Gotha
![]() | |
![]() | |
Math | bwrdeistref trefol yr Almaen, prif ddinas ranbarthol ![]() |
---|---|
Poblogaeth | 46,300 ![]() |
Pennaeth llywodraeth | Knut Kreuch ![]() |
Cylchfa amser | UTC+01:00, UTC+2 ![]() |
Gefeilldref/i | Kielce, Romilly-sur-Seine, Salzgitter, Gastonia, Martin ![]() |
Daearyddiaeth | |
Sir | Gotha ![]() |
Gwlad | ![]() |
Arwynebedd | 69.58 km² ![]() |
Uwch y môr | 300 metr ![]() |
Yn ffinio gyda | Nordhausen, Leinatal, Emleben ![]() |
Cyfesurynnau | 50.9489°N 10.7183°E ![]() |
Cod post | 99867 ![]() |
Pennaeth y Llywodraeth | Knut Kreuch ![]() |
![]() | |
Dinas yn nhalaith ffederal Thüringen yng nghanolbarth yr Almaen yw Gotha. Saif 20 km (12 milltir) i'r gorllewin o ddinas Erfurt a 25 km (16 milltir) i'r dwyrain o ddinas Eisenach. Yng ôl amcangyfrif 2023 roedd ganddi boblogaeth o 46,633.[1]
Roedd y lle mewn bodololaeth yn y 8g, pan gafodd ei chrybwyll mewn dogfen a lofnodwyd gan Siarlymaen. Ym 1640 daeth Gotha yn brifddinas dugiaeth Saxe-Gotha. O 1826 hyd 1918, Gotha oedd un o ddwy brifddinas dugiaeth Saxe-Coburg a Gotha.
Chwaraeodd Gotha ran bwysig ym mudiad gweithwyr yr Almaen: sefydlwyd y Sozialdemokratische Partei Deutschlands (SPD) yn Gotha yn 1875, pan ymunodd y Blaid Ddemocrataidd Gymdeithasol i Weithwyr, dan arweiniad August Bebel a Wilhelm Liebknecht, a Chymdeithas Gyffredinol Gweithwyr yr Almaen, a sefydlwyd gan Ferdinand Lassalle. Gelwid y cytundeb yn "Rhaglen Gotha" (Almaeneg: Gothaer Programm) ac fe'i gwrthwynebwyd gan Karl Marx.
Mae Gotha hefyd wedi bod yn ganolfan gyhoeddi. Yn 1763 dechreuodd cwmni Justus Perthes (a elwir bellach yn Hermann Haack) gyhoeddi'r Almanach de Gotha, sy'n gyfeiriadur pwysig o frenhiniaeth ac uchelwyr uwch Ewrop.
Cyfeiriadau
[golygu | golygu cod]- ↑ City Population; adalwyd 12 Mai 2025