Gossip Girl

Oddi ar Wicipedia
Gossip Girl
Enghraifft o'r canlynolcyfres nofelau Edit this on Wikidata
AwdurCecily von Ziegesar Edit this on Wikidata
CyhoeddwrLittle, Brown and Company Edit this on Wikidata
IaithSaesneg Edit this on Wikidata
Dyddiad cyhoeddi2002 Edit this on Wikidata
Genrenofel oedolion ifanc, Gwobr Llenyddiaeth Pobl Ifanc Edit this on Wikidata
Gwefanhttp://www.gossipgirl.net Edit this on Wikidata

Cyfres o nofelau Americanaidd i bobl ifanc yw Gossip Girl, a ysgrifennwyd gan Cecily von Ziegesar ac a gyhoeddwyd gan Little, Brown and Company. Caiff y stori ei hadrodd gan flogiwr anhysbys a’i gelwir yn "Gossip Girl". Mae’r gyfres yn cylchdroi o amgylch bywydau y bobl ifanc breintiedig sy’n mynd i’r Constance Billard School for Girls, ysgol breifat yn Nwyrain Efrog Newydd. Mae’r gyfres yn ffocysu ar Blair Waldorf a’i ffrind gorau, Serena van der Woodsen ac mae’n dilyn y cymeriadau drwy eu bywydau yn yr ysgol uwchradd ac ymlaen i’r brifysgol.

Cyhoeddwyd nofel gyntaf Gossip Girl ym mis Ebrill 2002, a chyhoeddwyd y nofel ddiwethaf, sef yr unfed ar ddeg ym mis Mai 2007. Bwriedir cyhoeddi nofel arall ym mis Tachwedd 2009, sy’n dilyn bywydau'r cymeriadau ar ôl dychwelyd o’r brifysgol am eu gwyliau. Ysbrydolodd y nofel wreiddiol gyfres deledu drama Gossip Girl, a grëwyd gan Josh Schwartz a Stephanie Savage, ac a ddarlledwyd gyntaf ar sianel The CW ar 19 Medi 2007. Ar hyn o bryd maent yng nghanol darlledu'r drydedd gyfres.

Eginyn erthygl sydd uchod am nofel i bobl ifanc. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato.