Grossmünster

Oddi ar Wicipedia
Y Grossmünster.

Eglwys arddull Romanesg yn Zürich, Y Swistir yw'r Grossmünster (sef 'Yr Eglwys Gadeiriol Fawr', er nad yw'n eglwys gadeiriol fel y cyfryw), sy'n un o dair prif eglwys dinas Zürich ac sydd â rhan amlwg yn hanes y Diwygiad Protestannaidd.

Dechreuwyd ar y gwaith o'i chodi tua'r flwyddyn 1100 ond ni chafodd ei hagor yn swyddogol tan 1220. Ychwanegwyd y ddau dŵr yn 1781–87.

Yn 1519 cafodd Ulrich Zwingli ei ethol yn bregethwr yn eglwys y Grossmünster. Yn ogystal â phregethu'r Efengyl yno, llwyddodd i berswadio gwŷr Zurich i beidio cymryd rhan yng nghynghrair y cantonau eraill gyda Ffrainc. Yn 1523 mabwysiadodd cyngor Zürich 67 Pwynt Zwingli; carreg filltir yn hanes y Diwygiad yn y Swistir ac Ewrop gyfan. Dros y blynyddoedd nesaf gwnaeth sawl diwygiad yn cynnwys hebgor y sagrafen. Am gyfnod, felly, y Grossmünster oedd prif ganolfan Protestaniaeth gynnar.

Eginyn erthygl sydd uchod am y Swistir. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato