Gouache
Gwedd
| Enghraifft o: | deunydd peintio |
|---|---|
| Math | peintio â dŵr |
| Deunydd | pigment, glynwr |
| Dynodwyr | |
| Freebase | /M/0j12g |
| Quora | Gouache |
Mae gouache yn fath o baent sy'n cael ei wanhau â dŵr, yn debyg i ddyfrlliw, ond yn wahanol i ddyfrlliw go iawn mae'n anhryloyw. Fel arfer, y glynwr neu doddydd a ddefnyddir i wneud y math hwn o baent yw gwm Arabig. Mae arwyneb gorffenedig y paent yn ddwys. Yn wahanol i baent acrylig, nid oes polymerau rhwymo ynddo ac, o ganlyniad, dim sglein.[1] Fe'i defnyddir yn aml gan artistiaid masnachol ar gyfer posteri, darluniau, comics a gwaith dylunio arall.


Cyfeiriadau
[golygu | golygu cod]- ↑ Y Geiriadur Celf, gol. Mark White a Dafydd Jones (Tresaith: Dalen, 2011), t.83