Gronw Pebr

Oddi ar Wicipedia
(Ailgyfeiriad o Gronw Pebyr)
Gronw Pebr a Blodeuwedd, llun gan Ernest Wallcousins (1882–1976)

Arglwydd Penllyn yn y Mabinogi Math fab Mathonwy oedd Gronw Pebr (Cymraeg Canol: Gronw Pebyr). Mae'r enw 'Gronw' yn ffurf gynnar ar yr enw personol 'G(o)ronwy'. Mwy anodd yw esbonio 'Peb(y)r'. Bu cymysgiad yn y testun. Ceir yr amrywiadau 'Pybyr', 'Pebyr' a 'Pef(y)r'. Os 'pybyr' yr ystyr yw "cryf, darbodus". Ystyr 'pefr' yw "disglair, hardd, golau" ac efallai mai hyn sydd fwyaf addas i Ronw.

Cynlluniodd Gronw gyda Blodeuwedd i ladd ei gŵr Lleu Llaw Gyffes. Gwyddai Blodeuwedd na ellid lladd Lleu fel dyn cyffredin, a holodd ei gyfrinach gan gymryd arni ei bod yn poeni amdano. "Paid â phoeni," meddai Lleu. "Dim ond un ffordd y gellir fy lladd. Rhaid yn gyntaf i mi ymolchi mewn cafn a tho arno ar lan afon. Wedyn, os safaf ar un troed ar ymyl y cafn a’r llall ar gefn bwch, a’m taro â gwaywffon, yna gellir fy lladd. Ond rhaid bod blwyddyn yn gwneuthur y waywffon a hynny adeg gwasanaeth y Sul yn unig."

Adroddodd Blodeuwedd y gyfrinach wrth Gronw a dechreuodd wneud y waywffon. Ymhen blwyddyn roedd popeth yn barod. Roedd Blodeuwedd, Lleu a Gronw ar lan Afon Cynfal (ger Ffestiniog heddiw). Gofynnodd Blodeuwedd i Lleu ei hatgoffa sut y safai cyn y gellid ei ladd, a gwnaeth Lleu hyn heb wybod fod Gronw yn cuddio gerllaw.

Taflodd Gronw y waywffon at Lleu a throwyd ef yn eryr a chyda bloedd ofnadwy hedodd i ffwrdd. Yn fuan wedyn priodwyd Gronw Pebr a Blodeuwedd a phan glywodd Gwydion am hyn penderfynodd fynd i weld beth a ddigwyddodd i Lleu.

Gyda chymorth hwch daeth Gwydion o hyd i'w nai yn eistedd ar frigyn uchaf derwen. Meddyliodd ar unwaith mai Lleu oedd yr eryr a dechreuodd adrodd englynion wrtho, sef Englynion Gwydion, nes iddo ddisgyn ar lin Gwydion. Yna trawodd yr aderyn â hudlath gan ddychwelyd Lleu Llaw Gyffes i'w ffurf ei hun, ond yn wael iawn ei wedd.

"Mynnaf ddial y cam a gefais," meddai Gwydion, ac aeth i chwilio am Flodeuwedd. Daliwyd hi wrth Llyn y Morynion a dywedodd Gwydion wrthi, "Ni chei dy ladd, ond cei dy droi yn aderyn ac oherwydd y cam a wnaethost â Lleu ni chei ddangos dy wyneb yn y dydd rhag ofn yr holl adar eraill. Ni cholli dy enw, gelwir di byth yn Blodeuwedd." A chyda hynny trowyd Blodeuwedd yn dylluan. Bu raid i Gronw Pebr sefyll fel y gwnaeth Lleu ar lan Afon Cynfal a lladdwyd ef gan Lleu â gwaywffon.