Gruffudd Parry

Oddi ar Wicipedia
Jump to navigation Jump to search
Gruffudd Parry
Ganwyd 1916 Edit this on Wikidata
Bu farw 2001 Edit this on Wikidata
Dinasyddiaeth Baner Cymru Cymru
Galwedigaeth bardd Edit this on Wikidata

Llenor Cymraeg oedd Gruffudd Parry (19162001). Ganed ef ym mhentref Carmel, Dyffryn Nantlle, yn fab i chwarelwr; brawd iddo oedd Syr Thomas Parry. Graddiodd ym Mhrifysgol Bangor, a threuliodd 37 mlynedd fel athro Saesneg yn Ysgol Uwchradd Botwnnog. Heblaw ei lyfrau, ef fyddai'n ysgrifennu sgriptiau "Co Bach" ar gyfer Nosweithiau Llawen y BBC. Roedd yn un o sefydlwyr cymdeithas Cyfeillion Llŷn gydag R. S. Thomas.

Cyhoeddiadau[golygu | golygu cod y dudalen]

  • Adroddiadau'r Co Bach (1949)
  • Blwyddyn bentre (1975)
  • Co Bach a Hen Fodan a Wil (2002)
  • Cofio'n ôl (2000)
  • Crwydro Llŷn ac Eifionydd (1960)
  • Mân sôn (1989)
  • Mi gana'-i gân: cerddi a baledi (2003)
  • Straeon Rhes Ffrynt (1983)
  • Sychau yn gleddyfau (1990)
  • Yn ôl i Lŷn ac Eifionydd (1982)