Grindr
Gwedd
| |
| Datblygwr | Nearby Buddy Finder, LLC. |
|---|---|
| Rhyddhawyd | 25 Mawrth, 2009 |
| Sefydlwyd | Los Angeles, Califfornia |
| Systemau gweithredu | Apple iOS, Android a Blackberry OS |
| Genre | Rhwydweithio geogymdeithasol |
| Gwefan | Grindr.com |
Rhaglen gyfrifiadurol rhwydweithio geogymdeithasol sydd wedi'i anelu at ddynion cyfunrywiol a deurywiol ydy Grindr. Caiff ei defnyddio ar declynnau iOS, Blackberry OS ac Android. Gellir ei lawrlwytho o "App Store" Apple a Google Play yn rhad ac am ddim a hefyd fel fersiwn y gellir tanysgrifio iddo (Grindr Xtra). Defnyddia'r rhaglen geoleoliad y ddyfais, sy'n galluogi defnyddwyr i leoli dynion eraill yn y cyffiniau. Gwneir hyn trwy ryngwyneb defnyddiwr sy'n arddangos grid o luniau o'r dynion gerllaw, wedi'u trefnu o'r dynion agosaf i'r dynion pellaf i ffwrdd. Bydd tapio ar lun yn arddangos proffil cryno ar gyfer y defnyddiwr hwnnw, yn ogystal â'r opsiwn i sgwrsio, danfon lluniau a rhannu eich lleoliad eich hun.
