Gosen

Oddi ar Wicipedia
Neidio i'r panel llywio Neidio i'r bar chwilio
Gosen
Mathardal hanesyddol, lle yn y Beibl Edit this on Wikidata
Daearyddiaeth
Cyfesurynnau30.8722°N 31.4775°E Edit this on Wikidata

Enw a roddir yn y Beibl Hebraeg ar y rhanbarth ffrwythlon i ddwyrain aberoedd Afon Nîl yng ngogledd yr Aifft yw Gosen, lle y bu'r Israeliaid yn preswylio am oddeutu 430 o flynyddoedd, rhwng dyfodiad Jacob ac ymadawiad yr Iddewon. Gelwir yn gyffredin Tir Gosen a Gwlad Gosen, a chyfeirir ati hefyd fel Tir Rameses. Nid oes tystiolaeth hynafol o'r enw Gosen ar y rhanbarth hwn ac eithrio'r Beibl ei hun.[1] Mae'n cyfateb i ran orllewinol Wadi Tumilat, neu "Gamlas y Pharoaid".

Yn ôl y traddodiad Beiblaidd, rhoddwyd caniatâd i dylwyth Jacob ymsefydlu yng Ngosen, ardal a oedd yn gefnwlad i'r Hen Eifftiaid, o bosib oherwydd ei phellter oddi wrth y rhwydwaith o gamlesi Nilaidd a gloddwyd i ddyfrhau ffermydd. Yr oedd yr Hebreaid yn dal i fyw yn yr ardal adeg y deg pla, ac oddi yma arweiniodd Moses ei bobl allan o'r Aifft i ddiffeithwch Sinai.[1]

Yn neges Joseff at ei dad y ceir y crybwylliad cyntaf am Gosen: "A chai drigo yng Ngwlad Gosen, a bod yn agos ataf fi, ti a'th feibion, a meibion dy feibion" (Genesis 45: 10).

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod y dudalen]

  1. 1.0 1.1 David A. Dorsey, "Goshen" yn The HarperCollins Bible Dictionary, golygwyd gan Paul J. Achtemeier et al. (Efrog Newydd: HarperCollins, 1996), tt. 384–5.