap Rhydderch (bu farw 1055) yn frenin Gwent a rhan o Forgannwg, ac yn ddiweddarach yn frenin Deheubarth.
Roedd Gruffudd yn fab i Rhydderch ap Iestyn, oedd wedi meddiannu teyrnas Deheubarth o 1023 hyd 1033. Daeth Gruffudd ei hun yn frenin rhan o Forgannwg. Pan feddiannwyd Deheubarth, gan Gruffudd ap Llywelyn o Wynedd yn 1044, wedi iddo yrru Hywel ab Edwin, brenin Deheubarth ar ffo, gwrthwynebwyd ef gan Gruffydd ap Rhydderch. Yn 1045 gallodd Gruffudd ap Rhydderch yrru Gruffydd ap Llywelyn o Ddeheubarth a meddiannu'r deyrnas ei hun. Dywedir ei fod yn frenin nerthol, a orchfygodd ymosodiadau'r Daniaid ac ymderchion Gruffudd ap Llywelyn i adfeddiannu'r deyrnas. Fodd bynnag, yn 1055 lladdwyd ef mewn brwydr gan Gruffudd ap Llywelyn, a gipiodd Deheubarth eto.
Yn ddiweddarach, ceisiodd ei fab Caradog ap Gruffudd, ddilyn esiampl ei dad a'i daid trwy gael meddiant ar Ddeheubarth, ond lladdwyd ef ym Mrwydr Mynydd Carn.
Llyfryddiaeth
[golygu | golygu cod]John Edward Lloyd (1911) A history of Wales from the earliest times to the Edwardian conquest (Longmans, Green & Co.)